Mae’r safle Information Literacy yn cynnwys adroddiad am y digwyddiad LibTeachMeet symbylol a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gynharach y mis hwn. Ffion Bell, ein hyfforddai graddedig, gwneud cais am y cyllid a drefnodd y digwyddiad yn ystod ei lleoliad yn y Gwasanaethau Academaidd. Darllenwch ragor am yr hyn a ddigwyddodd...
Thursday, 12 June 2014
LibTeachMeet Prifysgol Aberystwyth
Mae’r safle Information Literacy yn cynnwys adroddiad am y digwyddiad LibTeachMeet symbylol a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gynharach y mis hwn. Ffion Bell, ein hyfforddai graddedig, gwneud cais am y cyllid a drefnodd y digwyddiad yn ystod ei lleoliad yn y Gwasanaethau Academaidd. Darllenwch ragor am yr hyn a ddigwyddodd...
Friday, 6 June 2014
Yn dod yn fuan! System rhestrau darllen newydd PA sy’n cael ei chynnal gan Talis Aspire
Mynnwch gipolwg ar y fideo fer hon.
Mae cynlluniau ar y gweill i roi'r sustem ar waith; dyma rai agweddau allweddol ar yr amserlen:
- Rhoi'r sustem ar waith yn ystod mis Gorffennaf
- Cyflunio a phrofi'r sustem yn ystod Awst a Medi
- Hyfforddi academyddion a staff gweinyddol yr adrannau ym mis Hydref
- Rhoddir y rhestrau darllen cyntaf ym misoedd Hydref a Thachwedd ar gyfer modiwlau ail Semester 2014/15 er mwyn inni gael digon o amser i brynu unrhyw eitemau nad ydynt ar gael yn y llyfrgelloedd nac yn electronig
- Bydd ARMS ar gael i'w olygu tan canol mis Tachwedd
- Rhoddir gwybod i ddefnyddwyr presennol ARMS na fydd modd iddynt drosglwyddo eu rhestrau i Aspire, ond fe fyddant yn cael blaenoriaeth ar gyfer hyfforddiant a chymorth i ddefnyddio Aspire
Edrychwn ymlaen at ddangos y sustem newydd i chi cyn gynted ag y bo modd. Croeso ichi gysylltu â’r llyfrgellwyr pwnc os oes gennych unrhyw ymholiadau: acastaff@aber.ac.uk
Wednesday, 4 June 2014
‘JISC Historic Books’ yn cael ei uwchraddio
Thursday, 1 May 2014
Israddedigion - Mae Rhagor o Lyfrau ar gael!
Ydych chi’n israddedig? Ydych chi wrthi’n meddwl am destun eich traethawd hir am y flwyddyn nesaf, ac yn cynllunio’r gwaith darllen sydd angen ei wneud? Newyddion da! Gyda’n hymgyrch Mwy o Lyfrau rydyn ni’n ei gwneud yn hawdd i chi gael gafael ar lyfrau.
Os oes ‘na lyfr a fyddai’n ddefnyddiol ichi, ond dim copi ohono mewn stoc (cofiwch edrych ar Primo gyntaf) fe wnawn ei archebu ar eich cyfer. Mewngofnodwch i Primo, clicio ar y ddolen "Gwnewch gais i brynu copïau newydd". Mae rhagor o fanylion fan hyn.
Gall gymryd rhwng deg diwrnod a chwe wythnos i lyfr gyrraedd, felly cofiwch gynllunio mewn da bryd.
Monday, 28 April 2014
Profiad gwaith yn Llyfrgell Hugh Owen
Dyma beth oedd ganddi i'w ddweud : "Mae’r 3 diwrnod yma wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi ac wedi cryfhau fy nealltwriaeth o’r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn y Gwasanaethau Gwybodaeth. Roedd fy niwrnod cyntaf yn canolbwyntio ar Wasanaethau Cwsmeriaid. Cefais fy nghyflwyno i ‘fapio’ gwasanaethau cwsmeriaid sy'n pwysleisio ar rôl y cwsmer mewn prosesau dydd-i-ddydd. Roedd gweithio gyda'r Tîm Benthyca yn brofiad mwy ymarferol - roeddwn yn gallu gweld prosesau megis digideiddio, cyflenwi dogfennau a chyfarfod â chwsmeriaid wrth y ddesg ymholiadau. Roedd gweithio gyda llyfrgellwyr pwnc ar y trydydd diwrnod yn hynod ddiddorol gan fy mod yn medru gweld sut mae staff yn cysylltu â'r gwahanol adrannau. Roedd y casgliadau arbennig hefyd yn ddiddorol a chefais gyfle i eistedd i mewn ar gyfarfod ynglŷn â chynllunio arddangosfa arfaethedig ynglŷn â myfyrwyr o Gymru a aeth i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a oedd yn arbennig o ddiddorol i mi fel myfyriwr Hanes.
Wedi treulio peth amser yma rwyf wedi gweld sut mae pob aelod o’r staff yn gyfrifol am lu o dasgau gwahanol felly nid yw’r gwaith byth yn ddiflas. Mae'r profiad yn wir wedi cryfhau fy nealltwriaeth o’r Gwasanaethau Gwybodaeth ac ennyn diddordeb mewn gyrfa ym maes llyfrgellyddiaeth neu debyg . Roedd yn wych i brofi’r pethau yma ac mae'r staff i gyd wedi bod yn gefnogol ac yn gyfeillgar iawn ".
Sarah Gwenlan, Laura Nichols a Joy Cadwallader yn Hugh Owen Library, Campws Penglais
Wednesday, 2 April 2014
Treialu E-adnodd tan 26 Ebrill 2014 – Irish Newspapers Online
“Irish Newspapers Archives yw’r Archif Ddigidol fwyaf o Bapurau Newydd Iwerddon yn y byd, gyda dros 40 teitl o bob rhan o’r wlad, yn rhoi mynediad i filiynau o erthyglau papurau newydd sy’n rhychwantu dros 300 mlynedd o hanes Iwerddon.”
Ceir ynddo gyhoeddiadau digidol o newyddion o 1738 ymlaen, ar hyn o bryd mae’n cynnwys: Freeman's Journal, Irish Independent, Sunday Independent, Irish Farmers Journal a phapurau rhanbarthol eraill. Mae digido mwy o gynnwys y rhain a theitlau newydd eisoes ar y gweill.
• Gallwch bori yn ôl teitl, allweddair neu gyfnod amser.
• Chwilio erthyglau, lluniau ac hysbysebion.
Dyma enghraifft o’r hyn y gallwch ei ddarganfod – adolygiad llyfr o’r Irish Independent ar ddydd Mawrth 9fed Mai 1939. Mae’n amlwg nad yw’r adolygydd yn gallu gwneud na pen na chynffon o James Joyce...