Showing posts with label Adnodd y mis. Show all posts
Showing posts with label Adnodd y mis. Show all posts

Tuesday, 30 May 2017

Adnodd y Mis: European Sources Online






Mae European Sources Online yn gronfa ddata ar-lein eang sy’n rhan o Ganolfan Ddogfennau Ewropeaidd y Brifysgol.

Mae’n rhoi mynediad i’r wybodaeth ddiweddaraf am yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys dogfennau cynradd a swyddogol am bolisïau, sefydliadau a gwledydd.
Mae’r gronfa ddata ESO hefyd yn rhoi mynediad i;
Filoedd o gofnodion ystadegol a dogfennau dethol am yr UE
Dolenni gwe, erthyglau newyddion a chyhoeddiadau am yr UE
Cofnodion llyfryddiaethol ar gyfer erthyglau mewn cyfnodolion a thestunau academaidd pwysig
Canllawiau Gwybodaeth Unigryw sy’n ymchwilio i bynciau allweddol o fewn Ewrop
Gwybodaeth am faterion presennol a blaenorol sy’n effeithio ar ddinasyddion yr UE

Gellir cael mynediad i European Sources Online o rwydwaith y Brifysgol ar http://www.europeansources.info/search.jsp

I gael rhagor o wybodaeth, mae tudalen Cwestiynau Cyffredin European Sources Online ar gael ar http://www.europeansources.info/about.jsp

Os ydych chi eisiau mynediad i European Sources Online oddi ar y campws, rhaid i chi gysylltu drwy VPN y Brifysgol: https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/vpn/



Thursday, 23 March 2017

IBISWorld – adnodd newydd – ar gael nawr!

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi prynu IBISWorld yn ddiweddar 



Mae IBISWorld yn darparu data diwydiannol i dros 400 diwydiant ym Mhrydain gyda chwilotydd ac adroddiadau sy’n hawdd eu defnyddio. 

Mae’r adnodd hwn yn ddefnyddiol i bawb sy’n ; 

Paratoi ar gyfer cyfweliad / llwyddiant mewn swydd– Dewch i wybod mwy am y sector o’r diwydiant y mae’r cwmni’n gweithio ynddo, y gystadleuaeth, y chwaraewyr mawr yn y maes, a chael gwell dealltwriaeth o waith y diwydiant hwnnw. 

Ymchwil ar gyfer aseiniadau / traethawd hir – Mae IBISWorld yn darparu yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn deall yr amodau gweithredu, a rhagolygon tymor hir diwydiannau mawr a diwydiannau arbenigol.
    
Ystadegau Diwydiant –Mae’r adroddiadau diwydiant yn darparu data a dadansoddiad ar bob diwydiant ac yn cael eu hegluro gyda graffiau clir a siartiau data. Gall y siartiau data gael eu trosglwyddo i Excel yn rhwydd, ac mae’r data’n ddelfrydol ar gyfer dadansoddiad SWOT, PESTLE, a Phum Llu Porter. 

Mae pob adroddiad diwydiant yn darparu;

Data perfformio manwl a dadansoddiad o’r farchnad
Gwybodaeth am y gadwyn gyflenwi
Cryfderau a gwendidau gweithredu
Sbardunau allanol 
Strategaethau marchnad y chwaraewyr mawr
Elw’r diwydiant
Meincnodau strwythur cost

Gweler IBISWorld ar-lein; www.ibisworld.co.uk  (Nid oes angen cyfrinair os ydych yn cysylltu â’r wefan trwy rwydwaith y brifysgol) 

Gweler sesiynau tiwtora fideo yma: http://clients1.ibisworld.co.uk/about/uk/tutorials/ 

Os ydych am ddefnyddio IBISWorld pan nad ydych ar y campws, cysylltwch trwy rwydwaith Preifat Rhithiwr y Brifysgol https://www.aber.ac.uk/en/is/it-services/vpn/ 

Thursday, 16 February 2017

Adnodd y Mis; Box of Broadcasts

Mae Box of Broadcasts yn rhoi mynediad ar alw, rhad ac am ddim i dros filiwn o raglenni teledu a radio at ddibenion dysgu, ymchwilio ac addysgu.



Pam mae’r adnodd yn ddefnyddiol i fyfyrwyr;

  • Mae Box of Broadcasts yn rhoi mynediad i raglenni teledu a radio a ddarlledwyd yn ddiweddar a rhai hŷn a archifwyd sydd ar gael i’w recordio ac i edrych arnynt ar alw.
  • Mae rhaglenni ar alw Box of Broadcasts bellach ar gael i edrych arnynt yn unrhyw le ar nifer o lwyfannau – mae’r dyfeisiau sy’n cydweddu’n cynnwys bwrdd gwaith, iOS, Android a Windows Mobile.
  • Gellir gwylio a recordio rhaglenni o dros 60 o sianeli teledu, radio ac ieithoedd tramor Freeview – gan gynnwys BBC, ITV, Channel 4, Channel 5, S4C, Sky News a BBC Radio Cymru.
Ewch i Box of Broadcasts ar: https://learningonscreen.ac.uk/ondemand/listings
Os ydych chi’n ceisio cael mynediad i Box of Broadcasts oddi ar y campws, cysylltwch drwy VPN y Brifysgol gyntaf:

Gwyliwch y tiwtorial fideo hwn am sut i ddefnyddio Box of Broadcasts:

Cysylltwch ag acastaff@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu arddangosiad.