Thursday 12 June 2014

LibTeachMeet Prifysgol Aberystwyth


Mae’r safle Information Literacy yn cynnwys adroddiad am y digwyddiad LibTeachMeet symbylol a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gynharach y mis hwn. Ffion Bell, ein hyfforddai graddedig, gwneud cais am y cyllid a drefnodd y digwyddiad yn ystod ei lleoliad yn y Gwasanaethau Academaidd. Darllenwch ragor am yr hyn a ddigwyddodd...

Friday 6 June 2014

Yn dod yn fuan! System rhestrau darllen newydd PA sy’n cael ei chynnal gan Talis Aspire

Sustem rhestrau darllen ar-lein yw Talis Aspire sydd wedi'i dylunio i lunio rhestrau o adnoddau sydd wedi'u cyfeirnodi'n gywir, a’u cysylltu â rhestrau adnoddau sydd ar gael mewn modiwlau ar Blackboard a lleoliadau arlein eraill.
Mynnwch gipolwg ar y fideo fer hon.
Mae cynlluniau ar y gweill i roi'r sustem ar waith; dyma rai agweddau allweddol ar yr amserlen:
  • Rhoi'r sustem ar waith yn ystod mis Gorffennaf
  • Cyflunio a phrofi'r sustem yn ystod Awst a Medi
  • Hyfforddi academyddion a staff gweinyddol yr adrannau ym mis Hydref
  • Rhoddir y rhestrau darllen cyntaf ym misoedd Hydref a Thachwedd ar gyfer modiwlau ail Semester 2014/15 er mwyn inni gael digon o amser i brynu unrhyw eitemau nad ydynt ar gael yn y llyfrgelloedd nac yn electronig
  • Bydd ARMS ar gael i'w olygu tan canol mis Tachwedd
  • Rhoddir gwybod i ddefnyddwyr presennol ARMS na fydd modd iddynt drosglwyddo eu rhestrau i Aspire, ond fe fyddant yn cael blaenoriaeth ar gyfer hyfforddiant a chymorth i ddefnyddio Aspire
Bydd cyhoeddiadau rheolaidd i olrhain datblygiad y prosiect, a bydd newidiadau i weithdrefnau yn cael eu hychwanegu at we ddalen y Rhestr Ddarllen bresennol.
Edrychwn ymlaen at ddangos y sustem newydd i chi cyn gynted ag y bo modd. Croeso ichi gysylltu â’r llyfrgellwyr pwnc os oes gennych unrhyw ymholiadau: acastaff@aber.ac.uk


Wednesday 4 June 2014

‘JISC Historic Books’ yn cael ei uwchraddio



Mae’r llwyfan a elwid gynt yn ‘JISC Historic Books’ wedi cael ei uwchraddio. Mae’r fersiwn BETA o’r llwyfan newydd, ‘JISC Historical Texts’, ar gael nawr i’w archwilio: historicaltexts.jisc.ac.uk

Bydd y llwyfan blaenorol yn cael ei ddisodli ar 23 Mehefin 2014, felly gofalwch eich bod yn diweddaru’ch dolenni a’ch nodau tudalen!

Mae ‘JISC Historical Texts’ yn cynnwys yr un tri chasgliad ag o’r blaen, sy’n cyfuno dros 350,000 o destunau o ddiwedd y 15fed hyd at y 19eg ganrif: Early English Books Online (EEBO), Eighteenth Century Collections Online (ECCO), a llyfrau o’r 19eg ganrif o gasgliad y Llyfrgell Brydeinig.