Tuesday 18 May 2010

Arolwg Critigol: Tynnu’n ôl cyfnodolion print a chynllunio symud casgliadau

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn parhau i arolygu mynediad i gasgliadau cyfredol o gyfnodolion print. Mae staff a myfyrwyr yn gwneud defnydd mwyfwy o adnoddau electronig o’i gymharu â chyfnodolion print ac mae’r galwadau ar ofod yn Llyfrgell Hugh Owen yn cynyddu wrth iddi ddechrau darparu gwasanaeth i’r adrannau sy’n cael eu symud i Gampws Penglais.
Oherwydd hyn y mae angen cynnal arolwg critigol o’r casgliadau llyfrgell presennol a’r cam nesaf yw ystyried tynnu’n ôl cyfnodolion print y celfyddydau, dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol sydd ar gael yn electronig ar JSTOR o dan y cynllun UKRR.

Gweler yma restr o holl gyfnodolion y celfyddydau, dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol sydd ar gael ar JSTOR


Rydym yn y broses o gynllunio symud casgliadau’r llyfrgell o ganlyniad i Strategaeth Ystadau’r Brifysol. Mae’n ddyddiau cynnar ar hyn o bryd ond rhagwelir:
  • Byddwn yn arolygu’r casgliadau a leolir yn llyfrgell Gogerddan yn ystod yr haf eleni.
  • Bydd y casgliadau gwyddonol gweithredol yn cael eu lleoli yn Llyfrgell Hugh Owen a’r casgliadau ymchwil gwyddonol wrth gefn yn cael eu lleoli yn Llyfrgell Thomas Parry o haf 2011
  • Bydd hyn yn golygu trosglwyddo oddeutu 8000 o lyfrau gwyddonol Llyfrgell Hugh Owen sydd heb cael eu benthyca dros gyfnod o 6 mlynedd i Lyfrgell Thomas Parry a throsglwyddo oddeutu 7,500 o lyfrau gwyddonol a fenthycwyd o Lyfrgell Thomas Parry yn ystod y 6 mlynedd ddiwethaf i Lyfrgell Hugh Owen.
Bydd y materion hyn yn cael eu trafod yn y Cyfarfodydd Cyfadran ar Fai 19eg ac rydym hefyd yn barod i gyfarfod ag adrannau unigol. Os gwelwch yn dda cysylltwch â’ch Llyfrgellydd Pwnc os hoffech drefnu cyfarfod.

Lillian Stevenson, Rheolwr Gwasanaethau Academaidd

No comments: