Friday, 2 October 2009

Mynediad electronig ar gyfer cyfnodolion

Yn ystod yr haf we wnaeth y Llyfrgell dynnu sylw adrannau academaidd (ynghyd â gofyn am adborth) at y ffaith ein bod, o fis Ionawr 2010 ymlaen, yn bwriadu symud i fynediad electronig ar gyfer cyfnodolion Gwasg Prifysgol Rhydychen, Springer, Gwasg Prifysgol Caergrawnt ac Elsevier. Mae hyn yn awr wedi digwydd. Os gwelwch yn dda gweler y rhestrau o deitlau cyfnodolion sydd wedi eu trosi i fynediad electronig yn unig.



Mae hyn yn rhan o adolygiad mwy o’r defnydd o gyfnodolion print, with i staff a myfyrwyr gwneud mwy o ddefnodd o adnoddau electronig ac fel bod gofod presennol yn Hugh Owen a’r llyfrgelloedd adrannol yn llenwi’n gyflym. Dros y blynyddoedd nesaf rydym yn disgwyl gweld lleihad sylweddol yng nghyfanswm gofod y llyfrgelloedd with i’r Strategaeth Ystadau newydd gael ei gweithredu a chanoli gweithgareddau ar Gampws Penglais. Bydd hyn yn anorfod yn galw am adolygiad beirniadol o’r casgliadau presennol wrth i ni geisio chwynnu dyblygion a’u symud i stôr neu waredu’n gyfan gwbl ddeunyddiau nas defnyddir yn aml. I symud hyn rhagddo, mae’r Brifysgol wedi ymuno â’r UK Research Reserve cynllun newydd a fydd yn sicrhau bod daliadau digonol o brif ddeunyddiau ymchwil ar gael a bod modd cael mynediad hawdd iddynt.

Byddwn yn trafod hyn yng Nghyfarfod Defnyddwyr y Gwasanaethau Gwybodaeth a chyda adrannau unigol mewn cyfarfodydd y Ford Gron yn ystod y flwyddyn sy’n dod. Os gwelwch yn dda cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc os hoffech drefnu cyfarfod.

No comments: