Wednesday 12 February 2014

Diwrnod ym mywyd llyfrgellydd #2

Anita Saycell, llyfrgellydd Astudiaethau Gwybodaeth a Rheloaeth a Busnes.



8.45yb: Rwy’n cyrraedd y gwaith yn wlyb domen ar ôl y daith i mewn. Ar ôl newid yn gyflym rwyf wrth fy nesg yn darllen fy e-byst. Fel y bydd unrhyw un sy’n gweithio ar sail rhan-amser yn gwybod, nid yw’r e-byst yn peidio er nad ydych chi yn y gwaith! Mae un o’r negeseuon yn cynnwys cais i ddod i ddarlith am 10 munud i egluro i’r myfyrwyr sut i ddod o hyd i adnoddau ar gyfer aseiniadau. Dyma’r sesiynau gorau yn fy marn i, gan eu bod yn darparu cymorth perthnasol lle mae’r angen yn codi.


10yb: Rwy’n treulio’r rhan nesaf o’r bore yn prosesu archebion, llawer ohonynt yn archebion brys ar gyfer dechrau’r tymor. Mae’n rhaid gwirio ambell beth ar gyfer pob eitem a archebir; ydy’r llyfr mewn stoc eisoes, faint mae’n ei gostio, a ydy ar gael fel e-lyfr?

10.30yb: Amser coffi

10.40yb: Rhedeg ar draws y campws yn y glaw i’r Ysgol Rheolaeth a Busnes i gyfarfod â darlithiwr sydd am holi ambell gwestiwn ynglŷn ag archebu llyfrau a’r eitemau ar ei restr darllen.

11yb: Nôl wrth fy nesg ac yn rhoi sylw i rai o’r eitemau a godwyd yn y cyfarfod.

11.30yb: Rwy’n dechrau paratoi am sesiwn yr wythnos nesaf ar adnoddau busnes, ac rwy’n sylweddoli nad yw’r ddolen berthnasol yn gweithio. Rwy’n mewngofnodi i ddiwygio’r ddolen ar fy nhudalennau pwnc, ac yn methu peidio â gwneud ambell newid i eiriad a chynllun y dudalen tra mod i yno. Yna, rwy’n anfon y newidiadau hyn at yr uned gyfieithu, fel bod modd i mi ddiweddaru’r dudalen Gymraeg pan fydd y gwaith yn cael ei ddychwelyd.

12 canol dydd: Rwy’n parhau i ateb rhagor o e-byst sydd wedi cyrraedd - mwy o archebion llyfrau! Gan fy mod yn treulio treian o’m hwythnos waith wrth y ddesg ymholiadau rwy’n mwynhau cael amser i eistedd yn dawel yn darllen e-byst ac ymateb i gyd-weithwyr, staff a myfyrwyr.

12.15yp: Sgwrs gyda chydweithiwr am lyfr problematig i benderfynu ar y lleoliad gorau ar ei gyfer yn y llyfrgell.

12.30yp: Dechrau paratoi ar gyfer fy Adolygiad Datblygu Staff y diwrnod canlynol.

1yp: Diwedd fy niwrnod gwaith. Drwy lwc mae’r haul yn tywynnu ar gyfer fy nhaith adref ar y beic... esgus da i gymryd y ffordd hir nôl, cyn bod rhaid bod wrth gatiau’r ysgol.

No comments: