Wednesday, 23 February 2011

Mae’r Llyfr wedi marw; hir oes i’r Llyfr.

Pedair blynedd ar bymtheg yn ôl mynychais weithdy a drefnwyd gan y Cyngor Prydeinig ym Manceinion. Proffwydodd un o hwyluswyr y gweithdy y byddai’r “llyfr” yn marw cyn troad y ganrif nesaf. Aeth ugain mlynedd heibio ac mae’r “llyfr” yn dal yn fyw, er ei fod yn gwisgo mentyll gwahanol, ac un o’r rhain yw’r “e-fantell”. Nid oes amheuaeth bod e-lyfrau, h.y. fersiynau digidol o destunau, wedi cipio dychymyg ein cymdeithas, ac wedi effeithio ar y berthynas rhwng pobl sy’n defnyddio llyfrgelloedd a darparwyr gwasanaethau gwybodaeth.

Thursday, 17 February 2011

Sgiliau Arholiad – ‘Ein Barn Ni’

Fideo mewn dwy ran a grëwyd i gefnogi’r digwyddiad Sgiliau Arholiad a drefnwyd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth. Mae’r myfyrwyr yn siarad am eu profiadau o arholiadau, a’u dewis o ddulliau astudio.



Thursday, 3 February 2011

Gweithio’n gallach – sgiliau astudio i fyfyrwyr yn Blackboard


Gall israddedigion sydd am ddiweddaru eu sgiliau astudio yn awr gofrestru ar fodiwl heb ei gredydu yn BlackBoard a dewis dosbarthiadau o’r Rhaglen Ymarferion Astudio Israddedig.

Wednesday, 12 January 2011

Cyflwyniad i’r llyfrgell a chyfnod pontio’r dysgwr

Ymunais â Phrifysgol Aberystwyth ym mis Medi eleni. Yn fy swydd flaenorol ym Mhrifysgol Caerlŷr, bûm yn rhan o brosiect a oedd yn ymchwilio i gyfnod pontio myfyrwyr i addysg uwch. Un o brif ganfyddiadau’r prosiect oedd y ffaith fod myfyrwyr yn dosbarthu’r gwahanol fathau o wybodaeth a gyflwynwyd iddynt cyn ac yn ystod eu diwrnodau cyntaf yn y Brifysgol:
  • Gwybodaeth wrthrychol, strwythuredig iawn a ffurfiol = Gwybodaeth Oer
  • Gwybodaeth llai strwythuredig, lled-ffurfiol = Gwybodaeth Gynnes
  • Gwybodaeth anffurfiol, llai strwythuredig a goddrychol = Gwybodaeth Boeth (1)

O LE i OFOD: Amgylchfyd dysgu sy’n ysbrydoli.

Pwnc a’m cyfareddodd erioed yw cynllunio gofod yn greadigol er mwyn ffurfio ymddygiad dysgu. Fe’m magwyd mewn cyfnod pan hyrwyddwyd y syniad fod dysgu ond yn digwydd mewn LLE (Disgybl, Gwersi, Awdurdod yr athro/athrawes, Ystafell Ddosbarth ac Arholi). Yn ystod y degawdau diwethaf, cafwyd newid patrwm sydd bellach yn hyrwyddo’r syniad o amgylchfyd dysgu fel GOFOD (Cymdeithasol, Cyfranogol, Addasiadol, Cydweithredol, Technolegol Uwch a Rhannu).