Friday, 7 May 2010

Principia Newton ar Early English Books Online


Gellir gweld Principia Newton a ymddangosodd ym mhennod gyntaf The Story of Science ar BBC2 yn Early English Books Online (EEBO). Mae pob tudalen wedi ei digideiddio fel y gall staff a myfyrwyr PA gael cipolwg ar y testun fel a ymddangosodd yn wreiddiol yn 1687. Mae EEBO yn cynnwys dros 125,000 o’r llyfrau cynharaf a argraffwyd yn yr iaith Saesneg ac mae chwiliadau testun llawn eisoes wedi eu hychwanegu at nifer o’r teitlau sydd wedi eu digideiddio. Porwch ymhlith rhestr o adnoddau arlein pwysig y mae Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifio iddynt, neu gellir eu gweld wedi eu crynhoi fesul pwnc yn yr eLyfrgell.

Wednesday, 5 May 2010

Astudiaeth Gofod Astudio Gwasanaethau Gwybodaeth


Mae Grŵp Gofodau Dysgu'r Brifysgol angen eich cymorth i weld pa fath o ofodau sydd eu hangen ar gyfer eich astudiaethau/ymchwil trwy ofyn ichi lenwi'r arolwg hwn. Byddwn yn defnyddio'r canlyniadau i lunio ein cynlluniau.

Dim ond tair tudalen o gwestiynau byr sydd i'r arolwg -- mae gwir angen eich mewnbwn arnom. Felly os gwelwch yn dda cwblhewch cymaint ohono ag sy'n bosib.

Bydd yr arolwg sy'n cymryd rhyw 15 munud i'w lenwi yn ddienw. Gellir ei arbed wrth ichi ei lenwi.

Thursday, 15 April 2010

Llyfrgell Hugh Owen - 'chwart i botel peint'



 
Fel y gwyddoch mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn gwneud arolwg o’r defnydd a wneir o gasgliadau cyfredol o gyfnodolion. Mae staff a myfyrwyr yn gwneud defnydd mwyfwy o adnoddau electronig o’i gymharu â chyfnodolion wedi’u hargraffu ac mae’r galwadau ar ofod yn Llyfrgell Hugh Owen yn cynyddu wrth iddi ddechrau darparu gwasanaeth i’r adrannau sy’n cael eu symud i Gampws Penglais.

Oherwydd hyn y mae angen cynnal arolwg critigol o’r casgliadau llyfrgell presennol ac i’r perwyl hwn rydym wedi nodi’r canlynol:

Friday, 9 April 2010

Diwrnod Technoleg Newydd ac Arloesi 15 Ebrill 2010


Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn gwahodd staff i fynychu diwrnod arbennig lle cânt gyfle i weld y datblygiadau diweddaraf mewn TGCh yn Aberystwyth. Gallai’r dechnoleg a welwch chi ar y diwrnod fod o gymorth i chi yn eich gwaith a/neu eich helpu chi i addysgu’n fwy effeithiol. Gwybodaeth bellach. Manylion y Cwrs ac i Archebu Lle.

Tuesday, 23 March 2010

Who’s Who (a Who Was Who)






Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn awr yn tanysgrifio i Who’s Who (a Who Was Who) arlein ar:

http://www.aber.ac.uk/cy/is/elecinfo/eiaz/#w

neu yn Adran Gyfeiriadol yr eLibrary:

http://www.aber.ac.uk/cy/is/elibrary/

Friday, 12 February 2010

Gwobrau Arloesi Marchnata


Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth wedi ennill categori Llyfrgelloedd Addysg Uwch yng Ngwobrau Arloesi Marchnata CyMAL 2009-10. Mae’r gwobrau hynny’n dathlu marchnata arloesol yn llyfrgelloedd Cymru. Roedden ni wedi cystadlu ar sail y diwrnod Ymarfer Academaidd Da a gynhaliwyd gennym yn Urdd y Myfyrwyr.

Digwyddiad ar y cyd ydoedd, gyda chydweithredu rhwng staff y Gwasanaethau Gwybodaeth ac yr Urdd y Myfyrwyr, Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, y Gronfa Lenyddol Frenhinol, ac academyddion. Diolch i bawb a gymerodd ran am eu cymorth.