Tuesday 16 October 2012

Adnoddau ar gyfer Cyrsiau: Archif Churchill


Mae Prifysgol Aberystwyth yn awr yn darparu mynediad i Archif Churchill, llyfrgell ddigidol ar hanes rhyngwladol modern sy’n cynnwys mwy na 800,000 tudalen o ddogfennau gwreiddiol yn ymwneud â Winston Churchill. Mae’r rhain yn amrywio o eitemau o ohebiaeth bersonol i lythyron swyddogol yn cofnodi’r cysylltiad rhyngddo ag arweinwyr rhyngwladol y dydd
 

Mae’r archif yn bwrw golwg ar fywyd personol a phrofesiynnol Winston Churchill o’i ddyddiau ysgol i’w flynyddoedd olaf fel gwladweinydd yn ystod y Rhyfel Oer.

Mae’r archif hon yn adnodd arbennig a fydd yn hynod ddefnyddiol ar gyfer ymchwilwyr a myfyrwyr Hanes, Llenyddiaeth a Gwleidyddiaeth. Mae archif arlein hon, sydd wedi ei lleoli yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt, yn awr ar gael yn  dilyn proses ddigideiddio a gymrodd dwy flynedd i’w chwblhau.


 

Mae’r archif hefyd yn ymgorffori offer rhyngweithiol ar gyfer defnyddwyr, gan gynnwys nodwedd arbennig a elwir ‘Action this Day’ sy’n cyflwyno Gwybodaeth ar ddigwyddiadau ar ddyddiau penodol mewn hanes

Gallwch chwilio’r archif am bobl hanesyddol penodol, llefydd arbennig, fesul pwnc neu fesul cyfnod. Mae testun yr archif wedi ei gynllunio fel ag i   adnabod unigolion sy’n cael eu crybwyll deg neu fwy o weithiau, gan gymryd i ystyriaeth ffugenwau a theitlau. Cynhwysir rhestrau darllen llawn a llyfryddiaethau i gynorthwyo ymchwil pellach.

Gellir cael mynediad i’r archif trwy gyfrwng Cronfeydd Data A-Z
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyffredinol neu sylwadau neu os ydych am drefnu sesiwn hyfforddi neu loywi ar adnoddau arlein ym Mhrifysgol Aberystwyth, os gwelwch yn dda cysylltwch â’r
Gwasanaethau Academaidd
01970 621986
   

No comments: