Thursday 12 December 2013

Sut ysbrydolodd “Aberystwyth” Nelson Mandela a Mudiad Rhyddid Affrica

Wrth i’r byd ddathlu bywyd a choffau marwolaeth un o un o gewri hanes , Tata Nelson “Madiba” Mandela, mae’n werth atgoffa ein darllenwyr sut yr ysbrydolodd cerddoriaeth un o feibion Cymru Mandela a mudiad rhyddid De Affrica. Cyfansoddodd Dr Joseph Parry, athro cerddoriaeth cyntaf Prifysgol Aberystwyth, yr emyn dôn “Aberystwyth” yn 1879. Hwn oedd yr emyn a ysbrydolodd Enoch Sontoga, athro Methodistaidd, i gyfansoddi “Nkosi Sikelel iAfrika”” (Arglwydd bendithia Affrica), i dôn Joseph Parry ym 1897. Yn ddiweddarach daeth “Nkosi Sikelel iAfrika” yn symbol o undod Affricanaidd ac yn anthemau cenedlaethol i wledydd Dde Affrica, Zambia, Tanzania, Namibia a Zimbabwe.

Enwyd Neuadd Joseph Parry, ar bwys Yr Hen Goleg, ar ôl y cyfansoddwr a cheir rhai o’i weithiau yn y Casgliad Celtaidd yn Llyfrgell Hugh Owen.

--
Sahm Nikoi.

Friday 6 December 2013

Oeddech chi'n gwybod bod fersiwn o Primo ar gael ar gyfer eich ffôn symudol?

Mae fersiwn ysgafn o Primo ar gael nawr ar https://m.primo.aber.ac.uk/ . Gellir  cael mynediad iddo o amrywiaeth o ddyfeisiau symudol megis ffonau clyfar neu lechi, sy'n eich galluogi i gysylltu â'r gwasanaeth llyfrgell tra’n mynd o gwmpas eich pethe.

Mae'r rhyngwyneb sy’n hawdd ei ddeall a’i ddefnyddio yn eich galluogi i chwilio am lyfrau, teitlau cyfnodolion a DVDs o’ch ffôn neu lechen. Mae nodweddion ychwanegol ar gael os ydych yn mewngofnodi gyda'ch enw defnyddiwr a chyfrinair Aber sy'n eich galluogi i adnewyddu llyfrau sydd ar fenthyg, cadw llygad ar ffioedd a dirwyon neu wirio eich rhif PIN llyfrgell.