Thursday 29 September 2011

Adnoddau ar gyfer Cyrsiau: Primo (Rhan 1)


O’r holl adnoddau mae’r Brifysgol yn tanysgrifio iddynt, mae’n sicr y byddwch yn defnyddio Primo o’r cychwyn cyntaf.

Fel catalog y llyfrgell, mae Primo yn rhoi manylion am yr holl eitemau a gedwir yn llyfrgelloedd y Brifysgol, ynghyd ag ystod helaeth o gronfeydd data i gynnig help llaw gyda’ch ymchwil. Mae hefyd yn gweithredu fel porth i’ch cyfrif llyfrgell, gan eich galluogi i weld ac adnewyddu benthyciadau, talu eich dirwyon a gwneud ceisidau am lyfrau o’n Storfa Allanol.


Argymhellir eich bod bob amser yn mewngofnodi i Primo gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a chyfrinair Aber.


Mwy na thebyg byddwch am ddefnyddio’r gwasanaeth i gael gafael ar lyfr neu gyfnodolyn ar gyfer eich cwrs. Mae hyn yn hawdd gyda Primo. Os yw’r eitem yr ydych yn ei chesio wedi ei lleoli yn un o lyfrgelloedd y Brifysgol, dewiswch Prifysgol Aberystwyth fel y dewis chwilio. Mae hyn yn cyfyngu’r canlyniadau i’r eitemau sydd ar ein silffoedd, ynghyd â’r fersiwn arlein cyfatebol os ar gael.

Gallwch gyfyngu’r canlyniadau hyn ymhellach trwy ddefnyddio’r cyswllt Coethi Fy Nghanlyniadau. Er enghraifft, os ydych yn gweithio yn un o lyfrgelloedd y Brifysgol ac am weld yr eitemau sydd yn y lleoliad hwnnw yn unig, cliciwch ar enw’r llyfrgell er mwynu hidlo allan eitemau mewn lleoliadau eraill


Wedyn bydd angen ichi ddod o hyd i’r eitem ar y silffoedd. Cliciwch ar deitl yr eitem sydd ei angen arnoch yna cliciwch y tab Lleoliadau. Fe’ch hysbysir sawl copi o’r eitem sydd ar gael, lle y’i lleolir a’r Rhif Dosbarth.


Os bydd y Statws yn dangoss Not Charged bydd yr eitem ar y silff. Gwnewch nodyn o’r Rhif dosbarth a’i ddefnyddio i leoli’r eitem. Os nad ydych yn siwr ble i ddechrau chwilio ceir cynlluniau llawr ar lefelau E ac F Llyfrgell Hugh Owen. Am gymorth pellach gyda hyn mynnwch gipolwg ar fideo Karl Dod o Hyd I Lyfr

Mae’r uchod yn amlinellu’r pethau sylfaenol ac fe ddylai fod o help os ydych am ddod o hyd i lyfrau cyrsiau. Yn fy mlog nesaf, byddwn yn edrych ar ochr mwy personol Primo – arbed eitemau i’r e-silff a rheoli eich benthyciadau.

Gobeitho fod eich blwyddyn wedi cychwyn yn dda!

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, neu am drefnu sesiwn hyfforddi neu loywi ar adnoddau arlein ym Mhrifysgol Aberystwyth, os gwelwch yn dda cysylltwch â’r:

Gwasanaethau Academaidd
01970 621896

No comments: