Showing posts with label mynediad agored. Show all posts
Showing posts with label mynediad agored. Show all posts

Friday, 26 January 2018

Cyflwyno Adnodd Hidlo Mynediad Agored yn Web of Science

Yn y diweddariad newydd i ryngwyneb Web of Science, sydd ar gael drwy dab Adnoddau Primo (http://primo.aber.ac.uk) neu’n uniongyrchol ar http://wok.mimas.ac.uk, cyflwynwyd adnodd i hidlo canlyniadau eich chwiliad i ddangos yr eitemau hynny sydd ar gael drwy Fynediad Agored yn unig. Gan ddefnyddio meddalwedd a ddatblygwyd gan ImpactStory, darperir dolenni i fersiynau terfynol neu fersiynau sydd wedi cael eu hadolygu gan gymheiriaid o bapurau Mynediad Agored, a gyhoeddwyd naill ai drwy’r llwybr Mynediad Agored Aur (sydd fel rheol yn cynnwys talu Costau Prosesu Erthygl i sicrhau argaeledd di-oed) neu’r llwybr Mynediad Agored Gwyrdd (a gyflawnir trwy adneuo ôl-brint yr awdur mewn cadwrfa sefydliadol).

Yn y rhestr gyntaf o ganlyniadau a geir yn Web of Science, bydd hi’n hawdd adnabod yr holl gofnodion Mynediad Agored oherwydd y defnyddir logo Mynediad Agored.




Mae gan Bapur Gwyn diweddaraf Web of Science ar Fynediad Agored a’u poster Mynediad Agored newydd fanylion llawn am yr adnodd newydd hwn.

Steve Smith
Grŵp Ymgysylltu Academaidd

Friday, 14 July 2017

Y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Ymchwil ac Arloesedd – Adroddiad y Grwp Arbenigol ar Altimetrigau


Sefydlwyd Grwp Arbenigol ar Altimetrigau y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Ymchwil ac Arloesedd i ystyried sut i ddatblygu metrigau (altimetrigau) cyhoeddi ar lefel Erthyglau yng nghyd-destun yr agenda mynediad agored, i adolygu gwahanol fesurau’n ymwneud ag altimetrigau mewn perthynas â dulliau mwy sefydledig o fesur allbwn ymchwil; sut i gael gwared â’r rhwystrau presennol sy’n atal ymchwil agored/ gwyddoniaeth agored; ac argymell fframwaith i helpu i ymgorffori ymchwil agored i’r diwylliant academaidd. Mae eu hadroddiad "Next-Generation Metrics: Responsible metrics and Evaluation for Open Science" yn argymell y dylai’r Comisiwn Ewropeaidd ddarparu canllawiau clir ar gyfer defnydd cyfrifol o fertigau i gefnogi ymchwil agored yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf (FP9); y dylid ymchwilio i’r potensial ar gyfer gêm-dwyllo unrhyw altimetrigau newydd arfaethedig ar gyfer FP9, cyn eu cyflwyno ac y dylid cynnwys mecanweithiau gwobrwyo priodol wrth roi egwyddorion ymchwil agored ar waith yn FP9.

Friday, 18 March 2016

Adolygiad o Effeithlonrwydd a Chyfyngiadau archnadoedd Mynediad Agored Aur

Mae asesiad newydd o sut mae marchnadoedd Mynediad Agored Aur “talu-i-gyhoeddi” yn gweithio wedi cael ei gyhoeddi gan JISC (11 Chwefror 2016) mewn cydweithrediad â Research Libraries UK, SCONUL a Chymdeithas Rheolwyr a Gweinyddwyr Ymchwil (ARMA). Mae’r adolygiad “Academic Journal Markets: their Limitations and the Consequences for a Transition to Open Access” yn dod i’r casgliad bod y system newydd pwrpasol ar gyfer cyhoeddi mynediad agored, gydag awduron neu eu sefydliadau yn talu Tâl Prosesu Erthygl (APCs) i alluogi mynediad agored i bob papur yn y cyfnodolyn, yn gweithio’n weddol dda. Dywed fod rhwystrau isel i fynediad, lefelau uchel o ddatblygiad technolegol a chwsmeriaid yn ymateb yn dda i wahaniaethau prisio APC rhwng cyfnodolion a chyhoeddwyr.

Mae safonau’r gwasanaeth a gynigir i awduron gan y cyhoeddwyr Mynediad Agored Aur newydd yn cymharu’n dda â’r gwasanaeth a gynigir gan y cyhoeddwyr tanysgrifio traddodiadol sy’n cynnig dewisiadau mynediad agored “hybrid”. Mesurwyd pa mor ddibynadwy ac agored yw erthyglau unigol, rhychwant y trwyddedau ailddefnyddio mynediad agored sydd ar gael a’r Tâl Prosesu Erthygl a godir, a gwelwyd eu bod oll yn well ym marchnad bwrpasol mynediad agored.

Asesir nad oes modd ‘cynnal’ na ‘dringo’ y “cynigion gwrthbwyso” (offset deals) a gynigir gan gyhoeddwyr tanysgrifio traddodiadol, sef bod y taliadau APC a godir ar sefydliadau’r awduron yn cael eu cydbwyso yn erbyn ffioedd tanysgrifio, fel nad yw cyfanswm y taliadau a wneir gan brifysgolion ar gyfer cyhoeddi mewn cyfnodolyn penodol a thanysgrifio iddo yn codi yn anghymesur drwy “drochi ddwywaith”. Mae’r baich gweinyddol y mae systemau gwrthbwyso o’r fath yn ei roi ar gyhoeddwyr a sefydliadau academaidd yn cael ei ystyried yn arwyddocaol ac yn gymhlethu diangen ar strwythur y farchnad mynediad agored.

Mae sylw hefyd i effaith cymalau ‘ni ellir canslo’ wrth danysgrifio i “gynigion mawr” cyhoeddwyr tanysgrifio yn gyson yn gwasgu cyhoeddwyr llai allan o’r farchnad cyfnodolion yn gyfan gwbl, a cheir sôn yn benodol am effeithiau gor-grynhoi yn y sector cyhoeddi academaidd, cyfyngu ar amrywiaeth y cyfnodolion sydd ar gael, a gostyngiad yn y cyllid ar gyfer prynu testunau israddedig.

Er gwaethaf yr holl fanteision hyn, serch hynny, mae cynnydd tuag at fynediad agored yn y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn arafach nag y gellid bod wedi disgwyl, gyda dros 60% o ymchwil yn y DU yn dal i fod y tu ôl i rwystrau tanysgrifiad yn 2015 yn ôl y Rhwydwaith Gwybodaeth Ymchwil gan arwain o bosibl at golli cyfleoedd masnachol a chyfyngu ar effaith academaidd y Deyrnas Unedig.

Ceir sylwadau hefyd ynghylch y ffaith mai’r Deyrnas Unedig a’r Iseldiroedd yw’r unig wledydd hyd yma i flaenoriaethu llwybr Mynediad Agored Aur, gyda’r rhan fwyaf o wledydd eraill a sefydliadau rhyngwladol yn ffafrio llwybr Mynediad Agored Gwyrdd o adneuo fersiynau ar ôl argraffu neu fersiynau terfynol dan embargo mewn cadwrfeydd pwnc neu sefydliadol. Mae cyhoeddi academaidd wir yn farchnad ryngwladol ac os bydd y farchnad Mynediad Agored Aur yn gyfyngedig i ddwy neu dair gwlad yn unig, bydd ei siawns o ymdreiddio i farchnad fyd-eang yn parhau i fod yn fach a’r cynnydd yn araf.

I gloi, mae’r adroddiad yn argymell nifer o strategaethau er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg treiddiad i’r farchnad Mynediad Agored Aur, gan gynnwys:

  • cyfyngu ar y graddau y gellir defnyddio grantiau Mynediad Agored yr RCUK ar gyfer cyhoeddi mewn cylchgronau hybrid, 
  • datblygu dangosyddion ansawdd gwell ar gyfer cyfnodolion i annog awduron i gyhoeddi mwy o’u papurau pwysig mewn cyfnodolion Mynediad Agored Aur pwrpasol, 
  • a sicrhau bod cyhoeddwyr cymdeithasau bach yn cael  mecanweithiau effeithiol i aros yn y farchnad gyhoeddi Mynediad Agored.


Gellir gwneud sylwadau ar Twitter drwy ddefnyddio #OAjournalsmarket 

Steve Smith
Grwp Cysylltiadau Academaidd
Llyfrgell Hugh Owen

Friday, 12 February 2016

Adolygiad Annibynnol Tickell ar gynnydd yn y Modelau Mynediad Agored

Comisiynwyd adolygiad annibynnol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gynnydd diweddar yn y farchnad cyhoeddiadau mynediad agored "Open Access to Research Publications: Independent Advice" wedi’i gyhoeddi ar 11 Chwefror, mae’r adolygiad yn argymell cymryd y camau canlynol:

i) Parhau i gefnogi’r model Mynediad Agored Aur ond nodi bod rhai cyrff cyllido ymchwil rhyngwladol yn amlwg yn ffafrio’r aur a bod y mwyafrif helaeth yn cefnogi’r Gwyrdd, gyda hyblygrwydd i awduron gyhoeddi drwy’r Aur.

ii) Mae modelau busnes ar gyfer cyhoeddi cyfnodolion Mynediad Agored wedi bod yn llai ymatebol i bwysau’r farchnad nag a ragwelwyd ac mae costau yn parhau i godi. Bu cynnydd ‘cyson a sydyn’ yng nghost gyfartalog prynu papurau Mynediad Agored Aur, ac nid yw’r gostyngiad cyfatebol mewn costau tanysgrifio wedi bod yn gymesur. Gallai’r costau o wthio ffafriaeth gref am Fynediad Agored Aur godi o £33m yn 2014 i rhwng £40 a £83m erbyn 2020, gydag oddeutu tri chwarter o’r cynnydd hwn yn ganlyniad i gyhoeddi mewn teitlau mynediad agored / tanysgrifiad hybrid.

iii) Er y cydnabyddir yn eang mai’r Deyrnas Unedig yw’r wlad fwyaf blaenllaw yn y mudiadau Mynediad Agored a Data Agored, mae yna gyrhaeddiad byd-eang i’r farchnad cyhoeddiadau cyfnodolion. Fel y cyfryw, mae’n rhaid ystyried datblygiadau polisi Mynediad Agored y Deyrnas Unedig yng ngoleuni patrymau a dewisiadau rhyngwladol.

iv) Dylai pob prifysgol yn y Deyrnas Unedig gofrestru â Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA) yn http://www.ascb.org/dora/ er mwyn sicrhau nad yw pwysau asesu ansawdd ymchwil (e.e. y REF) yn rhoi gormod o bwysau chwyddiannol ar y farchnad Mynediad Agored Aur.

v)  Dylai Grwp Cydlynu Mynediad Agored y Deyrnas Unedig gefnogi datblygu safonau gwasanaeth y cytunwyd arnynt yn ymwneud â Mynediad Agored Aur, er mwyn cydnabod y pryderon am wasanaeth gwael ac ymateb y farchnad gan rai cyhoeddwyr. I gefnogi’r amcan hwn, dylai’r Grwp gynnull is-grwp i’r Fforwm Effeithlonrwydd i edrych ar sut mae’r farchnad mynediad agored yn gweithio, is-gr?p Cadwrfeydd i sicrhau fod y gallu i ryngweithredu yn parhau rhwng cadwrfeydd y Deyrnas Unedig, ac is-gr?p Monograffau/Ysgrifau i ddatblygu polisïau ar gyfer mynediad agored yn y farchnad lyfrau.

vi) Mae Mynediad Agored i ddata ymchwil wedi datblygu’n arafach nag ar gyfer cyhoeddiadau ymchwil. Bydd y Concordat ar Ddata Ymchwil Agored yn cael ei gwblhau yn gynnar yn 2016, ac er bod manteision gwyddonol a chyhoeddus wrth fwrw ymlaen â data ymchwil agored, nid yw’r goblygiadau cost ynghylch dosbarthu data o’r fath i’r sector masnachol yn cael eu deall yn llawn eto.

vii) Dylai Fforwm Data Agored y Deyrnas Unedig gydlynu gwaith sy’n ymwneud â hyrwyddo’r map ffordd ar Reoli Data Ymchwil yn y DU.

viii) Mae Llywodraeth yr Iseldiroedd wedi ymrwymo i wneud Mynediad Agored yn flaenoriaeth yn eu Llywyddiaeth ar Gyngor yr Undeb Ewropeaidd – mis Ionawr i fis Mehefin 2016

Mae Jo Johnson, y Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, wedi croesawu’r adroddiad ac wedi cefnogi ymdrechion yn y dyfodol i wneud Mynediad Agored / trefniadau gwrthbwyso tanysgrifio yn fwy economaidd i’r sectorau academaidd ac ymchwilio. Gofynnwyd am adroddiad ar gynnydd pellach erbyn diwedd 2017.

Steve Smith
11 Chwefror 2016

Tuesday, 17 November 2015

Adroddiad yr OECD “Making Open Science a Reality”

Mae adroddiad yr OECD ym mis Hydref 2015, “Making Open Science a Reality", yn adolygu’r cynnydd sydd wedi’i wneud i sicrhau bod canlyniadau papurau sy’n deillio o ymchwil sydd wedi’i gyllido’n gyhoeddus a’r data ymchwil cysylltiedig ar gael drwy Fynediad Agored, gan edrych ar y rhesymwaith y tu ôl i fynediad agored a’r effaith mae polisïau mynediad agored wedi’i gael hyd yma, y rhwystrau cyfreithiol at gynnydd ac adolygiad o’r actorion allweddol yn y maes.

Y prif gasgliadau yw:

Bod Gwyddoniaeth Agored yn fodd i gefnogi gwyddoniaeth o ansawdd well, cynyddu cydweithio, gwell ymgysylltu rhwng ymchwil a chymdeithas
Y bydd Gwyddoniaeth Agored yn arwain at effaith gymdeithasol ac economaidd uwch i ymchwil cyhoeddus.
Bod angen gwell trefniadau i hyrwyddo arferion rhannu data rhwng ymchwilwyr

Steve Smith
Grwp Cysylltiadau Academaidd
Llyfrgell Hugh Owen
17 Tachwedd 2015



Wednesday, 4 November 2015

Datganiad Cymunedau Ewropeaidd ar Fodelau Amgen ar gyfer Cyhoeddi Mynediad Agored

Gyda’r Undeb Ewropeaidd a’r mwyafrif o gyllidwyr ymchwil mawr y DU bellach yn ei gwneud yn orfodol i gyhoeddi ymchwil a gyllidir yn gyhoeddus drwy Fynediad Agored, mae’r galwadau i ddatblygu model tymor hir, cynaliadwy o gyhoeddi mynediad agored yn tyfu’n fisol. Fel rhan o’r broses hon, trefnodd y Comisiwn Ewropeaidd weithdy ym Mrwsel ar 12 Hydref i gasglu gwybodaeth ac adfyfyrio ar rai o’r modelau cyllidol sefydledig a rhai sydd wedi’u datblygu’n ddiweddar ym maes cyhoeddi Mynediad Agored.

Mae gan y model mynediad agored gwyrdd sy’n defnyddio ystorfeydd sefydliadol neu bwnc a’r model mynediad agored aur sydd â thaliadau prosesu erthygl ill dau eu manteision a’u hanfanteision, ond mae modelau newydd yn dod i’r amlwg bellach a allai optimeiddio’r modelau cyfredol a ffurfio llwybrau ar gyfer creu senarios mynediad agored newydd. Gellir gweld y cyflwyniadau a roddwyd ar rai o’r modelau mynediad agored newydd hyn ar wefan Ymchwil ac Arloesi Agenda Digidol y Gymuned Ewropeaidd.

Lansiwyd trafodaeth ar ddyfodol modelau cyhoeddi Mynediad Agored hefyd ar y Llwyfan Digital4Science newydd. Gallwch ymuno â’r drafodaeth yma:
https://ec.europa.eu/futurium/en/content/what-future-open-access-publishing

Yn ogystal â’r gweithdy cyhoeddodd Comisiynydd Ymchwil y CE Carlos Moedas ddatganiad yn galw ar gyhoeddwyr i addasu eu modelau cyhoeddi Mynediad Agored i’r realiti cyllidol newydd. Mae'r datganiad hwn i'w weld ar wefan Europa y CE.

Steve Smith
Grwp Cysylltiadau Academaidd
Llyfrgell Hugh Owen
4 Tachwedd 2015


Thursday, 29 October 2015

Datganiad Mynediad Agored Cynghrair Prifysgolion Ymchwil Ewrop (LERU)

Cyhoeddodd Cynghrair Prifysgolion Ymchwil Ewrop (LERU) ddatganiad newydd ar fynediad agored ar 12 Hydref 2015 yn galw ar i gyllid ymchwil ganolbwyntio ar ymchwil, yn hytrach na chael ei ddargyfeirio’n ormodol i gyfeiriad cyhoeddwyr. Mae’n galw ar y Comisiwn Ewropeaidd i weithio gyda’r sectorau prifysgol ac ymchwil cyhoeddus, cyllidwyr, cyhoeddwyr ac awduron i ddatblygu modelau a datrysiadau ar gyfer cefnogi cyhoeddi mynediad agored yn gynaliadwy, drwy lwybrau Mynediad Agored Aur a Gwyrdd, ond gan ganiatáu i gyhoeddwyr masnachol gynnal enillion hyfyw yr un pryd. Yn benodol, mae’r datganiad yn galw ar Lywyddiaeth arfaethedig yr Iseldiroedd o’r Comisiwn Ewropeaidd rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2016 i alw’r holl bartïon â diddordeb at ei gilydd i ddatblygu ffordd ymlaen fyddai’n dderbyniol i’r holl bartïon ar sail ryngwladol.

Gellir gweld datganiad lawn LERU, "Christmas is over. Research funding should go to research, not to publishers!" yma.


Monday, 4 May 2015

Adroddiad Ymddiriedolaeth Wellcome / Research Information Network ar Ysgolheictod ac Adolygu Cymheiriaid



Mewn ymateb i bryderon academaidd ynghylch effeithiolrwydd trefniadau adolygu gan gymheiriaid ar gyfer papurau a gyhoeddir mewn cyfnodolion, comisiynodd Ymddiriedolaeth Wellcome y Research Information Network (RIN) (http://www.rin.ac.uk/) i ymchwilio i strategaethau posibl i wella’r system adolygu cymheiriaid yng ngoleuni:
i) argaeledd technolegau newydd mewn e-gyfnodolion
ii) y nifer fawr o newydd-ddyfodiaid ym maes cyhoeddi cylchgronau academaidd, yn enwedig cyhoeddi mynediad agored.

Cyhoeddwyd adroddiad y Wellcome Trust / RIN ym mis Mawrth 2015 -
http://www.wellcome.ac.uk/stellent/groups/corporatesite/@policy_communications/documents/web_document/wtp059003.pdf

Mae’r adroddiad yn rhagweld y datblygiadau canlynol:
Bydd mesurau arloesol fel adolygu gan gymheiriaid ar ôl cyhoeddi ac adolygu agored gan gymheiriaid yn araf yn datblygu gan fod y diwylliannau academaidd sy’n cefnogi’r system gyfredol o adolygu gan gymheiriaid cyn cyhoeddi’n bwerus iawn
Er y byddai’n beth da i bob cam o’r broses adolygu gan gymheiriaid fod yn fwy agored, rhaid gwahaniaethu rhwng datgelu enwau adolygwyr a datgelu cynnwys eu hadolygiadau
Mae angen mwy o ryngweithio rhwng golygyddion, adolygwyr ac awduron, cyn ac ar ôl cyhoeddi
Mae mesurau ar lefel erthygl (altmetrics), sy’n mesur y nifer o sylwadau, graddiadau, llyfrnodau a sylw yn y newyddion mae papurau’n eu derbyn ar y we ac yn y cyfryngau cymdeithasol, yn dod yn gynyddol bwysig fel dulliau amgen o fesur ymgysylltu â’r cyhoedd
Mae angen cyflwyno rhyw fath o gydnabyddiaeth ysgolheigaidd i gydnabod cyfraniadau adolygwyr cymheiriaid, fel y dengys datblygiad systemau fel Peerage of Science
(https://www.peerageofscience.org/) a Publons (https://publons.com/). Dylai’r gydnabyddiaeth hon fod ar ffurf priodoli, gan nad oes fawr o frwdfrydedd am system o wobrwyo ariannol ar hyn o bryd
Mae angen gwahaniaethu rhwng adolygu gan gymheiriaid i bennu cadernid academaidd unrhyw bapur ac adolygu i bennu a yw papur yn cyd-fynd â chwmpas ac uchelgais y cyfnodolyn y’i cyflwynwyd iddo. Mae cyhoeddwyr bellach yn dechrau sefydlu “systemau rhaeadru” er mwyn osgoi adolygu’r un papur fwy nag unwaith.

Dywed yr adolygiad nad yw hi eto’n glir a fydd systemau adolygu trydydd parti’n cynyddu eu rôl o fewn cyhoeddi academaidd ai peidio. Fodd bynnag mae’n sicr y byddai cyhoeddwyr academaidd yn croesawu mwy o arweiniad gan ymchwilwyr, adolygwyr a golygyddion o ran y mathau o adolygu gan gymheiriaid maent am eu gweld a’r dibenion y dylai eu cyflawni.  Oni bai bod modd diffinio dibenion adolygu gan gymheiriaid yn gliriach, mae’n bosibl y bydd datblygiadau diweddar o ran adolygu cymheiriaid agored, trydydd parti ac ôl-gyhoeddi yn profi’n ddibwrpas.

I grynhoi, wrth i’r pwysau gynyddu ar ymchwilwyr i gyhoeddi mewn cyfnodolion statws uchel, yn enwedig wrth i gyllidwyr ymchwil edrych am fesurau gwerth mwy meintiol ar gyfer eu gwariant ymchwil, mae angen i gyhoeddwyr a golygyddion wneud yn siŵr fod adolygu gan gymheiriaid yn parhau’n ffilter effeithiol i gynnal safonau academaidd ac tal twyll academaidd. Mae’n hanfodol felly sicrhau gwasanaethau adolygwyr cymheiriaid gwybodus a’u hyfforddi’n briodol.

Steve Smith
1 Mai 2015

Monday, 20 October 2014

Wythnos Mynediad Agored Ryngwladol, 20-26 Hydref 2014

Bydd yr Wythnos Mynediad Agored Ryngwladol (20-26 Hydref 2014) yn rhoi’r cyfle i’r gymuned academaidd ac ymchwil ddysgu mwy am fanteision posibl Mynediad Agored –
mynediad am ddim, ar-lein i ganlyniadau ymchwil ysgolheigaidd, a’r hawl i ddefnyddio ac ailddefnyddio’r canlyniadau hynny.

Mae gan Fynediad Agored y grym i drawsnewid y ffordd y mae ymchwil ac ymchwiliadau gwyddonol yn cael eu cyflawni, gan fod noddwyr ymchwil a
Chynghorau Cyllido fel ei gilydd wedi lansio polisïau Mynediad Agored yn ddiweddar.

Nid yw gweithredu Mynediad heb ei broblemau, fodd bynnag. Mae gweithgor Mynediad Agored Prifysgol Aberystwyth, sef cydweithredu rhwng y Gwasanaethau
Gwybodaeth a’r Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi, yn gwahodd academyddion ac ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth i gyfres o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos
Mynediad Agored. Ymhlith y digwyddiadau fydd:

• Sesiwn Holi ac Ateb gyda Chynghorydd Polisi Addysg Uwch CCAULl, Ben Johnson, a chynrychiolwyr o’r gymuned gyhoeddi, PLOS, JISC Monographs, BioMedCentral a Wiley – Sinema Canolfan y Celfyddydau, bore Gwener 24 Hydref, 9.30 o'r gloch

• Sesiynau diweddaru hyfforddiant PURE, 12 o’r gloch, ddydd Mercher 22 a dydd Iau 23 Hydref, Ystafell Hyfforddi Hugh Owen. Gellir neilltuo lle drwy
wefan y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd.

• “Who owns what and what can they do with it? Copyright and your research publications workshop” (dydd Mawrth, 21 Hydref, 1-2 o'r gloch) gyda Rheolwr Gwarchod Data a Hawlfraint Prifysgol Aberystwyth, Dr Jonathan Davies; anfonwch neu dewch â chytundebau trwydded/hawlfraint y gofynnwyd ichi eu llofnodi wrth gyhoeddi erthyglau.  Anfonwch
drwyddedau (neu giplun o drwyddedau) a’ch cwestiynau at openaccess@aber.ac.uk

 
 
Steve Smith


Friday, 31 January 2014

Ydy Mynediad Agored yn Niweidio Gwerthiant Llyfrau?

Image: The Guardian
Un pryder cyffredin ynglyn â chyhoeddi llyfrau Mynediad Agored yw ei fod yn niweidio gwerthiant llyfrau, gyda darpar brynwyr yn dewis darllen deunydd am ddim ar-lein, yn hytrach na phrynu copi
o’r llyfr.
Mewn ymateb i’r pryder hwn, ym mis Hydref 2013 cyhoeddodd Sefydliad OAPEN astudiaeth ar effaith Mynediad Agored ar werthiant ysgrifau academaidd yn yr Iseldiroedd. Cefnogwyd y
prosiect gan Sefydliad Ymchwil Gwyddonol yr Iseldiroedd, ac fe’i cyflawnwyd ar y cyd â naw cyhoeddwyr academaidd.

Ni ddaeth adroddiad OAPEN-NL o hyd i unrhyw dystiolaeth bod Mynediad Agored yn effeithio ar
werthiant ysgrifau academaidd. Yn wir, roedd gwerthiant y llyfrau Mynediad Agored yn debyg
iawn i werthiant y llyfrau heb Fynediad Agored yng ngr?p rheoli’r arbrawf. Fodd bynnag, roedd
effaith glir o safblynt hygyrchedd ar-lein. Drwy ddarparu llyfrau ar-lein, dangosodd yr astudiaeth
bod cynydd 142% yn y llyfrau sy’n cael eu darganfod ar-lein drwy Google Books, ar gyfartaledd, a
bod defnydd o’r testun-llawn (o ran sawl gwaith y caiff tudalennau eu gweld ar Google Books) yn
cynyddu 209%. Ar gyfartaledd, denodd pob e-lyfr yn yr astudiaeth 144 o werthiannau o’i gymharu
â 2800 o lawrlwythiadau.

Mae’r adroddiad hefyd yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer gwahanol grwpiau, gan gynnwys
awduron, cyllidwyr, cyhoeddwyr a llyfrgelloedd, yngl?n â sut i wella Mynediad Agored ar gyfer
ysgrifau.

Mae adroddiad OAPEN-NL ar gael yn ei gyfanrwydd ar-lein.

Neil Waghorn
Steve Smith

Adroddiad Finch: Blwyddyn yn Ddiweddarach

Cyhoeddwyd Adroddiad Finch ar gynyddu mynediad at gyhoeddiadau ymchwil, yn 2012. Roedd yr
adroddiad yn cynnwys rhestr o argymhellion ac yn nodi camau ar gyfer eu cyflawni. Ym mis Hydref
2013, cyhoeddodd y Gweithgor ei gasgliadau ar y sefyllfa o safbwynt cynnydd. 

Mae’r arolwg yn dal at yr argymhellion a wnaed yn yr Adroddiad Finch gwreiddiol, sy’n nodi mai
Mynediad Agored Aur, wedi’i ariannu’n bennaf gan daliadau prosesu neu gyhoeddi erthyglau (APC)
fydd y ffurf orau posil i ddarparu Mynediad Agored yn y pen draw, er nad oeddent yn ‘argymell
newid cyflym'.

Yng ngoleuni Adroddiad Finch, cyhoeddodd Cynghorau Ymchwil y DU bolisïau newydd ac mae
prifysgolion yn gweithredu’n unol â hwy. Nodwyd, fodd bynnag, ei bod yn ymddangos bod
gweithredoedd prifysgolion yn bodloni’r gofynion yn unig yn hytrach na mynd ymhellach. Mae
prifysgolion wedi bod yn awyddus i barhau i fuddsoddi mewn Mynediad Agored Gwyrdd yn ogystal â Mynediad Agored Aur, sef y llwybr a argymhellir.

Thursday, 30 January 2014

Cyflwyniad i’r Dynodwr Ymchwilydd ORCID

Crewyd ORCID (Open Researchers and Contributor ID) Inc., yn 2010 gyda’r nod o greu codau adnabod unigryw parhaol ar gyfer ymchwilwyr, y gellid eu defnyddio i greu system ryngwladol, rhygn-ddisgyblaethol, rhyngsefydliadol i adnabod ymchwilwyr ac i     briodoli eu gwaith.

Mae’r fenter ddielw hon yn gweithio drwy roi dynodwr ORCID yr unigolyn ym metadata eu cynnyrch, sy’n ffurfio cysylltiad clir a pharhaol gyda’r unigolyn hwnnw. Mae’n rhad ac am ddim i gofrestru ar gyfer ORCID, ac erbyn diwedd 2013 roedd gan dros 460,000 o unigolion eu dynodwyr ORCID eu hunain.

Gall defnyddwyr briodoli cymaint, neu cyn lleied, o fanylion personol neu broffesiynol i’w cyfrif
ORCID, a gallant hefyd deilwra’u gosodiadau preifatrwydd i reoli pwy all weld y wybodaeth dan sylw.

Mae Prifysgolion a sefydliadau ledled y byd, o Boston i Hong Kong a Sweden, yn dechrau integreiddio ORCID i’w systemau, ac maent yn arbenig o ddefnyddiol mewn ardaloedd lle ceir crynhoad uchel o gyfenwau tebyg, megis yng Nghymru. 

I gael gwybod rhagor am ORCID, neu i gofrestru i gael dynodwr unigol, ewch i wefan ORCID.

Mae’n bwysig nodi nad ORCID yw’r unig fenter sy’n ceisio dyrannu codau adnabod unigryw i
unigolion. Mae ResearcherID yn gynllun tebyg sydd ond yn gweitho ar Web of Science.

Ceir rhagor o wybodaeth am ResearcherID ar eu gwefan.

Cyflwyniad i Drwyddedau Eiddo Creadigol Cyffredin (Creative Commons)

Mae Trwyddedau Eiddo Creadigol Cyffredin (Creative Commons) yn cynnig ffordd o roi
hawlfraint ar ddeunydd mewn modd llai cyfyngol na’r hawlfraint 'Cedwir Pob Hawl'
traddodiadol. Mae’r trwyddedau hyn yn ‘cynnig ffordd syml, safonedig o roi caniatâd i’r
cyhoedd rannu a defnyddio eich gwaith creadigol — o dan amodau o’ch dewis’.

Mae Trwyddedau Eiddo Creadigol Cyffredin yn cael eu defnyddio’n helaeth o amgylch y byd.
Gellir dadlau mai’r enghreifftiau mwyaf adnabyddus yw safle rhannu ffotograffau, Flickr, a’r
gwyddoniadur ar-lein, Wikipedia. Mae cwmnïau a sefydliadau eraill hefyd wedi dewis
darparu rhywfaint o’u cynnwys ar sail llai cyfyngedig na’r hawlfreintiau traddodiadol. Un
enghraifft yw GlaxoSmithKline, a ildiodd pob hawlfraint ar ei setiau data malaria, sy’n
cynnwys dros 13,500 o gyfansoddion sy’n weithredol yn erbyn malaria. 

Mae gwefan Eiddo Creadigol Cyhoeddus (Creative Commons) yn disgrifio’r gwahanol fathau
a chyfuniadau o drwyddedau isod: 







Attribution
CC BY

Mae’r drwydded hon yn gadael i eraill ddosbarthu, ailgymysgu, gwneud mân addasiadau, ac
adeiladu ar eich gwaith, hyd yn oed at ddibenion masnachol, cyn belled â’u bod yn eich
cydnabod am y deunydd gwreiddiol. Dyma fwyaf hyblyg o’r trwyddedau a gynigir.
Argymhellir y drwydded hon i sicrhau’r lledaeniad ehangaf a’r defnydd helaethaf o
ddeunyddiau trwyddedig.






Attribution-ShareAlike
CC BY-SA

Mae’r drwydded hon yn caniatáu i eraill ailgymysgu, gwneud mân newidiadau, ac adeiladu
ar eich gwaith, hyd yn oed at ddibenion masnachol, cyn belled â’u bod yn eich cydnabod ac
yn trwyddedu eu creadigaethau newydd o dan yr yn telerau’n union. Caiff y drwydded hon
ei chymharu’n aml â thrwyddedau meddalwedd ffynhonnell agored rhad ac am ddim
“copyleft”. Bydd pob gwaith newydd a seilir ar eich gwaith chi yn cario’r un drwydded, felly
bydd unrhyw ddeunydd sy’n deillio ohono hefyd yn caniatáu defnydd masnachol. Dyma’r
drwydded a ddefnyddir gan Wikipedia, ac fe’i hargymhellir ar gyfer deunyddiau a fyddai’n
elwa o ymgorffori deunydd o Wikipedia a phrosiectau sy’n defnyddio trwyddedau cyffelyb.

Monday, 27 January 2014

Canllawiau ar Fynediad Agored i Gyhoeddiadau Gwyddonol a Data Ymchwil yn Rhaglen Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd

Canllawiau ar Fynediad Agored i Gyhoeddiadau Gwyddonol a Data Ymchwil yn Rhaglen Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd
Guidelines on Open Access to Scientific Publications and Research Data in Horizon 2020
(Image: European Commission)
Ar 11 Rhagfyr 2013, Gwnaeth y Comisiwn Ewropeaidd gyhoeddi eu dogfen ganllaw ddiweddaraf ar Fynediad Agored i gyhoeddiadau gwyddonol a data ymchwil. Lluniwyd y Canllawiau hyn i 'roi cyd-destun ac eglurhad am y rheolau ar fynediad agored sy’n berthnasol i fuddiolwyr mewn prosiectau a gyllidir neu a gyllidir ar y cyd o dan Horizon 2020.' Diben Horizon 2020, rhaglen Ymchwil ac Arloesi fwyaf erioed yr UE gyda bron i €80 biliwn o gyllid ar gael (2014 i 2020), yw agor mynediad i ymchwil cyhoeddedig.

Yn ôl y canllaw, 'ni ddylid talu eto am unrhyw wybodaeth y talwyd amdani eisoes gan y pwrs cyhoeddus bob tro y caiff y wybodaeth ei chyrchu neu’i defnyddio, ac y dylai fod o fudd llawn i ddinasyddion a chwmnïau Ewropeaidd. Golyga hyn sicrhau bod gwybodaeth wyddonol a gyllidwyd gan arian cyhoeddus ar gael ar-lein, heb unrhyw gostau ychwanegol, i ddinasyddion, diwydiannau arloesol ac ymchwilwyr Ewropeaidd, wrth sicrhau cadwraeth tymor hir.'

Mae’r ddogfen yn disgrifio ac yn rhoi manylion am y fersiynau Gwyrdd ac Aur o ran Mynediad Agored, ond nid yw’n nodi y dylai’r data fod ar ffurf benodol o Fynediad Agored, dim ond ei fod yn agored.

Mae’r canllaw’n gosod y sail wleidyddol a chyfreithiol ar gyfer y rheolau am Fynediad Agored yn Horizon 2020, gan roi manylion am bolisïau UE amrywiol sy’n cyfateb i Horizon 2020, gan gynnwys Agenda Digidol Ewrop a pholisi’r Undeb Arloesi.

Taro’r Botwm ar gyfer Mynediad Agored

Open Access Button
(Image: Open Access Button)
Taro’r Botwm ar gyfer Mynediad Agored Mae dod ar draws waliau talu ar gyfer cynnwys yn medru cwtogi a llesteirio ymchwil. I gofnodi’r rhwystredigaeth hon a cheisio tynnu sylw at yr angen am Fynediad Agored mae dau fyfyriwr meddygol, David Carroll a Joseph McArthur , wedi creu botwm Mynediad Agored.

Unwaith bo’r ategyn wedi ei osod, mae’n galluogi defnyddwyr i glicio er mwyn cofnodi eu bod wedi taro wal dalu ac ni ellir cael mynediad at y deunydd a ddymunir. Cofnodir eich lleoliad yn fras ar fap, a fydd yn helpu i adeiladu achos byd-eang am Fynediad Agored . Unwaith y byddwch wedi cwblhau disgrifiad byr, bydd yr ategyn yn cynnig llwybrau amgen i'r deunydd a ddymunir, gan gynnwys chwiliad Google Scholar awtomatig ac opsiynau eraill sydd ar gael drwy ffynonellau Mynediad Agored . Yn y dyfodol, mae’r datblygwyr yn bwriadu ychwanegu'r gallu i e-bostio awdur y gwaith yn uniongyrchol am gopi.

Lansiwyd fersiwn beta o’r botwm yn ffurfiol ym Merlin ym mis Tachwedd 2013, ac ar adeg ysgrifennu hwn roedd 4269 o drawiadau ar waliau talu wedi eu cofnodi.

Gallwch cael mwy o wybodaeth ynghyd â llwytho i lawr y botwm ar gyfer eich porwr ar wefan Open Access Button, neu eu dilyn ar Twitter.

Neil Waghorn
Steve Smith

Wednesday, 30 October 2013

Wythnos Mynediad Agored 2013


Wythnos Mynediad Agored 2013

WYTHNOS MYNEDIAD AGORED – 21/27 Hydref 2013


Mewn cysylltiad ag Wythnos Mynediad Agored, hoffem dynnu eich sylw at CADAIR, ffenest Mynediad Agored Prifysgol Aberystwyth i waith ymchwil staff a myfyrwyr y Brifysgol, sy’n darparu mynediad at bapurau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid nad oes angen tanysgrifio i’w defnyddio.


Heddiw, caiff erthyglau eu hychwanegu at Cadair drwy system rheoli ymchwil Prifysgol Aberystwyth, PURE, sy’n anfon erthyglau sy’n addas ar gyfer Mynediad Agored i Cadair ar ôl i unrhyw gyfnodau embargo ddod i ben. O dudalen cychwyn CADAIR, gellir chwilio drwy bapurau aelodau o staff drwy ddefnyddio enwau awduron neu allweddeiriau, neu trwy bori yn ôl Adran/Cymuned neu yn ôl casgliadau pwnc mwy penodol. 


Yr eithriad mawr i hyn yw traethodau ymchwil Prifysgol Aberystwyth, lle caiff y cofnodion a’r ffeiliau cysylltiedig eu llwytho’n uniongyrchol ar CADAIR. Cesglir cofnodion traethodau ymchwil ynghyd yng nghasgliad Cyhoeddiadau Uwchraddedig CADAIR, ond maent hefyd ar gael yn y casgliadau adrannol perthnasol.


Mae’r rhan fwyaf o’r prif gyhoeddwyr academaidd (e.e. Gwasg Prifysgol Caergrawnt, Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wiley, Elsevier, Sage) erbyn hyn yn caniatáu naill ai cyhoeddi mynediad agored aur neu adneuo papurau mynediad agored gwyrdd sydd yn eu cyfnodolion. Ariennir papurau mynediad agored aur drwy’r “Ffioedd Prosesu Erthyglau” (FfPE) a delir gan awduron cyn iddynt gyhoeddi eu gwaith, sy’n galluogi pobl i ddarllen y papur ar wefan y cyhoeddwr heb orfod talu ffioedd tanysgrifio. Mae’r prif gyfnodolion felly yn aml yn cynnwys papurau mynediad agored (agored i bawb) a phapurau safonol sy’n agored i unigolion neu sefydliadau sydd wedi tanysgrifio yn unig. Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cael rhywfaint o gyllid FfPE ar gyfer cyhoeddi mynediad agored aur gan y Cynghorau Cyllido Addysg Uwch. Os hoffech wybod rhagor am sut i fanteisio ar y cyllid hwn i’ch helpu i gyhoeddi’ch papurau ymchwil ar ffurf “mynediad agored aur”, cysylltwch â mailto:openaccess@aber.ac.uk