Showing posts with label cwrdd â'ch llyfrgellydd. Show all posts
Showing posts with label cwrdd â'ch llyfrgellydd. Show all posts

Monday, 7 September 2015

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd #14



Lloyd ydw i, a fi yw'r Llyfrgellydd Pwnc newydd i'r Ysgol Gelf;  y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd; Hanes a Hanes Cymru, a'r Gyfraith a Throseddeg.  Ymunais â'r Gwasanaethau Gwybodaeth ar ôl gorffen fy PhD mewn Casgliadau Llyfrgellol Digidol a Hanes Celf gyda'r Ysgol Gelf ac Adran Ymchwil Llyfrgell Genedlaethol Cymru.  Hanes Celf ym Mhrifysgol Nottingham oedd fy ngradd gyntaf, ac wedyn fe ges i MSc mewn Rheoli Gwybodaeth a Llyfrgelloedd o Brifysgol Gorllewin Lloegr.   Yn y cyfamser, rwy wedi gweithio mewn sawl gwahanol fath o lyfrgell, gan gynnwys Llyfrgell y Sefydliad Uwch Astudiaethau Cyfreithiol ym Mhrifysgol Llundain; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; llyfrgell Sefydliad Celf Courtauld; a changhennau llyfrgelloedd cyhoeddus Casnewydd.  

Efallai y daeth fy awydd i roi trefn ar anhrefn o'm casgliad anhylaw a rhy fawr o recordiau.  Dechreuais gasglu pan roddodd fy mam-gu'r record 7” Don’t Believe the Hype gan Public Enemy  imi pan oeddwn tua 12 oed.  Er fy mod i'n hoffi meddwl bod fy Nana yn edmygwr brwd o rap gwleidyddol arfordir dwyrain America mewn gwirionedd dim ond stoc oedd heb ei gwerthu oedd hi o'i siop gerddoriaeth, sef siop fendigedig Falcon Music yn Llanelli.   Roeddwn i'n gweithio yn y siop pan oeddwn ychydig yn hŷn; roedd y siop yn gwerthu offerynnau yn hytrach na recordiau erbyn hynny.  Gweithio yn siop gitarau'ch mam-gu yw'r swydd Sadwrn fwyaf cwl y gallwch ei chael.    

Am ragor o wybodaeth am bwysigrwydd cynnal casgliad mawr o recordiau rhyfedd ac er mwyn ymarfer eich sgiliau gwybodaeth/llythrennedd digidol, chwiliwch am Wax Trash and Vinyl Treasures: Record Collecting as a Social Practice gan Roy Shuker, sydd ar gael yn Llyfrgell Hugh Owen ar fformatau papur ac electronig.  

Er mwyn dysgu sut mae rhoi hypergyswllt yn uniongyrchol i gofnod unigol yn Primo, gweler y Cwestiwn Cyffredin hwn.

Thursday, 19 July 2012

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd #6

Eleni bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd. Y tro hwn, mae'n y llyfrgellydd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Ieithoedd Modern, a Theatr, Ffilm a Theledu.

Joy Cadwallader

Joy Cadwallader ydw i, bues i’n fonitor yn llyfrgell yr ysgol, adeiladwr catalog llyfrgell ar-lein yn fy 20au, ymgynghorydd ar ddesg gymorth TG mewn llyfrgell yn fy 30au ac erbyn hyn rwy’n llyfrgellydd dysgu ac addysgu yn fy 40au. Mae’r llyfrau yn fy nilyn i o gwmpas :)

Yn y gwaith, mae gennyf ddiddordeb mewn sut y gallai llyfrgellwyr helpu myfyrwyr ar yr adegau pan ddisgwylir mwy ganddynt e.e. wrth gychwyn ar radd, dechrau traethawd hir neu wrth gychwyn ar astudiaethau uwchraddedig. Yn y flwyddyn academaidd nesaf, bwriadaf dreulio mwy o amser mewn adrannau academaidd fel y gallwch ofyn unrhyw gwestiynau imi wrth fynd heibio, ac fel y gallaf innau gael gwybod mwy am sut a phryd y gallwn ni eich helpu chi orau o safbwynt hyfforddi, adnoddau a chymorth. Yn fy amser hamdden rwy’n astudio am radd Meistr mewn Llyfrgellyddiaeth a Gwybodaeth (rhan amser drwy ddysgu o bell), gan ychwanegu rhywfaint o ddamcaniaeth at fy arsylwadau a’r adborth a gaf yn y gwaith.

Wednesday, 14 December 2011

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd #2

Y tymor hwn bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd. Y tro hwn, mae'n y llyfrgellydd Astudiaethau Gwybodaeth a Rheolaeth a Busnes.





Anita Saycell
Ar ôl treulio nifer o oriau gwirfoddol yn gweithio yn fy llyfrgell gyhoeddus leol ers yn 14 oed (nid yw pob un o ferched Essex yn treulio’u hamser yn mynd allan) roedd fy ngyrfa fel llyfrgellydd yn dechrau siapio. Y cam nesaf oedd gwaith cyflogedig yn y llyfrgell gyhoeddus cyn symud i’r Gorllewin ac astudio gradd Llyfrgellyddiaeth yn Aberystwyth. Wedi hynny cefais swydd fel Llyfrgellydd Cynorthwyol yn y Swyddfa Gartref, yna ymunais â’r Gwasanaethau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2003. Pan nad wyf yn gweithio mae gennyf blentyn bach bywiog sy’n fy nghadw’n brysur ac rwy’n treulio unrhyw amser rhydd sydd gennyf yn dysgu gwersi nofio ac yn mwynhau cerdded, beicio a bod yn yr awyr agored.

Gweler hefyd: diwrnod ym mywyd llyfrgellydd.