Monday 4 July 2011

Ffynonellau ar gyfer Cyrsiau: ychwanegiadau newydd ar gyfer y Gymru fodern yn yr Oxford Dictionary of National Biography


Ewch i’r Oxford Dictionary of National Biography (ODNB) neu Gronfa Ddata A-Z yn Primo: http://primo.aber.ac.uk/.

Yn yr adran sy’n canolbwyntio ar y Gymru Fodern ym mis Mai fe ychwanegodd yr Oxford Dictionary of National Biography 45 bywgraffiad o ŵyr a gwragedd a luniodd hanes diwylliant, gwleidyddiaeth, diwydiant a chwaraeon Cymru.


Cadwch lygad allan am bosteri dwyieithog yn Llyfrgell Hugh Owen yr wythnos hon.

Mae’r bywgraffiadau newydd yn cynnwys:
  • Lewis Valentine, llywydd cyntaf Plaid Cymru
  • Y gantores Edith Wynne “Eos Cymru”
  • Yr actor a’r digrifwr Ryan Davies
Mae gan Brifysgol Aberystwyth fynediad llawn i’r ODNB trwy gyfrwng tanysgrifiad. Mae’r nodweddion yn cynnwys:
  • 57,800 o fywgraffiadau wedi eu croes-gysylltu â theuluoedd, ffrindiau a chyfoedion
  • Lluniau, llyfryddiaethau a rhestrau archif
  • Chwiliadau testun llawn
  • Rhestrau, grwpiau a thaethodau themaol
  • Podlediad dwywaith y mis
Dyma rai enghreifftiau chwilio y gallwch roi cynnig arnynt.

Augustus John
Chwiliad testun llawn: BBC Cymru
Awgrymiadau
  • Defnyddiwch y botymau yn References a ddarperir ar gyfer pob bywgraffiad i weld os yw’r llyfrau a restrir ar gael yn llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth
  • Sgroliwch at ddiwedd tudalen pob bywgraffiad i weld os oes yna ddolen DNB Archive ar y chwith; os oes ceir yna fywgraffiad cynharach
  • Rhowch gynnig ar y tab Themes e.e. The Rising of Owain Glyndŵr
Os ydych yn gweithio oddi ar y campws (mae’r campws yn cynnwys neuaddau) cofiwch fewngofnodi i Primo: http://primo.aber.ac.uk/ a defnyddio’r Login via your home institution ar safle ODNB er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich gwirio.

Dewch o hyd i fywgraffiadau cyfredol trwy gyfrwng tanysgrifiad Prifysgol Aberystwyth i Who’s Who sydd hefyd at gael trwy gyfrwng Cronfeydd Data A-Z yn Primo http://primo.aber.ac.uk/

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, neu am drefnu sesiwn hyfforddi neu sesiwn loywi ar ffynonellau ar-lein ym Mhrifysgol Aberystwyth, os gwelwch yn dda cysylltwch â:

Tîm Gwasanaethau Academaidd
acastaff@aber.ac.uk
01970621896

No comments: