Post gan Lillian Stevenson, Rheolwr Gwasanaethau Academaidd a Llyfrgellydd y Gyfraith.
Roedd hi'n bleser gwirioneddol gennym groesawu'r Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr a'i Anrhydedd y Barnwr D. Elgan Edwards DL, Cofiadur Caer, i Lyfrgell Thomas Parry, cartref newydd llyfrgell y Gyfraith a Throseddeg. Cafwyd cyfle i drafod rôl gwybodaeth gyfreithiol a llyfrgellwyr y gyfraith o fewn proffesiwn y gyfraith ac addysg gyfreithiol yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Cafodd y myfyrwyr a oedd yn astudio yn y llyfrgell eu croesholi, ond llwyddasant i ddod i ben â'r her!
Tuesday, 18 March 2014
Thursday, 6 March 2014
Mae Literature Online yn newid
Mae ProQuest Literature Online yn cynnig i fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth
fynediad i nifer enfawr o destunau llenyddol yn ogystal â chasgliadau o gyfeiriadau
a deunydd beirniadol. Mae’n ffynhonnell angenrheidiol ar gyfer astudio a dysgu
llenyddiaeth, barddoniaeth a dramâu Saesneg.
Efallai bydd pethau yn edrych ychydig yn wahanol y tro
nesaf byddwch yn ymweld â’r safle gan fod ProQuest wedi datblygu rhyngwyneb
cwbl newydd a bydd yr hen fersiwn yn cael ei chau ym mis Mai 2014. Rhowch
gynnig ar y safle newydd nawr, Literature Online
'The new Literature Online features all the existing content - the more than 350,000 works of poetry, prose and drama, the ever-growing full-text journal collection, the vast library of reference resources such as biographies, encyclopedias and companions, and the exclusive audio and video offerings - as well as the bespoke and specialist search features and functionalities. Now, however, that advanced functionality and in-demand content has been paired with a modern search interface which is more intuitive and straightforward to use and navigate. What's more, Literature Online is now fully mobile-compatible, meaning you can use it on tablets or smartphones, wherever and whenever you need it.'
Wednesday, 12 February 2014
Diwrnod ym mywyd llyfrgellydd #2
Anita Saycell, llyfrgellydd Astudiaethau Gwybodaeth a Rheloaeth a Busnes.
8.45yb: Rwy’n cyrraedd y gwaith yn wlyb domen ar ôl y daith i mewn. Ar ôl newid yn gyflym rwyf wrth fy nesg yn darllen fy e-byst. Fel y bydd unrhyw un sy’n gweithio ar sail rhan-amser yn gwybod, nid yw’r e-byst yn peidio er nad ydych chi yn y gwaith! Mae un o’r negeseuon yn cynnwys cais i ddod i ddarlith am 10 munud i egluro i’r myfyrwyr sut i ddod o hyd i adnoddau ar gyfer aseiniadau. Dyma’r sesiynau gorau yn fy marn i, gan eu bod yn darparu cymorth perthnasol lle mae’r angen yn codi.

Thursday, 6 February 2014
Diwrnod ym mywyd llyfrgellydd #1
Cwestiwn: beth mae llyfrgellwyr yn ei wneud?
Cliw: Nid yw’n ymwneud â stampio llyfrau fel rheol.
I gael yr ateb, darllenwch y gyfres newydd hon o erthyglau blog! Rydym eisoes wedi cael cyfres 'cwrdd â’ch llyfrgellydd', ac fe fyddwn yn parhau i ysgrifennu’r rheiny. Enw’r gyfres hon yw 'diwrnod ym mywyd llyfrgellydd' a bydd yn cynnig cipolwg o’r gwaith y mae rhai o’r llyfrgellwyr yn ei wneud ar ddiwrnod nodweddiadol. Byddwn yn dewis ambell ddigwyddiad ar gyfer pob dydd.
Fe wna i ddechrau’r gyfres: Karl Drinkwater ydw i, a fi yw’r llyfrgellydd seicoleg.

Dyma lle ryw’n gweithio (ar fy nhraed).
Rwy’n ei alw’n ‘The Temple of Doom’.
Rwy’n ei alw’n ‘The Temple of Doom’.
Friday, 31 January 2014
Ydy Mynediad Agored yn Niweidio Gwerthiant Llyfrau?
![]() |
Image: The Guardian |
o’r llyfr.
Mewn ymateb i’r pryder hwn, ym mis Hydref 2013 cyhoeddodd Sefydliad OAPEN astudiaeth ar effaith Mynediad Agored ar werthiant ysgrifau academaidd yn yr Iseldiroedd. Cefnogwyd y
prosiect gan Sefydliad Ymchwil Gwyddonol yr Iseldiroedd, ac fe’i cyflawnwyd ar y cyd â naw cyhoeddwyr academaidd.
Ni ddaeth adroddiad OAPEN-NL o hyd i unrhyw dystiolaeth bod Mynediad Agored yn effeithio ar
werthiant ysgrifau academaidd. Yn wir, roedd gwerthiant y llyfrau Mynediad Agored yn debyg
iawn i werthiant y llyfrau heb Fynediad Agored yng ngr?p rheoli’r arbrawf. Fodd bynnag, roedd
effaith glir o safblynt hygyrchedd ar-lein. Drwy ddarparu llyfrau ar-lein, dangosodd yr astudiaeth
bod cynydd 142% yn y llyfrau sy’n cael eu darganfod ar-lein drwy Google Books, ar gyfartaledd, a
bod defnydd o’r testun-llawn (o ran sawl gwaith y caiff tudalennau eu gweld ar Google Books) yn
cynyddu 209%. Ar gyfartaledd, denodd pob e-lyfr yn yr astudiaeth 144 o werthiannau o’i gymharu
â 2800 o lawrlwythiadau.
Mae’r adroddiad hefyd yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer gwahanol grwpiau, gan gynnwys
awduron, cyllidwyr, cyhoeddwyr a llyfrgelloedd, yngl?n â sut i wella Mynediad Agored ar gyfer
ysgrifau.
Mae adroddiad OAPEN-NL ar gael yn ei gyfanrwydd ar-lein.
Neil Waghorn
Steve Smith
Adroddiad Finch: Blwyddyn yn Ddiweddarach
Cyhoeddwyd Adroddiad Finch ar gynyddu mynediad at gyhoeddiadau ymchwil, yn 2012. Roedd yr
adroddiad yn cynnwys rhestr o argymhellion ac yn nodi camau ar gyfer eu cyflawni. Ym mis Hydref
2013, cyhoeddodd y Gweithgor ei gasgliadau ar y sefyllfa o safbwynt cynnydd.
Mae’r arolwg yn dal at yr argymhellion a wnaed yn yr Adroddiad Finch gwreiddiol, sy’n nodi mai
Mynediad Agored Aur, wedi’i ariannu’n bennaf gan daliadau prosesu neu gyhoeddi erthyglau (APC)
fydd y ffurf orau posil i ddarparu Mynediad Agored yn y pen draw, er nad oeddent yn ‘argymell
newid cyflym'.
Yng ngoleuni Adroddiad Finch, cyhoeddodd Cynghorau Ymchwil y DU bolisïau newydd ac mae
prifysgolion yn gweithredu’n unol â hwy. Nodwyd, fodd bynnag, ei bod yn ymddangos bod
gweithredoedd prifysgolion yn bodloni’r gofynion yn unig yn hytrach na mynd ymhellach. Mae
prifysgolion wedi bod yn awyddus i barhau i fuddsoddi mewn Mynediad Agored Gwyrdd yn ogystal â Mynediad Agored Aur, sef y llwybr a argymhellir.

Subscribe to:
Posts (Atom)