Thursday 30 October 2014

‘Mynediad i Hart Collection (Law) & Human Rights Law Collection ebooks (Bloomsbury)

Mae gan Brifysgol Aberystwyth fynediad i Hart Collection a Human Rights Law Collection drwy Bloomsbury. Mae Hart Collection yn gasgliad digidol o tua 100 o lyfrau gan gynnwys International Law and Child Soldiers a The Law and Practice of Piracy at Sea.  Casgliad o 40 o lyfrau digidol yw Human Rights Law Collection, gan gynnwys teitlau megis Current Problems in the Protection of Human Rights a Freedom of Artistic Expression: Essays on Culture and Legal Censure.


Bydd y prawf yn dod i ben ar 30 o Dachwedd 2014.

Monday 20 October 2014

Wythnos Mynediad Agored Ryngwladol, 20-26 Hydref 2014

Bydd yr Wythnos Mynediad Agored Ryngwladol (20-26 Hydref 2014) yn rhoi’r cyfle i’r gymuned academaidd ac ymchwil ddysgu mwy am fanteision posibl Mynediad Agored –
mynediad am ddim, ar-lein i ganlyniadau ymchwil ysgolheigaidd, a’r hawl i ddefnyddio ac ailddefnyddio’r canlyniadau hynny.

Mae gan Fynediad Agored y grym i drawsnewid y ffordd y mae ymchwil ac ymchwiliadau gwyddonol yn cael eu cyflawni, gan fod noddwyr ymchwil a
Chynghorau Cyllido fel ei gilydd wedi lansio polisïau Mynediad Agored yn ddiweddar.

Nid yw gweithredu Mynediad heb ei broblemau, fodd bynnag. Mae gweithgor Mynediad Agored Prifysgol Aberystwyth, sef cydweithredu rhwng y Gwasanaethau
Gwybodaeth a’r Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi, yn gwahodd academyddion ac ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth i gyfres o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos
Mynediad Agored. Ymhlith y digwyddiadau fydd:

• Sesiwn Holi ac Ateb gyda Chynghorydd Polisi Addysg Uwch CCAULl, Ben Johnson, a chynrychiolwyr o’r gymuned gyhoeddi, PLOS, JISC Monographs, BioMedCentral a Wiley – Sinema Canolfan y Celfyddydau, bore Gwener 24 Hydref, 9.30 o'r gloch

• Sesiynau diweddaru hyfforddiant PURE, 12 o’r gloch, ddydd Mercher 22 a dydd Iau 23 Hydref, Ystafell Hyfforddi Hugh Owen. Gellir neilltuo lle drwy
wefan y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd.

• “Who owns what and what can they do with it? Copyright and your research publications workshop” (dydd Mawrth, 21 Hydref, 1-2 o'r gloch) gyda Rheolwr Gwarchod Data a Hawlfraint Prifysgol Aberystwyth, Dr Jonathan Davies; anfonwch neu dewch â chytundebau trwydded/hawlfraint y gofynnwyd ichi eu llofnodi wrth gyhoeddi erthyglau.  Anfonwch
drwyddedau (neu giplun o drwyddedau) a’ch cwestiynau at openaccess@aber.ac.uk

 
 
Steve Smith