Monday 9 May 2011

200 mlynedd o newyddion!



- Chwiliwch y testun llawn
- Gweler erthyglau fel rhan o’r dudalen yr argraffwyd hwy arnynt
- Didolwch ganlyniadu chwiliadau fesul newyddion, nodwedd, delwedd ac hysbyseb
- Gweler eich term chwilio wedi ei amlygu ar ddelwedd y dudalen
- Dewiswch ddyddiad a phorwch y rhifyn hwnnw


Mae Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifio i Archif Ddigidol y Times 1785-1985 fel y gall staff a myfyrwyr gael mynediad i’r testun llawn heb unrhyw gost.

Darllenwch drosolwg byr o’r cynnwys gan y cyhoeddwr.

Cliciwch ar y ddelwedd uchod i ymweld ag Archif Ddigidol y Times 1785-1985 neu fe allwch fynd drwy Cronfeydd Data A-Z yn Primo http://primo.aber.ac.uk/

Dyma rai enghreifftiau chwilio y gallwch roi cynnig arnynt.

Gorymdaith Jarrow



Bowes-Lyon A’R Briodas (canlyniadau yn gyfyngedig i 1923)



Awgrymiadau

- Defnyddiwch * ar gyfer talfyrru e.e. bydd Gwybodaeth* yn dod o hyd i gwybod, gwybodus, gwybodaethol ayb
- Sgroliwch i waelod y dudalen i weld dewisiadau ebost ac argraffu
- Weithiau byddwch yn barod i ehangu neu gyfyngu ar eich termau chwilio; hwyrach bod digwyddiadau sy’n hysbys i ni drwy enw neu ymadrodd penodol wedi eu cofnodi o dan enw neu ymadrodd arall a oedd yn gyffredin ar y pryd, felly defnyddiwch rhyw wybodaeth arall sy’n hybys i chi megis dyddiadau, lleoliadau a phobl.

Os ydych yn gweithio oddi ar y campws (mae’r campws yn cynnwys neuaddau) cofiwch fewngofnodi i Primo http://primo.aber.ac.uk/ cyn ymweld ag Archif Ddigidol y Times, er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich dilysu.

Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn tanysgrifio i Nexis sy’n cynnwys The Times (chwilio a gweld y testun llawn) o fis Gorffennaf 1985 hyd heddiw – heb orfod talu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau os gwelwch yn dda cysylltwch â:
Tîm Gwasanaethau Academaidd
acastaff@aber.ac.uk
01970621896

No comments: