Thursday, 7 May 2009
Datganoli a'r Cyrff Deddfwriaethol Newydd yn y DU
Wednesday, 11 March 2009
Cadw’n gyfoes gyda’ch pwnc
On’d yw hi’n braf pan fydd rhywbeth rydych am ei gael yn cael ei roi i chi, fel nad oes angen i chi fynd i chwilio amdano eich hun?
Os trosglwyddwn ni’r syniad yna i’r byd ymchwil, mae’n bosibl ymweld â phob gwefan unigol ar draws ystod eang o gylchgronau - a phori drwy’r copïau print yn y llyfrgell - dim ond er mwyn ceisio cadw’n gyfoes yn eich maes. Ond byddai hynny’n dasg undonog a fyddai’n llenwi’ch amser chi i gyd pe byddech chi am fonitro nifer o deitlau gwahanol.

Tuesday, 3 March 2009
Cyfle i ennill Tocyn Llyfr £40
Mae'n adeg llenwi mewn holiadur Gwasanaethau Gwybodaeth unwaith eto. Llynedd, fe ddywedoch wrthym eich bod eisiau cyfrifiaduron newydd yn yr ystafelloedd cyfrifiadurol, ac fe wnaethom hynny. Beth ydych am i ni wneud eleni?
Arolwg Defnyddwyr y Gwasanaethau Gwybodaeth
A ydym yn plesio?
Buaswn yn gwerthfawrogi eich barn os gwelwch yn dda
Dyddiad cau - Mawrth 31
http://www.inf.aber.ac.uk/cymraeg/user-survey.asp
Gwobr raffl - Enill tocyn llyfyr £40

Monday, 2 March 2009
Diwrnod y Llyfr 2009 – Beth sydd tu fewn dy glorie di…???
I ddathlu Diwrnod y Llyfr rydym yn gwahodd myfyrwyr a staff i alw heibio Llyfrgell Hugh Owen rhwng 10am a 3pm ar ddydd Iau, Mawrth 5ed i:
• Chwarae gyda’r Darllenyddion e-lyfr diweddaraf
• Ffeirio/Trwco llyfrau – Dewch â llyfr – ewch â llyfr
Tuesday, 24 February 2009
Adnoddau ar-lein newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth: Casgliad Burney a’r Casgliad Cyfnodolion Prydeinig I a II
Daeth Casgliad Burney i feddiant y Llyfrgell Brydeinig flwyddyn wedi marwolaeth y Parch Charles Burney (1757-1817), ysgolhaig clasurol ac ysgolfeistr. Digideiddiwyd y casgliad yn 2007 o ganlyniad i gydweithrediad rhwng y Llyfrgell Brydeinig, Gale/Cengage a’r Sefydliad Gwyddonol Cenedlaethol. Mae’r casgliad ar-lein yn cynnwys 1,270 o deitlau, yn bennaf papurau seneddol, papurau newydd Llundeinig, cyfnodolion, papurau rhanbarthol Lloegr a phapurau newydd o’r Iwerddon, yr Alban a’r Unol Daleithiau.
Wednesday, 18 February 2009
Cyrsiau Sgiliau Newydd dros awr ginio
Cyrsiau sgiliau byr yn Llyfrgell Hugh Owen, 13:10-14:00 bob dydd Mercher, fel a ganlyn:
- Dewch o hyd i bopeth ar eich rhestr ddarllen (Chwefror 18fed)
- Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf yn eich pwnc astudio (Chwefror 25ain)
- Gwerthuso gwybodaeth arlein ar gyfer eich gwaith academaidd (Mawrth 4ydd)
- Defnyddio meddalwedd i greu llyfryddiaethau hawdd (Mawrth 11eg)
- Word ar gyfer ysgrifennu traethodau (Mawrth 18fed)
Subscribe to:
Posts (Atom)