Wednesday 30 October 2013

Wythnos Mynediad Agored 2013


Wythnos Mynediad Agored 2013

WYTHNOS MYNEDIAD AGORED – 21/27 Hydref 2013


Mewn cysylltiad ag Wythnos Mynediad Agored, hoffem dynnu eich sylw at CADAIR, ffenest Mynediad Agored Prifysgol Aberystwyth i waith ymchwil staff a myfyrwyr y Brifysgol, sy’n darparu mynediad at bapurau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid nad oes angen tanysgrifio i’w defnyddio.


Heddiw, caiff erthyglau eu hychwanegu at Cadair drwy system rheoli ymchwil Prifysgol Aberystwyth, PURE, sy’n anfon erthyglau sy’n addas ar gyfer Mynediad Agored i Cadair ar ôl i unrhyw gyfnodau embargo ddod i ben. O dudalen cychwyn CADAIR, gellir chwilio drwy bapurau aelodau o staff drwy ddefnyddio enwau awduron neu allweddeiriau, neu trwy bori yn ôl Adran/Cymuned neu yn ôl casgliadau pwnc mwy penodol. 


Yr eithriad mawr i hyn yw traethodau ymchwil Prifysgol Aberystwyth, lle caiff y cofnodion a’r ffeiliau cysylltiedig eu llwytho’n uniongyrchol ar CADAIR. Cesglir cofnodion traethodau ymchwil ynghyd yng nghasgliad Cyhoeddiadau Uwchraddedig CADAIR, ond maent hefyd ar gael yn y casgliadau adrannol perthnasol.


Mae’r rhan fwyaf o’r prif gyhoeddwyr academaidd (e.e. Gwasg Prifysgol Caergrawnt, Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wiley, Elsevier, Sage) erbyn hyn yn caniatáu naill ai cyhoeddi mynediad agored aur neu adneuo papurau mynediad agored gwyrdd sydd yn eu cyfnodolion. Ariennir papurau mynediad agored aur drwy’r “Ffioedd Prosesu Erthyglau” (FfPE) a delir gan awduron cyn iddynt gyhoeddi eu gwaith, sy’n galluogi pobl i ddarllen y papur ar wefan y cyhoeddwr heb orfod talu ffioedd tanysgrifio. Mae’r prif gyfnodolion felly yn aml yn cynnwys papurau mynediad agored (agored i bawb) a phapurau safonol sy’n agored i unigolion neu sefydliadau sydd wedi tanysgrifio yn unig. Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cael rhywfaint o gyllid FfPE ar gyfer cyhoeddi mynediad agored aur gan y Cynghorau Cyllido Addysg Uwch. Os hoffech wybod rhagor am sut i fanteisio ar y cyllid hwn i’ch helpu i gyhoeddi’ch papurau ymchwil ar ffurf “mynediad agored aur”, cysylltwch â mailto:openaccess@aber.ac.uk

Wednesday 16 October 2013

e-lyfrau drwy ebrary

Mae e-lyfrau yn ddewis arall ymarferol ac ardderchog i lyfrau papur, sy’n eich galluogi i gael gwell mynediad i ddeunyddiau astudio hanfodol 24 awr y dydd ar y campws ac oddi arno. Mae ebrary yn adnodd newydd ardderchog i fyfyrwyr o bob disgyblaeth. Mae llyfrau papur yn dal i fod yn agos at galonnau llawer, ond mae ebrary yn ei gwneud hi’n haws i ddefnyddio ac anodi e-lyfrau a bydd yn ennyn diddordeb nifer o bobl sydd wedi’u hosgoi yn y gorffennol.

Tuesday 1 October 2013

Cytundeb Ymchwil Cydweithredol Newydd


Mae cytundeb ymchwil cydweithredol newydd wedi ei lofnodi rhwng y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol a Chyngor Ymchwil y DU a gynlluniwyd i helpu cynnal partneriaethau ymchwil rhyngwladol rhwng yr Unol Daleithiau a'r DU. Bydd yn cynnig proses symlach a hyblyg ar gyfer ymchwilwyr sy'n dymuno gwneud cais am gyllid ymchwil cydweithredol rhwng yr UDA a’r DU, gyda chynigion yn cael eu cyflwyno naill ai i’r Sefydliad Gwynoniaeth Cenedlaethol neu’r Cyngor Ymchwil -  yn dibynnu ym mhle cynhelir y rhan fwyaf o'r gwaith ymchwil.  Bydd y prosiectau llwyddiannus yn derbyn arian oddi wrth y ddwy asiantaeth, gyda'r Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol yn cyllido  ymchwilwyr o’r Unol Daleithiau, a’r Cyngor Ymchwil yn cyllido ymchwilwyr o’r DU. Bydd gweithredu cychwynnol yn canolbwyntio ar Gyfarwyddiaeth Cymdeithasol, Ymddygiadol a Gwyddorau Economaidd y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol mewn partneriaeth â’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol,  Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a Chyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol.

Ceir manylion ar: http://www.rcuk.ac.uk/media/news/2013news/Pages/130904.aspx

Steve Smith
Gwasanaethau Academaidd
Llyfrgell Hugh Owen