Wednesday 4 June 2014

‘JISC Historic Books’ yn cael ei uwchraddio



Mae’r llwyfan a elwid gynt yn ‘JISC Historic Books’ wedi cael ei uwchraddio. Mae’r fersiwn BETA o’r llwyfan newydd, ‘JISC Historical Texts’, ar gael nawr i’w archwilio: historicaltexts.jisc.ac.uk

Bydd y llwyfan blaenorol yn cael ei ddisodli ar 23 Mehefin 2014, felly gofalwch eich bod yn diweddaru’ch dolenni a’ch nodau tudalen!

Mae ‘JISC Historical Texts’ yn cynnwys yr un tri chasgliad ag o’r blaen, sy’n cyfuno dros 350,000 o destunau o ddiwedd y 15fed hyd at y 19eg ganrif: Early English Books Online (EEBO), Eighteenth Century Collections Online (ECCO), a llyfrau o’r 19eg ganrif o gasgliad y Llyfrgell Brydeinig.


Mae’r enw newydd yn adlewyrchu’r ffaith nad porth i lyfrau yn unig yw’r llwyfan hwn – gallwch hefyd ddod o hyd i bamffledi a chyfnodolion a gyhoeddwyd dros y canrifoedd, ac wrth i gasgliadau newydd gael eu hychwanegu, mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd.

Mae’rllwyfan hwn yn cynnws llawer o elfennau newydd a fydd yn gwella’ch ymchwil, gan gynnwys y gallu i lawr lwytho dogfennau PDF ar unwaith, y gallu i weld delweddau a thestun llawn ochr yn ochr, ac adnodd i chwilio am ddarluniau.

I roi rhagflas i’r rhai ohonoch sydd o bosib heb weld yr adnodd hwn o’r blaen, dyma rai o’r copïau testun llawn sydd ar gael am ddim ar y safle (angen mewngofnodi sefydliadol):


'Y ffordd i fod yn happus mewn byd truenus' -  cyfieithiad o Ambrose Serle: 'The way to be happy in a miserable world' gan Hugh Jones, 1789.

'Proposals for erecting libraries in Wales, as also for dispersing some devotional and practical book there, both in the English and Welsh tongues' - 1708.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Grŵp Gwasanaethau Academaidd Llyfrgell ar acastaff@aber.ac.uk

No comments: