Tuesday, 30 September 2014

ARMS: cyfeiriadol yn unig o ddydd Llun 13eg Hydref 2014

Bydd gwasanaeth rhestr ddarllen ARMS yn newid i fod yn gyfeiriadol yn unig ar ddydd Llun 13eg Hydref - ychydig yn gynharach na hysbysebwyd ynghynt.
Gellir ychwanegu rhestrau darllen ar gyfer Semester Dau ac ymhellach i Rhestrau Darllen Aspire.

Os ydych am ddiwygio rhestr ddarllen Semester Un, gallwch gadw eich rhestr mewn fformat ffeil testun neu daenlen Excel.

  • Ffeil testun: agorwch eich rhestr yn ARMS a cliciwch Print List ar y llaw chwith. Yn eich porwr, dewiswch Save As neu Save Page a dewiswch ffeil math .txt
  • Taenlen Excel: agorwch eich rhestr yn ARMS a copïwch yr URL. Mewn taenlen Excel newydd, cliciwch Data ac yna From Web a gludiwch yr URL i mewn i’r maes Cyfeiriad. Rholiwch i lawr a cliciwch ar y saeth melyn wrth bob maes yr hoffech ei gadw, yna cliciwch Import
Bydd hyfforddiant ar gael i staff academaidd a gweinyddol yn llyfrgelloedd Hugh Owen a Thomas Parry yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd, neu gellir trefnu hyfforddiant mewn lleoliad ac ar amser sy’n gyfleus i chi.

Mae croeso i chi gysylltu â’r llyfrgellwyr pwnc os oes gennych unrhyw gwestiynnau: acastaff@aber.ac.uk

Monday, 14 July 2014

Talis Aspire yn Aberystwyth: darparu rhestrau darllen ar-lein i ategu dysgu ac addysgu

Mae prifysgolion eraill wedi bod yn darganfod manteision y gwasanaeth rhestrau darllen ar-lein, Talis Aspire
  • Yn y fideo hwn mae staff o Brifysgol Lerpwl yn son am eu profiadau o ddefnyddio Talis Aspire
  • Yn y fideo hwn mae myfyrwyr o Brifysgol Nottingham Trent yn rhannu eu hargraffiadau cyntaf o Talis Aspire
Rhagor o newyddion ynghylch rhoi TALIS Aspire ar waith yn Aberystwyth
  • Bydd y system yn cael ei chyflwyno’n ffurfiol yng Nghynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Aberystwyth 16-18 Medi; beth am ddod i un o weithdai’r gynhadledd a rhoi cynnig ar Talis Aspire?
  • Bydd hyfforddiant ar gael i staff academaidd a gweinyddol yn llyfrgelloedd Hugh Owen a Thomas Parry yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd, neu gellir trefnu hyfforddiant mewn lleoliad ac ar amser sy’n gyfleus i chi
  • Bydd y rhestrau darllen cyntaf yn cael eu rhoi ar y system ym mis Hydref/ Tachwedd ar gyfer modiwlau 2il Semester 2014/2015 i ganiatau amser i brynu unrhyw eitemau sydd ddim ar gael yn y llyfrgelloedd neu’n eletronig.
Bydd unrhyw newidiadau i’r drefn yn cael eu hychwanegu at dudalen we’r rhestrau darllen. Mae croeso i chi gysylltu â’r llyfrgellwyr pwnc os oes gennych unrhyw gwestiynnau: acastaff@aber.ac.uk

Thursday, 12 June 2014

LibTeachMeet Prifysgol Aberystwyth


Mae’r safle Information Literacy yn cynnwys adroddiad am y digwyddiad LibTeachMeet symbylol a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gynharach y mis hwn. Ffion Bell, ein hyfforddai graddedig, gwneud cais am y cyllid a drefnodd y digwyddiad yn ystod ei lleoliad yn y Gwasanaethau Academaidd. Darllenwch ragor am yr hyn a ddigwyddodd...

Friday, 6 June 2014

Yn dod yn fuan! System rhestrau darllen newydd PA sy’n cael ei chynnal gan Talis Aspire

Sustem rhestrau darllen ar-lein yw Talis Aspire sydd wedi'i dylunio i lunio rhestrau o adnoddau sydd wedi'u cyfeirnodi'n gywir, a’u cysylltu â rhestrau adnoddau sydd ar gael mewn modiwlau ar Blackboard a lleoliadau arlein eraill.
Mynnwch gipolwg ar y fideo fer hon.
Mae cynlluniau ar y gweill i roi'r sustem ar waith; dyma rai agweddau allweddol ar yr amserlen:
  • Rhoi'r sustem ar waith yn ystod mis Gorffennaf
  • Cyflunio a phrofi'r sustem yn ystod Awst a Medi
  • Hyfforddi academyddion a staff gweinyddol yr adrannau ym mis Hydref
  • Rhoddir y rhestrau darllen cyntaf ym misoedd Hydref a Thachwedd ar gyfer modiwlau ail Semester 2014/15 er mwyn inni gael digon o amser i brynu unrhyw eitemau nad ydynt ar gael yn y llyfrgelloedd nac yn electronig
  • Bydd ARMS ar gael i'w olygu tan canol mis Tachwedd
  • Rhoddir gwybod i ddefnyddwyr presennol ARMS na fydd modd iddynt drosglwyddo eu rhestrau i Aspire, ond fe fyddant yn cael blaenoriaeth ar gyfer hyfforddiant a chymorth i ddefnyddio Aspire
Bydd cyhoeddiadau rheolaidd i olrhain datblygiad y prosiect, a bydd newidiadau i weithdrefnau yn cael eu hychwanegu at we ddalen y Rhestr Ddarllen bresennol.
Edrychwn ymlaen at ddangos y sustem newydd i chi cyn gynted ag y bo modd. Croeso ichi gysylltu â’r llyfrgellwyr pwnc os oes gennych unrhyw ymholiadau: acastaff@aber.ac.uk


Wednesday, 4 June 2014

‘JISC Historic Books’ yn cael ei uwchraddio



Mae’r llwyfan a elwid gynt yn ‘JISC Historic Books’ wedi cael ei uwchraddio. Mae’r fersiwn BETA o’r llwyfan newydd, ‘JISC Historical Texts’, ar gael nawr i’w archwilio: historicaltexts.jisc.ac.uk

Bydd y llwyfan blaenorol yn cael ei ddisodli ar 23 Mehefin 2014, felly gofalwch eich bod yn diweddaru’ch dolenni a’ch nodau tudalen!

Mae ‘JISC Historical Texts’ yn cynnwys yr un tri chasgliad ag o’r blaen, sy’n cyfuno dros 350,000 o destunau o ddiwedd y 15fed hyd at y 19eg ganrif: Early English Books Online (EEBO), Eighteenth Century Collections Online (ECCO), a llyfrau o’r 19eg ganrif o gasgliad y Llyfrgell Brydeinig.

Thursday, 1 May 2014

Israddedigion - Mae Rhagor o Lyfrau ar gael!


Ydych chi’n israddedig? Ydych chi wrthi’n meddwl am destun eich traethawd hir am y flwyddyn nesaf, ac yn cynllunio’r gwaith darllen sydd angen ei wneud? Newyddion da! Gyda’n hymgyrch Mwy o Lyfrau rydyn ni’n ei gwneud yn hawdd i chi gael gafael ar lyfrau.

Os oes ‘na lyfr a fyddai’n ddefnyddiol ichi, ond dim copi ohono mewn stoc (cofiwch edrych ar Primo gyntaf) fe wnawn ei archebu ar eich cyfer. Mewngofnodwch i Primo, clicio ar y ddolen "Gwnewch gais i brynu copïau newydd". Mae rhagor o fanylion fan hyn.


Gall gymryd rhwng deg diwrnod a chwe wythnos i lyfr gyrraedd, felly cofiwch gynllunio mewn da bryd.