Tuesday, 24 February 2009

Adnoddau ar-lein newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth: Casgliad Burney a’r Casgliad Cyfnodolion Prydeinig I a II

Daeth Casgliad Burney i feddiant y Llyfrgell Brydeinig flwyddyn wedi marwolaeth y Parch Charles Burney (1757-1817), ysgolhaig clasurol ac ysgolfeistr. Digideiddiwyd y casgliad yn 2007 o ganlyniad i gydweithrediad rhwng y Llyfrgell Brydeinig, Gale/Cengage a’r Sefydliad Gwyddonol Cenedlaethol. Mae’r casgliad ar-lein yn cynnwys 1,270 o deitlau, yn bennaf papurau seneddol, papurau newydd Llundeinig, cyfnodolion, papurau rhanbarthol Lloegr a phapurau newydd o’r Iwerddon, yr Alban a’r Unol Daleithiau.

Wednesday, 18 February 2009

Cyrsiau Sgiliau Newydd dros awr ginio

Cyrsiau sgiliau byr yn Llyfrgell Hugh Owen, 13:10-14:00 bob dydd Mercher, fel a ganlyn:
  • Dewch o hyd i bopeth ar eich rhestr ddarllen (Chwefror 18fed)
  • Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf yn eich pwnc astudio (Chwefror 25ain)
  • Gwerthuso gwybodaeth arlein ar gyfer eich gwaith academaidd (Mawrth 4ydd)
  • Defnyddio meddalwedd i greu llyfryddiaethau hawdd (Mawrth 11eg)
  • Word ar gyfer ysgrifennu traethodau (Mawrth 18fed)
Disgrifiadau o’r cyrsiau ac archebu lle ar lein.

Friday, 30 January 2009

Prosiect Cenedlaethol Arsyllfa E-lyfrau JISC


Fel rhan o’n hymrwymiad i ddarparu’r adnoddau diweddaraf, mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth wedi ymuno â Phrosiect Cenedlaethol Arsyllfa E-lyfrau JISC - arbrawf sy’n ceisio deall sut mae e-lyfrau yn cael eu defnyddio ac arbrawf a allai helpu i ffurfio dyfodol y ddarpariaeth e-lyfrau yn y Deyrnas Unedig. Mae’r prosiect yn ymchwilio i’r canlynol:
  • effaith e-lyfrau testunau craidd ar ddysgu’r myfyrwyr;
  • sut mae myfyrwyr yn dod o hyd i’r e-lyfrau a sut maent yn eu defnyddio;
  • beth yw eu barn am yr e-lyfrau;
  • sut y gellir hyrwyddo e-lyfrau;
  • sut y gall e-lyfrau gyflawni eu potensial fel adnodd addysgol hanfodol.

Friday, 12 December 2008

Cyflwyniad i’r Gwasanaethau Gwybodaeth

Cyflwyniad i’r Gwasanaethau Gwybodaeth ar gyfer staff newydd ac uwchraddedigion ymchwil

Dyddiad : 12eg Ionawr 2009
Lleoliad : Ystafell Hyfforddi Llyfrgell Hugh Owen

Cyfres o sesiynau byr wedi eu hanelu at staff PA ac uwchraddedigion ymchwil.

Am mwy o wybodaeth, cliciwch ar y cyswllt yma.

Thursday, 11 December 2008

Byddwch yn hapus... ymunwch â’ch llyfrgell!

Mae ymgyrch diweddar Dyddiau Da, a anogodd bawb i edrych o’r newydd ar eu llyfrgell, wedi gwneud 2 fyfyriwr yng Nghymru £100 yn gyfoethocach – ac roedd un ohonynt yn dod o Brifysgol Aberystwyth!

Gwirfoddolodd bron i 400 o fyfyrwyr ar draws Cymru i gymryd rhan mewn arolwg, fel rhan o’r ymgyrch, er mwyn dweud wrthym pam fod llyfrgelloedd yn eu gwneud nhw’n hapus, gan ein galluogi i greu rhestr Y Deg Ucha’ a chasgliad o straeon personol sy’n dangos yr effaith gadarnhaol mae llyfrgelloedd wedi eu cael arnynt hwy a’u hastudiaethau.