Thursday 6 March 2014

Mae Literature Online yn newid

Mae ProQuest Literature Online yn cynnig i fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth fynediad i nifer enfawr o destunau llenyddol yn ogystal â chasgliadau o gyfeiriadau a deunydd beirniadol. Mae’n ffynhonnell angenrheidiol ar gyfer astudio a dysgu llenyddiaeth, barddoniaeth a dramâu Saesneg.

Efallai bydd pethau yn edrych ychydig yn wahanol y tro nesaf byddwch yn ymweld â’r safle gan fod ProQuest wedi datblygu rhyngwyneb cwbl newydd a bydd yr hen fersiwn yn cael ei chau ym mis Mai 2014. Rhowch gynnig ar y safle newydd nawr, Literature Online

'The new Literature Online features all the existing content - the more than 350,000 works of poetry, prose and drama, the ever-growing full-text journal collection, the vast library of reference resources such as biographies, encyclopedias and companions, and the exclusive audio and video offerings - as well as the bespoke and specialist search features and functionalities. Now, however, that advanced functionality and in-demand content has been paired with a modern search interface which is more intuitive and straightforward to use and navigate. What's more, Literature Online is now fully mobile-compatible, meaning you can use it on tablets or smartphones, wherever and whenever you need it.' 




My Archive – copïo a chadw cofnodion
Dyma’r gwasanaeth lle mae’n bosibl i greu storfa bersonol o eitemau a chwiliadau. Yn anffodus, ni fydd cynnwys storfa y fersiwn bresennol o Literature Online ar gael yn y fersiwn newydd. Felly peidiwch colli’ch gwaith ­ – e-bostiwch neu argraffwch heddiw yr eitemau rydych wedi eu cadw! Pwy a ŵyr, efallai y gwnewch ailddarganfod rhywbeth gwerthfawr!

Mae cyfres o gyfarwyddiadau tra’n defnyddio ac adnoddau dysgu ar gyfer y platfform newydd ar gael ar Literature Online LibGuide.

Os oes gennych gwestiynau, neu os hoffech drefnu hyfforddiant grŵp neu bersonol, cysylltwch â Joy Cadwallader, llyfrgellydd pwnc Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol (01970621908/jrc@aber.ac.uk).


No comments: