Thursday, 29 September 2011

Adnoddau ar gyfer Cyrsiau: Primo (Rhan 1)


O’r holl adnoddau mae’r Brifysgol yn tanysgrifio iddynt, mae’n sicr y byddwch yn defnyddio Primo o’r cychwyn cyntaf.

Fel catalog y llyfrgell, mae Primo yn rhoi manylion am yr holl eitemau a gedwir yn llyfrgelloedd y Brifysgol, ynghyd ag ystod helaeth o gronfeydd data i gynnig help llaw gyda’ch ymchwil. Mae hefyd yn gweithredu fel porth i’ch cyfrif llyfrgell, gan eich galluogi i weld ac adnewyddu benthyciadau, talu eich dirwyon a gwneud ceisidau am lyfrau o’n Storfa Allanol.

Friday, 16 September 2011

Dod o hyd i lyfr yn y llyfrgell

Dyma'r ein fideo newydd sydd yn mynd a chi gam wrth gam drwy'r broses.

Thursday, 8 September 2011

Ffynonellau ar gyfer Cyrsiau: Papurau Seneddol Tŷ’r Cyffredin


Os ydych yn astudio Gwleidyddiaeth, y Gyfraith, Hanes neu ond â diddordeb ym mhrosesau mewnol Tŷ’r Cyffredin, fe gewch wledd o wybodaeth ar gyfer eich ymchwil ar gronfa ddata Papurau Seneddol Tŷ’r Cyffredin (House of Commons Parliamentary Papers – HCPP)

Mae HCPP, sy’n rhad ac am ddim i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, yn cynnig cronfa ddata gynhwysfawr o Bapurau Seneddol, sy’n deillio o 1688 i fyny hyd at 2004. Fe gewch ddogfennau sydd wedi llunio’r modd y llywodraethir Prydain, gan gynnwys mesurau a drafodwyd yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi cyn iddynt ddod yn Ddeddfau Seneddol.

Monday, 8 August 2011

Ffynonellau ar gyfer Cyrsiau: Tu hwnt i Google Maps ... EDINA Digimap Collections

Gan Rosie Atherton (Cyn Fyfyriwr Graddedig Dan Hyfforddiant yn y Gwasanaethau Gwybodaeth)

Fel un sy’n cyfaddef ei bod wrth ei bodd â Google Maps, byddwn yn argymell treulio awr neu ddwy yn pori drwy fyd hynod ddiddorol EDINA Digimap Collections.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi tanysgrifio i ddefnyddio EDINA Digimap Collections, ac mae hyn yn galluogi holl fyfyrwyr a staff Aberystwyth i gofrestru i ddefnyddio’r adnodd Digimap … yn rhad ac am ddim! Fel defnyddiwr cofrestredig, bydd modd i chi ddefnyddio Historic Digimap, Geology Digimap yn ogystal â chasgliad yr Arolwg Ordnans.

Wednesday, 20 July 2011

Archif ar-lein anferth yn rhoi cipolwg o ddyfodiad y Tsieina fodern



Yn ddiweddar cafodd 8,000 o ffotograffau prin, yn darlunio bywyd yn Tsieina tua dechrau’r ugeinfed ganrif, eu lansio ar-lein drwy’r prosiect Visualising China – sef archif rhithwir unigryw sy’n cynnig cyfleoedd newydd i ymchwilwyr ymchwilio a rhyngweithio â delweddau o Tsieina a gymerwyd rhwng 1850-1950.

Monday, 4 July 2011

Ffynonellau ar gyfer Cyrsiau: ychwanegiadau newydd ar gyfer y Gymru fodern yn yr Oxford Dictionary of National Biography


Ewch i’r Oxford Dictionary of National Biography (ODNB) neu Gronfa Ddata A-Z yn Primo: http://primo.aber.ac.uk/.

Yn yr adran sy’n canolbwyntio ar y Gymru Fodern ym mis Mai fe ychwanegodd yr Oxford Dictionary of National Biography 45 bywgraffiad o ŵyr a gwragedd a luniodd hanes diwylliant, gwleidyddiaeth, diwydiant a chwaraeon Cymru.