Tuesday 23 April 2013

Ffynonellau ar gyfer Cyrsiau: Papurau Newydd Cymru ar-lein





Mae'r adnodd ar-lein hyblyg hwn yn eich galluogi i ddarganfod miliynau o erthyglau sydd yng nghasgliad cyfoethog o bapurau newydd hanesyddol y Llyfrgell Genedlaethol. Mae modd ichi chwilio a chael mynediad i dros 250,000 o dudalennau  24 papur newydd gwahanol hyd at 1910.


Mae papurau newydd yn cynrychioli ffynhonnell bwysig iawn ar gyfer astudio hanes diweddar, ac mae'r prosiect hwn yn galluogi mynediad hawdd i dros 600,000 o dudalennau yn rhad ac am ddim.





Tuesday 9 April 2013

Gwasanaeth Argymell Erthyglau Cyfnodolion yn Primo

Pan fyddwch yn chwilio am erthyglau cyfnodolion yn defnyddio Primo Central, efallai y byddwch yn dod ar draws tab sy'n dangos erthyglau perthnasol. Mae hwn yn argymell erthyglau y mae’n tybio a all fod o ddefnydd i chi, yn seiliedig ar ystadegau defnydd ysgolheigaidd.

I ddefnyddio'r gwasanaeth, mewngofnodwch i Primo, dewiswch Primo Central o'r gwymplen ar bwys y blwch chwilio a chlicio ar y tab Argymhellion yn y canlyniadau chwilio.

Mae'r nodwedd hon yn gweithio mewn ffordd debyg i'r nodweddion ar safleoedd masnachol megis Amazon, sy'n gallu darparu argymhellion personol yn seiliedig ar eich chwilio a hanes prynu.

Yn yr enghraifft hon, mae agor erthygl cyfnodolyn sy’n dwyn y teitl Economics yn The ANNALS of the American Academy of Political and Social Science yn cynhyrchu rhestr o erthyglau tebyg sy’n cael eu hargymell.

Monday 8 April 2013

Ffynonellau ar gyfer Cyrsiau: BBC Your Paintings

Mae casgliad newydd o beintiadau olew can gwaith maint Oriel Genedlaethol Llundain yn awr i'w gweld ar-lein. Lluniau sydd yn y byd cyhoeddus yw’r casgliad yn bennaf, sydd hefyd yn cynnwys ychydig ddarnau o gelf nad oes modd i’r cyhoedd fel arfer eu gweld.

 Mae'r prosiect yn anelu at wneud y casgliad hwn o baentiadau olew yn chwiliadwy trwy ofyn am help y cyhoedd i dagio’r paentiadau gyda manylion am eu cynnwys. Mae hyn yn cynorthwyo i wneud y gronfa ddata yn ddefnyddiol fel adnodd academaidd trwy alluogi myfyrwyr i chwilio am nodweddion penodol yn y gelf a astudir ganddynt.


Mae'r wefan hefyd yn cynnwys 'teithiau rhithwir' sy'n cynnwys podlediadau sy’n archwilio hoff beintiadau ffigurau adnabyddus a haneswyr celf.