Mae diweddariad gan Lillian Stevenson, Rheolwr Gwasanaethau Academaidd a Llyfrgellydd y Gyfraith.
Teithiau o amgylch Llyfrgell Thomas Parry ac arddangosfeydd o lyfrau cyfreithiol prin o Lyfrgell y Brifysgol fel rhan o agoriad swyddogol Adeilad Elystan Morgan ar 20 Tachwedd 2013
Roedd hi’n bleser mawr cyfarfod â’r Arglwydd Elystan Morgan, cyn-fyfyrwyr, cyfreithwyr lleol, aelodau o’r Senedd a llawer o bobl eraill yn agoriad swyddogol Adeilad Elystan Morgan, cartref newydd Adran y Gyfraith a Throseddeg yn Llanbadarn.
Bracton De Legibus 1569 – un o’r llyfrau cyfreithiol prin o Lyfrgell y Brifysgol yn cael ei arddangos ar gyfer seremoni agoriadol swyddogol Adeilad Elystan Morgan.
Bu’n gyfle perffaith i ddangos
Llyfrgell Thomas Parry i’n gwestai, sydd ar bwys Adeilad Elystan Morgan. Mae Llyfrgell Thomas Parry yn cynnwys casgliadau'r gyfraith a throseddeg o hen Lyfrgell y Gyfraith, ac mae’n cynnwys ystafelloedd astudio grŵp, ystafell hyfforddi, ystafell gyfrifiadura ac, wrth gwrs, llyfrgell a chymorth TG wrth law.