Wednesday 30 October 2013

Wythnos Mynediad Agored 2013


Wythnos Mynediad Agored 2013

WYTHNOS MYNEDIAD AGORED – 21/27 Hydref 2013


Mewn cysylltiad ag Wythnos Mynediad Agored, hoffem dynnu eich sylw at CADAIR, ffenest Mynediad Agored Prifysgol Aberystwyth i waith ymchwil staff a myfyrwyr y Brifysgol, sy’n darparu mynediad at bapurau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid nad oes angen tanysgrifio i’w defnyddio.


Heddiw, caiff erthyglau eu hychwanegu at Cadair drwy system rheoli ymchwil Prifysgol Aberystwyth, PURE, sy’n anfon erthyglau sy’n addas ar gyfer Mynediad Agored i Cadair ar ôl i unrhyw gyfnodau embargo ddod i ben. O dudalen cychwyn CADAIR, gellir chwilio drwy bapurau aelodau o staff drwy ddefnyddio enwau awduron neu allweddeiriau, neu trwy bori yn ôl Adran/Cymuned neu yn ôl casgliadau pwnc mwy penodol. 


Yr eithriad mawr i hyn yw traethodau ymchwil Prifysgol Aberystwyth, lle caiff y cofnodion a’r ffeiliau cysylltiedig eu llwytho’n uniongyrchol ar CADAIR. Cesglir cofnodion traethodau ymchwil ynghyd yng nghasgliad Cyhoeddiadau Uwchraddedig CADAIR, ond maent hefyd ar gael yn y casgliadau adrannol perthnasol.


Mae’r rhan fwyaf o’r prif gyhoeddwyr academaidd (e.e. Gwasg Prifysgol Caergrawnt, Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wiley, Elsevier, Sage) erbyn hyn yn caniatáu naill ai cyhoeddi mynediad agored aur neu adneuo papurau mynediad agored gwyrdd sydd yn eu cyfnodolion. Ariennir papurau mynediad agored aur drwy’r “Ffioedd Prosesu Erthyglau” (FfPE) a delir gan awduron cyn iddynt gyhoeddi eu gwaith, sy’n galluogi pobl i ddarllen y papur ar wefan y cyhoeddwr heb orfod talu ffioedd tanysgrifio. Mae’r prif gyfnodolion felly yn aml yn cynnwys papurau mynediad agored (agored i bawb) a phapurau safonol sy’n agored i unigolion neu sefydliadau sydd wedi tanysgrifio yn unig. Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cael rhywfaint o gyllid FfPE ar gyfer cyhoeddi mynediad agored aur gan y Cynghorau Cyllido Addysg Uwch. Os hoffech wybod rhagor am sut i fanteisio ar y cyllid hwn i’ch helpu i gyhoeddi’ch papurau ymchwil ar ffurf “mynediad agored aur”, cysylltwch â mailto:openaccess@aber.ac.uk


Mae rhai cyhoeddwyr yn arbenigo’n llwyr mewn cyfnodolion mynediad agored aur sydd ddim yn codi unrhyw ffioedd tanysgrifio. Mae awduron o Brifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi gwaith gyda’r cyhoeddwyr mynediad agored “aur” a adolygir gan gymheiriaid canlynol:


Public Library of Science - saith cyhoeddiad o bwys ym meysydd bioleg a meddyginiaeth 

Hindawi - cyhoeddiadau mynediad agored ym mhob disgyblaeth academaidd

J-STAGE Humanities – cyfnodolion yn y celfyddydau a’r gwyddorau cymdeithasol o Japan

Ubiquity Press - cyhoeddwr aur arbenigol yn y celfyddydau a’r dyniaethau

Biomed Central - ystod eang o gyfnodolion ym maes meddyginiaeth a geneteg

Frontiers - y biowyddorau i gyd, gan gynnwys niwroleg


Gellir gosod papurau mynediad agored “gwyrdd” allanol ar gadwrfeydd prifysgolion a chadwrfeydd sefydliadau eraill heb orfod talu unrhyw ffioedd prosesu erthyglau. Yn aml, dim ond fersiynau rhagargraffedig neu ôl argraffedig (wedi’u derbyn gan yr awdur) o erthyglau y gellir eu hadneuo, ac fe all cyhoeddwyr osod embargo o rhwng 6-24 mis ar adneuon mewn cadwrfeydd mynediad agored gwyrdd, i ddiogelu eu hincwm.


Erbyn hyn mae gan y rhan fwyaf o brifysgolion eu cadwrfeydd lleol eu hunain ar gyfer papurau staff a thraethodau ymchwil, megis cadwrfa CADAIR Prifysgol Aberystwyth, ond gellir hefyd chwilio drwy grwpiau mawr o gadwrfeydd mynediad agored gwyrdd yn:







Mae’r cadwrfeydd ar gyfer pynciau arbenigol yn cynnwys:



Latin-American Open Archives Portal - http://lanic.utexas.edu/project/laoap/

Social Science Open Access Repository: http://www.ssoar.info/


Pandektis - Greek History & Civilisation - http://pandektis.ekt.gr/pandektis/


Ceir rhestrau o gyfnodolion mynediad agored o bob math, gwyrdd ac aur fel ei gilydd, yn: Directory of Open Access Journals

Am restrau o gadwrfeydd mynediad agored gwyrdd gweler y wefan OpenDOAR.


I weld a fyddai unrhyw gyfnodolyn penodol yn caniatáu i chi adneuo’ch papurau mewn cadwrfa mynediad agored gwyrdd yn unol â gofynion mynediad agored eich cyllidwyr, cysylltwch â’r wefan Sherpa Romeo. I gael gwybod rhagor am ofynion penodol y cyrff cyllido gweler Sherpa Juliet.


Os oes angen rhagor o fanylion arnoch, cysylltwch â’r Tîm Mynediad Agored yn: openaccess@aber.ac.uk .

Am ymholiadau ynglŷn ag adneuo traethodau ymchwil PA, anfonwch e-bost at: is@aber.ac.uk .


Steve Smith - tns@aber.ac.uk

Amy Staniforth - mws@aber.ac.uk

Gwasanaethau Gwybodaeth

No comments: