Wednesday 11 March 2009

Cadw’n gyfoes gyda’ch pwnc

On’d yw hi’n braf pan fydd rhywbeth rydych am ei gael yn cael ei roi i chi, fel nad oes angen i chi fynd i chwilio amdano eich hun?

Os trosglwyddwn ni’r syniad yna i’r byd ymchwil, mae’n bosibl ymweld â phob gwefan unigol ar draws ystod eang o gylchgronau - a phori drwy’r copïau print yn y llyfrgell - dim ond er mwyn ceisio cadw’n gyfoes yn eich maes. Ond byddai hynny’n dasg undonog a fyddai’n llenwi’ch amser chi i gyd pe byddech chi am fonitro nifer o deitlau gwahanol.



Dyna lle mae’r gwasanaethau hysbysu’n ddefnyddiol - mae’n cyfateb i rywun yn dod â phethau i chi ar ôl i chi ddweud wrthyn nhw beth sydd ei angen arnoch chi, gan ryddhau eich amser wedyn ar gyfer darllen a gwerthuso’r erthyglau cyn eu hymgorffori yn eich ymchwil.



Google Alerts

Er nad yw wedi’i gynllunio fel teclyn academaidd, mae Google Alerts yn enghraifft dda o wasanaeth hysbysu poblogaidd sy’n caniatáu i chi dderbyn y newyddion diweddaraf drwy ebost neu lif RSS ar bwnc sydd o ddiddordeb i chi. Rydych chi’n gosod y geiriau allweddol sydd o ddiddordeb i chi, ac yn dewis a ydych chi am dderbyn hysbysiadau bob dydd, bob wythnos neu ar unwaith. Mae Google Alerts yn ddelfrydol ar gyfer monitro straeon newyddion sy’n datblygu.

Awgrym defnyddiol: Ychwanegwch UK fel gair allweddol os ydych chi am gyfyngu’r canlyniadau i’r rheini sy’n fwyaf perthnasol i’r DU (dyw hyn ddim yn berffaith, ond mae’n gweithio’n eithaf da).



Zetoc

Teclyn hysbysu pwerus i ymchwilwyr yw hwn. Mae’n cynnwys y tabl cynnwys electronig ar gyfer dros 20,000 o gylchgronau a thua 16,000 o drafodion cynadleddau, o 1993 i’r presennol, a chaiff ei ddiweddaru’n ddyddiol.

Mae Zetoc ar gael am ddim i bobl mewn sefydliadau addysgol a gynhelir fel Prifysgol Aberystwyth - mewngofnodwch drwy ddethol Aberystwyth University a mewnosod eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Aberystwyth

Yna gallwch chi osod hysbysiadau ebost yn hawdd, wedi’u seilio ar eich dewis o eiriau allweddol, awduron neu deitlau cylchgronau, er mwyn i chi allu cadw’n gyfredol â’r erthyglau a’r papurau newydd sy’n berthnasol i chi. Mae’n hawdd golygu’r hysbysiadau os byddwch chi am ychwanegu rhagor o deitlau neu newid y geiriau allweddol. Mae Zetoc hefyd yn darparu llif RSS ar gyfer llawer o gylchgronau.

Mae llawer o gofnodion Zetoc yn cynnwys crynodebau erbyn hyn.



TicTOCs

Gwasanaeth newydd yw hwn, ac yn debyg i Zetoc mae’n caniatáu i chi weld tabl cynnwys a dod o hyd i lifoedd RSS ar gyfer cylchgronau ysgolheigaidd (yn yr achos hwn dros 12,000 o deitlau, felly mae ganddo gronfa ddata lai na Zetoc).

Gallwch chwilio llifoedd RSS y tablau cynnwys yn ôl teitl, pwnc neu gyhoeddwr. Ar hyn o bryd nid oes cyfleuster ar gyfer pori h.y. rhaid i chi deipio’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, chewch chi ddim pori ac archwilio’r penawdau i gyd.

Mae angen i chi greu cyfrif os ydych chi am i ticTOCs gofio’r teitlau sydd o ddiddordeb i chi, ond os mai’r cyfan rydych chi am ei wneud yw dod o hyd i lif RSS teitl arbennig i’w ychwanegu at eich hoff ddarllenydd llif (e.e. Netvibes neu Bloglines) yna gallwch chi wneud hynny’n rhwydd heb gyfrif.

Rhowch gynnig arni!

Bydd Zetoc a ticTOCs ill dau yn eich helpu i gadw’n gyfredol yn eich maes. Rhowch gynnig arnyn nhw ac yna defnyddio’r gwasanaeth sydd orau gennych – neu defnyddiwch y ddau, oherwydd er bod rhywfaint o orgyffwrdd, mae gan y ddau wasanaeth rywfaint o gynnwys nad yw ar gael yn y llall.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc.

No comments: