Wednesday, 6 November 2013
Wednesday, 30 October 2013
Wythnos Mynediad Agored 2013
Wythnos Mynediad Agored 2013
WYTHNOS MYNEDIAD AGORED – 21/27 Hydref 2013
Mewn cysylltiad ag Wythnos Mynediad Agored, hoffem dynnu
eich sylw at CADAIR, ffenest Mynediad Agored Prifysgol Aberystwyth i waith
ymchwil staff a myfyrwyr y Brifysgol, sy’n darparu mynediad at bapurau wedi’u
hadolygu gan gymheiriaid nad oes angen tanysgrifio i’w defnyddio.
Heddiw, caiff erthyglau eu hychwanegu at Cadair drwy
system rheoli ymchwil Prifysgol Aberystwyth, PURE, sy’n anfon erthyglau sy’n
addas ar gyfer Mynediad Agored i Cadair ar ôl i unrhyw gyfnodau embargo ddod i
ben. O dudalen cychwyn CADAIR, gellir chwilio drwy bapurau aelodau o staff drwy
ddefnyddio enwau awduron neu allweddeiriau, neu trwy bori yn ôl Adran/Cymuned
neu yn ôl casgliadau pwnc mwy penodol.
Yr eithriad mawr i hyn yw traethodau ymchwil Prifysgol
Aberystwyth, lle caiff y cofnodion a’r ffeiliau cysylltiedig eu llwytho’n
uniongyrchol ar CADAIR. Cesglir cofnodion traethodau ymchwil ynghyd yng
nghasgliad Cyhoeddiadau Uwchraddedig CADAIR, ond maent hefyd ar gael yn y
casgliadau adrannol perthnasol.
Mae’r rhan fwyaf o’r prif gyhoeddwyr academaidd (e.e.
Gwasg Prifysgol Caergrawnt, Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wiley, Elsevier, Sage)
erbyn hyn yn caniatáu naill ai cyhoeddi mynediad agored aur neu adneuo papurau
mynediad agored gwyrdd sydd yn eu cyfnodolion. Ariennir papurau mynediad agored
aur drwy’r “Ffioedd Prosesu Erthyglau” (FfPE) a delir gan awduron cyn iddynt
gyhoeddi eu gwaith, sy’n galluogi pobl i ddarllen y papur ar wefan y cyhoeddwr
heb orfod talu ffioedd tanysgrifio. Mae’r prif gyfnodolion felly yn aml yn
cynnwys papurau mynediad agored (agored i bawb) a phapurau safonol sy’n agored
i unigolion neu sefydliadau sydd wedi tanysgrifio yn unig. Mae Prifysgol
Aberystwyth wedi cael rhywfaint o gyllid FfPE ar gyfer cyhoeddi mynediad agored
aur gan y Cynghorau Cyllido Addysg Uwch. Os hoffech wybod rhagor am sut i
fanteisio ar y cyllid hwn i’ch helpu i gyhoeddi’ch papurau ymchwil ar ffurf
“mynediad agored aur”, cysylltwch â mailto:openaccess@aber.ac.uk
Wednesday, 16 October 2013
e-lyfrau drwy ebrary

Tuesday, 1 October 2013
Cytundeb Ymchwil Cydweithredol Newydd
Mae cytundeb ymchwil cydweithredol newydd wedi ei lofnodi rhwng y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol a Chyngor Ymchwil y DU a gynlluniwyd i helpu cynnal partneriaethau ymchwil rhyngwladol rhwng yr Unol Daleithiau a'r DU. Bydd yn cynnig proses symlach a hyblyg ar gyfer ymchwilwyr sy'n dymuno gwneud cais am gyllid ymchwil cydweithredol rhwng yr UDA a’r DU, gyda chynigion yn cael eu cyflwyno naill ai i’r Sefydliad Gwynoniaeth Cenedlaethol neu’r Cyngor Ymchwil - yn dibynnu ym mhle cynhelir y rhan fwyaf o'r gwaith ymchwil. Bydd y prosiectau llwyddiannus yn derbyn arian oddi wrth y ddwy asiantaeth, gyda'r Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol yn cyllido ymchwilwyr o’r Unol Daleithiau, a’r Cyngor Ymchwil yn cyllido ymchwilwyr o’r DU. Bydd gweithredu cychwynnol yn canolbwyntio ar Gyfarwyddiaeth Cymdeithasol, Ymddygiadol a Gwyddorau Economaidd y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol mewn partneriaeth â’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a Chyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol.
Ceir manylion ar: http://www.rcuk.ac.uk/media/news/2013news/Pages/130904.aspx
Steve Smith
Gwasanaethau Academaidd
Llyfrgell Hugh Owen
Friday, 12 July 2013
Mynediad Galw-Heibio i Adnoddau Electronig
Mae amrywiaeth eang o adnoddau gwybodaeth ar-lein diddorol ar gael i unrhyw un sy’n ymweld â Llyfrgell Hugh Owen, nid i staff a myfyrwyr yn unig. Mae 27 o adnoddau gwahanol y gellir cael mynediad atynt ar gyfrifiadur Mynediad Galw-Heibio arbennig ar y llawr gwaelod. Mae’n bleser gennym ddarparu mynediad detholus i’r adnoddau academaidd hyn, adnoddau y byddai’n rhaid talu tanysgrifiad drud ar eu cyfer, diolch i’r telerau a’r amodau o fewn cytundebau trwydded y cyhoeddwyr. Gallwch ymchwilio i amrywiaeth enfawr o wybodaeth gyfredol a hanesyddol, ar gyfer astudio neu er mwynhad.
Os oes gennych ddiddordeb mewn Hanes, mae’r Times Digital Archive, yn rhoi mynediad i gyfrolau llawn o bapur newydd The Times o 1785 (blwyddyn y daith gyntaf mewn balŵn ar draws y Sianel) tan 1985 (blwyddyn y cyngerdd Live Aid a gododd dros £100 miliwn i roi cymorth i’r newynog yn Affrica). Gall chwiliad syml ddod o hyd i amrywiaeth o erthyglau ar y newyddion a barn pobl dros y 200 mlynedd diwethaf, neu’i gyfyngu i chwilio am newyddion ar ddiwrnod penodol. Gallwch bori trwy benawdau a hysbysebion y gorffennol.

Thursday, 4 July 2013
Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd #10
Eleni bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd
Dan Smith
Myfyriwr Graddedig dan Hyfforddiant yn y Llyfrgell 2013/14
Fi yw Dan Smith ac rwy’n ffurfio 50% o’r Myfyrwyr Graddedig dan Hyfforddiant yn y Llyfrgell a
gyflogir gan y Gwasanaethau Gwybodaeth ar gyfer blwyddyn academaidd 2013/14. Mae fy amser yn cael ei rannu rhwng pedair adran/pedwar tîm yn y llyfrgell; Rheoli Adnoddau, Caffaeliadau a Chasgliadau, Gwasanaethau Academaidd, Benthyca ac E-Wasanaethau a Chyfathrebu. Mae hyn yn rhoi cyfle i mi gael amrywiaeth eang o brofiad ymarferol o’r modd y caiff llyfrgell academaidd ei rhedeg o ddydd i ddydd, gan roi i’r llyfrgell unigolyn dibrofiad i geisio ei hyfforddi.
Ar ôl i’m profiad cyntaf o fyd addysg ddod i ben pan oeddwn yn ddeunaw oed, gweithiais i’r llywodraeth leol ac roeddwn yn rhan o’r gwaith o weinyddu hyfforddiant athrawon ledled Powys. Ar ôl rhai blynyddoedd o drefnu hyfforddiant i eraill, dechreuais feddwl am ddychwelyd at addysg fy hun. O’r diwedd penderfynais geisio dod o hyd i yrfa a fyddai’n fy ngalluogi i drefnu a didoli pethau, felly llyfrgellydd amdani.

Subscribe to:
Posts (Atom)