Wednesday 19 November 2014

Mae’n amser i ychwanegu eich rhestrau darllen i Aspire!

I drefnu prynu llyfrau ar gyfer Semester Dau, os gwelwch yn dda ychwanegwch restrau darllen eich modiwl i'r gwasanaeth ar-lein newydd Rhestrau Darllen Aspire.

Cynhelir hyfforddiant ar Aspire ar gyfer staff pob adran, ond os nad ydych wedi galluu mynychu sesiwn neu ond angen ychydig o help i ddechrau arni, cysylltwch â'r Gwasanaethau Academaidd acastaff@aber.ac.uk 01970621896

Rydym yn hapus i ymweld â chi yn eich adran ar adeg sy’n gyfleus i chi neu drefnu hyfforddiant ychwanegol ar gyfer grwpiau.

Gellir dod o hyd i ddeunyddiau hyfforddiant ar eich cyflymder eich hun yma (taflenni cymorth, fideos, cyflwyniad a Chwestiynau Cyffredin).

Mae'n rhaid ychwanegu rhestrau darllen ar gyfer Semester 2 at Aspire erbyn diwedd y tymor er mwyn sicrhau digon o amser i brynu llyfrau a deunyddiau dysgu eraill.

Am fwy o wybodaeth am Aspire, ewch i'r dudalen Rhestrau Darllen a darganfod manteision Aspire ar gyfer myfyrwyr a staff.

Friday 7 November 2014

Gyrfaoedd yn Ewrop – hysbysiad am ddigwyddiad

A ydych chi'n fyfyriwr israddedig neu ôl-raddedig sydd â diddordeb mewn gyrfa gyffrous a fydd yn eich herio chi yn ogystal â'ch galluogi chi i ddatblygu a dysgu mewn amgylchedd amlddiwylliannol? Neu ddiddordeb mewn cael profiad gwaith o'r radd flaenaf mewn sefydliad yn Ewrop?

Os felly, mae'n bosibl mai chi yw'r person perffaith ar gyfer sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd! Yn groes i'r gred, nid dim ond cyfreithwyr, ieithyddion ac economegwyr y mae'r sefydliadau hyn yn eu cyflogi! Maen nhw'n chwilio am fyfyrwyr o bob disgyblaeth.

Ar ben hynny, does dim digon o ymgeiswyr addas yn ceisio am swyddi yn y sefydliadau hyn, felly mae croeso mawr ichi yn y digwyddiad hwn.

Dewch, hyd yn oed os nad oes gennych chi'r sgiliau iaith gorau yn y byd! Mae'n bosibl mai chi yw’r union berson rydyn ni’n chwilio amdano! Bydd y digwyddiad hwn o ddiddordeb i fyfyrwyr sydd newydd ddechrau eu cyrsiau gradd ac sydd efallai am ddechrau paratoi'n gynnar am yrfa. Bydd o ddiddordeb hefyd i fyfyrwyr sydd ymhellach ymlaen yn eu hastudiaethau ac sydd efallai am wybod sut i fynd ati i gael gyrfa Ewropeaidd a chlywed gan bobl sydd wedi cael profiad yn y maes.

Siaradwyr:
Charles Whitmore, Llysgennad y Swyddfa Dethol Personél Ewropeaidd (EPSO) i Brifysgol Caerdydd
Cyn-fyfyriwr/wyr o Brifysgolion Cymru sydd wedi cael cyfnod o hyfforddiant yn DG REGIO yn y Comisiwn

TestunCeisio gyrfa neu brofiad gwaith o fewn sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd

Dyddiad: Dydd Mawrth 18 Tachwedd
Amser: 3:30pm tan 5:30pm
Venue: Llyfrgell Thomas Parry, Canolfan Llanbadarn

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag un o'r canlynol:
Dr Marco Odello: mmo@aber.ac.uk
Lillian Stevenson: lis@aber.ac.uk
Charles Whitmore: eucareers.cardiffuniversity@gmail.com

Os hoffech chi fynychu, cofrestrwch drwy e-bostio: correspondence.european@wales.gsi.gov.uk