Thursday 27 May 2010

BFI InView


Rydym newydd drefnu i’n defnyddwyr gael defnyddio gwasanaeth InView y BFI. Mae’n cynnwys mwy na 2,000 o deitlau ffilm a theledu, nad ydynt yn gynyrchiadau ffuglenol, o’r 20g tan ddechrau’r 21g. Mae’n hawdd chwilio drwy’r teitlau ac mae wedi’i drefnu yn ôl chwech o brif themâu, a phob un â thraethawd cyflwyniadol gan hanesydd academaidd.

Tuesday 18 May 2010

Arolwg Critigol: Tynnu’n ôl cyfnodolion print a chynllunio symud casgliadau

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn parhau i arolygu mynediad i gasgliadau cyfredol o gyfnodolion print. Mae staff a myfyrwyr yn gwneud defnydd mwyfwy o adnoddau electronig o’i gymharu â chyfnodolion print ac mae’r galwadau ar ofod yn Llyfrgell Hugh Owen yn cynyddu wrth iddi ddechrau darparu gwasanaeth i’r adrannau sy’n cael eu symud i Gampws Penglais.
Oherwydd hyn y mae angen cynnal arolwg critigol o’r casgliadau llyfrgell presennol a’r cam nesaf yw ystyried tynnu’n ôl cyfnodolion print y celfyddydau, dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol sydd ar gael yn electronig ar JSTOR o dan y cynllun UKRR.

Gweler yma restr o holl gyfnodolion y celfyddydau, dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol sydd ar gael ar JSTOR

Friday 7 May 2010

Principia Newton ar Early English Books Online


Gellir gweld Principia Newton a ymddangosodd ym mhennod gyntaf The Story of Science ar BBC2 yn Early English Books Online (EEBO). Mae pob tudalen wedi ei digideiddio fel y gall staff a myfyrwyr PA gael cipolwg ar y testun fel a ymddangosodd yn wreiddiol yn 1687. Mae EEBO yn cynnwys dros 125,000 o’r llyfrau cynharaf a argraffwyd yn yr iaith Saesneg ac mae chwiliadau testun llawn eisoes wedi eu hychwanegu at nifer o’r teitlau sydd wedi eu digideiddio. Porwch ymhlith rhestr o adnoddau arlein pwysig y mae Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifio iddynt, neu gellir eu gweld wedi eu crynhoi fesul pwnc yn yr eLyfrgell.

Wednesday 5 May 2010

Astudiaeth Gofod Astudio Gwasanaethau Gwybodaeth


Mae Grŵp Gofodau Dysgu'r Brifysgol angen eich cymorth i weld pa fath o ofodau sydd eu hangen ar gyfer eich astudiaethau/ymchwil trwy ofyn ichi lenwi'r arolwg hwn. Byddwn yn defnyddio'r canlyniadau i lunio ein cynlluniau.

Dim ond tair tudalen o gwestiynau byr sydd i'r arolwg -- mae gwir angen eich mewnbwn arnom. Felly os gwelwch yn dda cwblhewch cymaint ohono ag sy'n bosib.

Bydd yr arolwg sy'n cymryd rhyw 15 munud i'w lenwi yn ddienw. Gellir ei arbed wrth ichi ei lenwi.