Monday, 28 April 2014

Profiad gwaith yn Llyfrgell Hugh Owen

Mae Laura Nichols, myfyrwraig ar ei thrydedd blwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth newydd orffen lleoliad profiad gwaith byr gyda staff Gwasanaethau Gwybodaeth yn Llyfrgell Hugh Owen trwy gyfrwng GO Wales.

Dyma beth oedd ganddi i'w ddweud : "Mae’r 3 diwrnod yma wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi ac wedi cryfhau fy nealltwriaeth o’r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn y Gwasanaethau Gwybodaeth. Roedd fy niwrnod cyntaf yn canolbwyntio ar Wasanaethau Cwsmeriaid. Cefais fy nghyflwyno i ‘fapio’ gwasanaethau cwsmeriaid sy'n pwysleisio ar rôl y cwsmer mewn prosesau dydd-i-ddydd. Roedd gweithio gyda'r Tîm Benthyca yn brofiad mwy ymarferol - roeddwn yn gallu gweld prosesau megis digideiddio, cyflenwi dogfennau a chyfarfod â chwsmeriaid wrth y ddesg ymholiadau. Roedd gweithio gyda llyfrgellwyr pwnc ar y trydydd diwrnod yn hynod ddiddorol gan fy mod yn medru gweld sut mae staff yn cysylltu â'r gwahanol adrannau. Roedd y casgliadau arbennig hefyd yn ddiddorol a chefais gyfle i eistedd i mewn ar gyfarfod ynglŷn â chynllunio arddangosfa arfaethedig ynglŷn â myfyrwyr o Gymru a aeth i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a oedd yn arbennig o ddiddorol i mi fel myfyriwr Hanes.

Wedi treulio peth amser yma rwyf wedi gweld sut mae pob aelod o’r staff yn gyfrifol am lu o dasgau gwahanol felly nid yw’r gwaith byth yn ddiflas. Mae'r profiad yn wir wedi cryfhau fy nealltwriaeth o’r Gwasanaethau Gwybodaeth ac ennyn diddordeb mewn gyrfa ym maes llyfrgellyddiaeth neu debyg . Roedd yn wych i brofi’r pethau yma ac mae'r staff i gyd wedi bod yn gefnogol ac yn gyfeillgar iawn ".

Sarah Gwenlan, Laura Nichols a Joy Cadwallader yn Hugh Owen Library, Campws Penglais

Wednesday, 2 April 2014

Treialu E-adnodd tan 26 Ebrill 2014 – Irish Newspapers Online

Mynediad ar archive.irishnewsarchive.com neu drwy dudalen Treialon Adnoddau Electronig

“Irish Newspapers Archives yw’r Archif Ddigidol fwyaf o Bapurau Newydd Iwerddon yn y byd, gyda dros 40 teitl o bob rhan o’r wlad, yn rhoi mynediad i filiynau o erthyglau papurau newydd sy’n rhychwantu dros 300 mlynedd o hanes Iwerddon.”

Ceir ynddo gyhoeddiadau digidol o newyddion o 1738 ymlaen, ar hyn o bryd mae’n cynnwys: Freeman's Journal, Irish Independent, Sunday Independent, Irish Farmers Journal a phapurau rhanbarthol eraill. Mae digido mwy o gynnwys y rhain a theitlau newydd eisoes ar y gweill.

•        Gallwch bori yn ôl teitl, allweddair neu gyfnod amser.
•        Chwilio erthyglau, lluniau ac hysbysebion.

Dyma enghraifft o’r hyn y gallwch ei ddarganfod – adolygiad llyfr o’r Irish Independent ar ddydd Mawrth 9fed Mai 1939. Mae’n amlwg nad yw’r adolygydd yn gallu gwneud na pen na chynffon o James Joyce...

Tuesday, 18 March 2014

Dau Farnwr yn ymweld â Llyfrgell Thomas Parry yn yr un wythnos

Post gan Lillian Stevenson, Rheolwr Gwasanaethau Academaidd a Llyfrgellydd y Gyfraith.


 Roedd hi'n bleser gwirioneddol gennym groesawu'r Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd,  Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr a'i Anrhydedd y Barnwr D. Elgan Edwards DL, Cofiadur Caer, i Lyfrgell Thomas Parry, cartref newydd llyfrgell y Gyfraith a Throseddeg. Cafwyd cyfle i drafod rôl gwybodaeth gyfreithiol a llyfrgellwyr y gyfraith o fewn proffesiwn y gyfraith ac addysg gyfreithiol yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Cafodd y myfyrwyr a oedd yn astudio yn y llyfrgell eu croesholi, ond llwyddasant i ddod i ben â'r her!



Thursday, 6 March 2014

Mae Literature Online yn newid

Mae ProQuest Literature Online yn cynnig i fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth fynediad i nifer enfawr o destunau llenyddol yn ogystal â chasgliadau o gyfeiriadau a deunydd beirniadol. Mae’n ffynhonnell angenrheidiol ar gyfer astudio a dysgu llenyddiaeth, barddoniaeth a dramâu Saesneg.

Efallai bydd pethau yn edrych ychydig yn wahanol y tro nesaf byddwch yn ymweld â’r safle gan fod ProQuest wedi datblygu rhyngwyneb cwbl newydd a bydd yr hen fersiwn yn cael ei chau ym mis Mai 2014. Rhowch gynnig ar y safle newydd nawr, Literature Online

'The new Literature Online features all the existing content - the more than 350,000 works of poetry, prose and drama, the ever-growing full-text journal collection, the vast library of reference resources such as biographies, encyclopedias and companions, and the exclusive audio and video offerings - as well as the bespoke and specialist search features and functionalities. Now, however, that advanced functionality and in-demand content has been paired with a modern search interface which is more intuitive and straightforward to use and navigate. What's more, Literature Online is now fully mobile-compatible, meaning you can use it on tablets or smartphones, wherever and whenever you need it.' 

Wednesday, 12 February 2014

Diwrnod ym mywyd llyfrgellydd #2

Anita Saycell, llyfrgellydd Astudiaethau Gwybodaeth a Rheloaeth a Busnes.



8.45yb: Rwy’n cyrraedd y gwaith yn wlyb domen ar ôl y daith i mewn. Ar ôl newid yn gyflym rwyf wrth fy nesg yn darllen fy e-byst. Fel y bydd unrhyw un sy’n gweithio ar sail rhan-amser yn gwybod, nid yw’r e-byst yn peidio er nad ydych chi yn y gwaith! Mae un o’r negeseuon yn cynnwys cais i ddod i ddarlith am 10 munud i egluro i’r myfyrwyr sut i ddod o hyd i adnoddau ar gyfer aseiniadau. Dyma’r sesiynau gorau yn fy marn i, gan eu bod yn darparu cymorth perthnasol lle mae’r angen yn codi.

Thursday, 6 February 2014

Diwrnod ym mywyd llyfrgellydd #1

Cwestiwn: beth mae llyfrgellwyr yn ei wneud?
Cliw: Nid yw’n ymwneud â stampio llyfrau fel rheol.
I gael yr ateb, darllenwch y gyfres newydd hon o erthyglau blog! Rydym eisoes wedi cael cyfres 'cwrdd â’ch llyfrgellydd', ac fe fyddwn yn parhau i ysgrifennu’r rheiny. Enw’r gyfres hon yw 'diwrnod ym mywyd llyfrgellydd' a bydd yn cynnig cipolwg o’r gwaith y mae rhai o’r llyfrgellwyr yn ei wneud ar ddiwrnod nodweddiadol. Byddwn yn dewis ambell ddigwyddiad ar gyfer pob dydd.

Fe wna i ddechrau’r gyfres: Karl Drinkwater ydw i, a fi yw’r llyfrgellydd seicoleg.


Dyma lle ryw’n gweithio (ar fy nhraed).
Rwy’n ei alw’n ‘The Temple of Doom’.