Wednesday 7 November 2012

Yr ymgyrch Mwy o Lyfrau


Mae arolygon myfyrwyr yn dweud wrthym eich bod am fwy o lyfrau. Yn awr mae’r ymgyrch Mwy o Lyfrau yn neilltuo arian ychwanegol i roi hynny ar waith. Felly, er mai academyddion fydd yn parhau yn brif ddewiswyr  yr adnoddau  a fydd yn cael eu prynu ar gyfer llyfrgelloedd PA, fe allwch chi gael llais yn hyn o beth hefyd. Dyma sut mae'r cynllun yn gweithio…

Yn gyntaf edrychwch ar Primo catalog y llyfrgell  yn primo.aber.ac.uk
Methu dod o hyd i'r llyfr yr ydych ei eisiau?

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r llyfr ‘rydych yn chwilio amdano, gallwch wneud cais trwy ddefnyddio’r ffurflen archebu ar-lein o dudalen gartref Primo.  Serch hynny, fe ddylech fod yn ymwybodol, y gall llyfr gymryd rhwng deg diwrnod a chwe wythnos o ddyddiad yr archeb hyd nes iddo ymddangos ar silffoedd y llyfrgell, yn dibynnu ar argaeledd gan ein cyflenwr.

Os yw'r llyfr y gwnaethoch gais amdano yn costio llai na £ 50.00 ac nad oes unrhyw gopïau eraill mewn stoc, bydd eich archeb yn cael ei gosod yn nwylo ein cyflenwyr o fewn tri diwrnod gwaith. Bydd  ceisiadau ar gyfer llyfr sy'n costio mwy na £ 50.00, neu lle mae copïau eraill mewn stoc, yn cael eu trosglwyddo i Lyfrgellwyr  y Gwasanaethau Academaidd er mwyn iddynt gymeradwyo prynu’r eitem.

Unwaith y cymeradwyir eich archeb bydd yn cael ei gosod gyda’n cyflenwyr o fewn pum niwrnod gwaith o'i dderbyn. Byddwn yn eich hysbysu os na allwn  gymeradwyo eich archeb ynghyd â’r rheswm dros wrthod y cais.
Bydd cyfnodau benthyg safonol mewn grym ar gyfer pob llyfr a brynwyd drwy'r ymgyrch Mwy o Lyfrau

Os ydych wedi gwneud cais cadw am y llyfr, byddwn yn eich hysbysu drwy e-bost pan fydd ar gael a byddwn yn ei gadw yn y lleoliad o’ch dewis am dri diwrnod.

No comments: