Thursday 23 March 2017

IBISWorld – adnodd newydd – ar gael nawr!

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi prynu IBISWorld yn ddiweddar 



Mae IBISWorld yn darparu data diwydiannol i dros 400 diwydiant ym Mhrydain gyda chwilotydd ac adroddiadau sy’n hawdd eu defnyddio. 

Mae’r adnodd hwn yn ddefnyddiol i bawb sy’n ; 

Paratoi ar gyfer cyfweliad / llwyddiant mewn swydd– Dewch i wybod mwy am y sector o’r diwydiant y mae’r cwmni’n gweithio ynddo, y gystadleuaeth, y chwaraewyr mawr yn y maes, a chael gwell dealltwriaeth o waith y diwydiant hwnnw. 

Ymchwil ar gyfer aseiniadau / traethawd hir – Mae IBISWorld yn darparu yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn deall yr amodau gweithredu, a rhagolygon tymor hir diwydiannau mawr a diwydiannau arbenigol.
    
Ystadegau Diwydiant –Mae’r adroddiadau diwydiant yn darparu data a dadansoddiad ar bob diwydiant ac yn cael eu hegluro gyda graffiau clir a siartiau data. Gall y siartiau data gael eu trosglwyddo i Excel yn rhwydd, ac mae’r data’n ddelfrydol ar gyfer dadansoddiad SWOT, PESTLE, a Phum Llu Porter. 

Mae pob adroddiad diwydiant yn darparu;

Data perfformio manwl a dadansoddiad o’r farchnad
Gwybodaeth am y gadwyn gyflenwi
Cryfderau a gwendidau gweithredu
Sbardunau allanol 
Strategaethau marchnad y chwaraewyr mawr
Elw’r diwydiant
Meincnodau strwythur cost

Gweler IBISWorld ar-lein; www.ibisworld.co.uk  (Nid oes angen cyfrinair os ydych yn cysylltu â’r wefan trwy rwydwaith y brifysgol) 

Gweler sesiynau tiwtora fideo yma: http://clients1.ibisworld.co.uk/about/uk/tutorials/ 

Os ydych am ddefnyddio IBISWorld pan nad ydych ar y campws, cysylltwch trwy rwydwaith Preifat Rhithiwr y Brifysgol https://www.aber.ac.uk/en/is/it-services/vpn/ 

Thursday 9 March 2017

Adnodd y Mis: Web of Science


Mae Web of Science yn adnodd ar-lein sydd ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’n rhoi mynediad i filoedd o ddyfyniadau, cyhoeddiadau a chyfnodolion gwyddonol y gellir chwilio amdanynt yn hawdd o fewn y Brif Restr o Gyfnodolion.

Sut y gall yr adnodd helpu myfyrwyr;

  • Mae’n helpu i gynorthwyo ymchwil ar gyfer aseiniadau, traethodau hir ac arholiadau – Mae’r gronfa ddata’n cynnig mynediad hawdd i gyfeiriadau llyfryddiaethol, testunau a’r ymchwil academaidd diweddaraf.
  • Mae’r gronfa ddata’n ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau – Mae’r casgliad craidd o gyfnodolion ysgolheigaidd yn ymdrin â phynciau gwyddonol yn ogystal â’r gwyddorau cymdeithasol a’r celfyddydau a’r dyniaethau.
  • Gellir cael mynediad i gronfeydd data byd-eang eraill o fewn casgliad y Web of Science – mae’r rhain yn cynnwys cronfa ddata MEDLINE, sef cronfa ddata Llyfrgell Genedlaethol Meddyginiaeth UDA, y gronfa ddata biowyddorau, BIOSIS, a’r Russian Science Citation Index.
Dyma’r mathau o ddogfennau sydd ar gael o fewn y gronfa ddata;

• Erthyglau mewn cyfnodolion
• Penodau mewn llyfrau
• Eitemau bywgraffyddol
• Eitemau newyddion
• Llyfryddiaethau

Gellir cael mynediad i Web of Science ar-lein o Rwydwaith y Brifysgol ar: http://wok.mimas.ac.uk  neu o http://apps.webofknowledge.com/ neu cysylltwch â’r tab Adnoddau A i Y Primo dan W.

Os ydych chi’n defnyddio Web of Science oddi ar y campws, cysylltwch drwy VPN y Brifysgol: https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/vpn/.

Gellir cael mynediad i'r tiwtorial fideo yma: http://wokinfo.com/training_support/training/web-of-knowledge/ 

Mae Canllaw Cyfeirio Cyflym Web of Science ar gael ar:
http://wokinfo.com/media/pdf/qrc/webofscience_qrc_en.pdf 

Cysylltwch â acastaff@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu arddangosiad.









Tuesday 7 March 2017

Adnodd newydd i Fyfyrwyr a Staff: Globe on Screen













Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi cael mynediad yn ddiweddar i adnodd ar-lein newydd a chyffrous, sydd ar gael ar lwyfan Drama Online. Mae Globe on Screen yn caniatáu mynediad i 20 o gynyrchiadau Shakespeare a ffilmiwyd yn fyw yn Theatr y Globe mewn manylder uwch ac â sain amgylchynol. 

Gweler y rhestr lawn yma.

Gallwch hefyd ddod o hyd i’r dramâu wrth chwilio yn Primo. Chwiliwch am y cynhyrchiad o’ch dewis, gan hidlo gyda mynediad ar-lein a dod o hyd i’r opsiwn fideo. Yn olaf, cliciwch ar y tab View Online a chliciwch ar y ddolen Globe on Screen i weld y cynhyrchiad. Os ydych chi’n gwylio o adref, cofiwch osod eich VPN Aber yn barod! 



Cysylltwch ag acastaff@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu arddangosiad.