Thursday 10 May 2018

Cyfarfod LibTeachMeet Aber 2018 – Sut allwn ni wneud y llyfrgell yn fwy cynhwysol?



Mae Prifysgol Aberystwyth yn adnabyddus am ddarparu un o’r profiadau myfyrwyr gorau yn y DU ac mae rhan fawr o hynny’n gysylltiedig â’r synnwyr cryf o berthyn yr ydym yn ei feithrin, nid yn unig â’r myfyrwyr a’r staff ond gyda’r gymuned ehangach hefyd. 

Roedd Cyfarfod LibTeachMeet Aber eleni, a oedd yn canolbwyntio ar gynwysoldeb, yn gyfle da i ystyried beth yr ydym yn ei wneud yn dda ond hefyd i ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud fel unigolion ac fel sefydliad i fodloni anghenion amrywiol ein defnyddwyr yn well a gwneud y llyfrgell mor gynhwysol â phosibl i bawb. 

Gwnaethom drefnu deg o gyflwyniadau a oedd yn ymchwilio i elfennau gwahanol yn ymwneud â chynwysoldeb – bodloni gofynion myfyrwyr rhyngwladol neu fyfyrwyr dwyieithog, cefnogi’r rhai sydd â nam golwg neu’r rhai sydd ag atal dweud neu feithrin cynwysoldeb drwy annog myfyrwyr i ddarllen.

Roedd y digwyddiad ei hun yn adlewyrchu’r pwnc a drafodwyd. Roedd y siaradwyr yn dod o bedwar sefydliad gwahanol – Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerlŷr, Sheffield Hallam Prifysgol a Phrifysgol Abertawe. Hefyd, roedd cynrychiolwyr o dair adran wahanol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn bresennol – Canolfan Myfyrwyr Rhyngwladol, Cymorth i Fyfyrwyr, a’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Roedd yr awyrgylch yn anffurfiol a hynaws, gwnaethom drafod syniadau’n agored, gofyn cwestiynau a mynegi gwerthfawrogiad am brofiadau a rennir.

Dechreuodd y diwrnod gyda chyflwyniad gan y llyfrgellydd pwnc, Lloyd Roderick, am ei brofiad o ddysgu llythrennedd gwybodaeth yn ddwyieithog. Rhannodd rai adnoddau defnyddiol megis yr Esboniadur a Gwerddon ar gyfer cynorthwyo myfyrwyr sy’n astudio yn Gymraeg. 


Dilynwyd cyflwyniad Lloyd gan Yvonne Rinkart o’r Ganolfan Myfyrwyr Rhyngwladol a gyflwynodd ddarganfyddiadau astudiaeth fer a oedd yn ymchwilio i ddefnydd myfyrwyr sylfaen rhyngwladol o’r llyfrgell. Un o’r pwyntiau a godwyd gan Yvonne oedd bod myfyrwyr rhyngwladol yn fwy tueddol o gael ‘pryder llyfrgell’ – sef y teimlad o fod wedi’u drysu a’u llethu gan y llyfrgelloedd. 

Roedd y cyflwyniad nesaf gan John Harrington a Diane Jones, siaradwyr o’r Ganolfan Cymorth i Fyfyrwyr, yn rhoi trosolwg da i ni o’r gwasanaethau anabledd y maent yn eu darparu ynghyd ag ystadegau ar gyfer Prifysgol Aberystwyth, a gwnaethant egluro gwir ystyr cynhwysiad.



Cawsom gyfle hefyd i edrych ar gynwysoldeb o safbwynt y myfyriwr. Siaradodd myfyrwraig a raddiodd yn ddiweddar o PA, Cerys Davies, am ei phrofiad o ddefnyddio’r llyfrgell fel myfyrwraig oedd â nam golwg. Gwnaeth y sgwrs ysbrydoli ton o sylwadau a chwestiynau cadarnhaol. Ymhlith nifer o bwyntiau gwerthfawr eraill, siaradodd Cerys am yr anhawster yr oedd hi’n ei gael i ddod o hyd i ddeunyddiau darllen hygyrch. 

Siaradwyr gwadd cynta’r dydd oedd Harinder Matharu ac Adam Smith a oedd wedi ymuno â ni o Brifysgol Caerlŷr. Rhoesant drosolwg i ni o’r ddwy fenter sy’n cyfrannu at amgylchedd cynhwysol eu prifysgol – ‘Read at Leicester’ ac ‘Unearthing Histories’. Roedd cryfhau synnwyr o berthyn grwpiau lleiafrifol drwy ymchwilio i’w hanes yn archifau’r brifysgol yn syniad cwbl ysbrydoledig.

Siaradodd un o aelodau o staff y Ddesg Gymorth TG – Alice Farnworth, am fanteision mewnosod hyfforddiant meddalwedd DSA o fewn ein gwasanaeth llyfrgell. Cyflwynodd amrywiaeth o offer cynorthwyol i ni, ac mae rhai ohonynt megis Read&Write neu Inspiration ar gael ar gyfrifiaduron cyhoeddus yn Aber.

Nesaf, dywedodd Philippa Price, sydd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Llyfrgellydd Cymreig y flwyddyn, wrthym am y Grŵp Gwasanaeth Cynhwysol sydd wedi’i sefydlu ym Mhrifysgol Abertawe. Siaradodd Philippa am amrywiaeth eang o fentrau y mae’r Grŵp yn eu trefnu a’u hyrwyddo, megis creu rhestrau darllen argymelledig ar gyfer y gymuned LGBT neu wneud pecynnau urddas ar gyfer menywod digartref. 

Siaradodd Hannah Dee, darlithydd o’r Adran Gyfrifiadureg â ni am y syniad o wella dull ysgrifennu’r myfyrwyr a’u gallu i ddarllen trwy drefnu clwb llyfrau ffuglen wyddonol i fyfyrwyr a staff o’i hadran. Gwnaeth Hannah ein cyflwyno hefyd i rai llyfrau diddorol, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddi.

Gwnaeth siaradwr gwadd arall, sef Paul Conway o Brifysgol Sheffield Hallam, drafod templedi hygyrch ar gyfer cyflwyniadau a thaflenni ac awgrymiadau eraill ar fod yn gynhwysol yn y dosbarth. Rhoddodd Kate Wright o Grŵp E-ddysgu Prifysgol Aberystwyth gyflwyniad byr ar gefnogi defnyddwyr sydd ag atal dweud. Gwnaeth Kate rai pwyntiau diddorol gan gynnwys nad yw atal dweud yn cael ei weld fel anabledd, er ei fod wedi’i ddosbarthu fel anabledd. Trafododd hefyd yr ystrydebau ynghylch atal dweud. 

Fel y tri cyfarfod LibTeachMeet diwethaf, roedd hwn yn fforwm arbennig i fyfyrio ar ein harferion presennol ac i gael syniadau newydd er mwyn parhau i adeiladu ar ein henw da o ran cynwysoldeb mewn amgylchedd amrywiol sy’n newid yn gyflym. Cawsom adborth cadarnhaol gan siaradwyr a mynychwyr a ddisgrifiodd y rhaglen fel un ddiddorol, amrywiol, addysgiadol ac un sy’n pryfocio’r meddwl. Rydym ni’n gwerthfawrogi presenoldeb  pawb a ymunodd â ni a gobeithio y bydd yn ysbrydoli syniadau da a fydd yn ein cynorthwyo wrth geisio cynyddu ymwybyddiaeth a hygyrchedd o ran adnoddau’r llyfrgell a’r gwasanaethau a gynigir yma.

No comments: