Tuesday 27 February 2018

Beth yw barn y myfyrwyr am restrau darllen yn Aber?

Roedd un o’r Grwpiau Ffocws Gwasanaethau Gwybodaeth a gynhaliwyd eleni’n ymchwilio i brofiad y myfyrwyr o ddefnyddio rhestrau darllen Aspire yn rhan o’u hastudiaethau. Roedd yr adborth a gafwyd gan y myfyrwyr yn amlygu’r pwyntiau canlynol:

  • Hoffai’r myfyrwyr weld beth sydd ar y rhestr ddarllen cyn cofrestru ar gyfer modiwl.
  • Dylai’r rhestrau darllen gynnwys yr holl adnoddau angenrheidiol ar gyfer y cwrs a galluogi’r myfyrwyr i adeiladu ar y wybodaeth a gafwyd yn y darlithoedd drwy ddarllen pellach.
  • Roedd y myfyrwyr yn hoffi’r rhestrau hynny a oedd wedi’u trefnu gydag adrannau o wythnos i wythnos. 
  • Roedd y ffordd yr oedd y llyfrau ar y rhestrau darllen wedi’u cysylltu â Primo yn ddefnyddiol iawn ym marn y myfyrwyr ac roeddent yn credu y byddai’n beth da pe bai hyn yn gyson ar draws yr holl fodiwlau.
  • Teimlwyd bod rhestrau rhy faith rhywfaint yn frawychus. 
  • Er bod y myfyrwyr yn hoffi’r rhestr ddarllen ar Blackboard roddent yn credu y byddai’n ddefnyddiol pe baent yn cael eu cyflwyno i’r system Aspire hefyd. Y gred oedd bod y nodweddion ychwanegol yr oedd yn ei ddarparu, yn arbennig yr adnodd i greu ac allforio llyfryddiaethau, yn ddefnyddiol iawn.

Mae’r llyfrgellwyr pwnc yn barod iawn i gynorthwyo cydlynwyr modiwlau i greu neu ddiweddaru eu rhestrau darllen Aspire. Hefyd, mae’r llyfrgellwyr ar gael i roi arddangosiadau byr o system Aspire a’i nodweddion i fyfyrwyr.

Cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc neu â’r Tîm Cysylltiadau Academaidd ar acastaff@aber.ac.uk neu ar 01970621896. Rydym yn barod i gwrdd ar amser ac mewn lleoliad sy’n gyfleus i chi.


No comments: