Monday 8 April 2013

Ffynonellau ar gyfer Cyrsiau: BBC Your Paintings

Mae casgliad newydd o beintiadau olew can gwaith maint Oriel Genedlaethol Llundain yn awr i'w gweld ar-lein. Lluniau sydd yn y byd cyhoeddus yw’r casgliad yn bennaf, sydd hefyd yn cynnwys ychydig ddarnau o gelf nad oes modd i’r cyhoedd fel arfer eu gweld.

 Mae'r prosiect yn anelu at wneud y casgliad hwn o baentiadau olew yn chwiliadwy trwy ofyn am help y cyhoedd i dagio’r paentiadau gyda manylion am eu cynnwys. Mae hyn yn cynorthwyo i wneud y gronfa ddata yn ddefnyddiol fel adnodd academaidd trwy alluogi myfyrwyr i chwilio am nodweddion penodol yn y gelf a astudir ganddynt.


Mae'r wefan hefyd yn cynnwys 'teithiau rhithwir' sy'n cynnwys podlediadau sy’n archwilio hoff beintiadau ffigurau adnabyddus a haneswyr celf.



Mae'r lluniau nid yn unig yn ddefnyddiol ar gyfer myfyrwyr celf, ond hefyd ar gyfer myfyrwyr ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau. Maent yn cynnig cipolwg ar dros 600 mlynedd o ddiwylliant y DU ac yn cynrychioli cofnod pwysig o gyfnod cyn ffotograffiaeth.

 Ni ddylid ychwaith diystyru’r ffaith pa mor eang yw’r casgliad. Mae’r paentiadau yn deillio o gasgliadau sy’n ymestyn o ynys ddeheuol Jersey i rannau gogleddol Ynys Shetland.

Gellir cael mynediad i Your Paintings trwy gyfrwng Cronfeydd data AZ yn Primo.

No comments: