Friday, 12 February 2016

Adolygiad Annibynnol Tickell ar gynnydd yn y Modelau Mynediad Agored

Comisiynwyd adolygiad annibynnol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gynnydd diweddar yn y farchnad cyhoeddiadau mynediad agored "Open Access to Research Publications: Independent Advice" wedi’i gyhoeddi ar 11 Chwefror, mae’r adolygiad yn argymell cymryd y camau canlynol:

i) Parhau i gefnogi’r model Mynediad Agored Aur ond nodi bod rhai cyrff cyllido ymchwil rhyngwladol yn amlwg yn ffafrio’r aur a bod y mwyafrif helaeth yn cefnogi’r Gwyrdd, gyda hyblygrwydd i awduron gyhoeddi drwy’r Aur.

ii) Mae modelau busnes ar gyfer cyhoeddi cyfnodolion Mynediad Agored wedi bod yn llai ymatebol i bwysau’r farchnad nag a ragwelwyd ac mae costau yn parhau i godi. Bu cynnydd ‘cyson a sydyn’ yng nghost gyfartalog prynu papurau Mynediad Agored Aur, ac nid yw’r gostyngiad cyfatebol mewn costau tanysgrifio wedi bod yn gymesur. Gallai’r costau o wthio ffafriaeth gref am Fynediad Agored Aur godi o £33m yn 2014 i rhwng £40 a £83m erbyn 2020, gydag oddeutu tri chwarter o’r cynnydd hwn yn ganlyniad i gyhoeddi mewn teitlau mynediad agored / tanysgrifiad hybrid.

iii) Er y cydnabyddir yn eang mai’r Deyrnas Unedig yw’r wlad fwyaf blaenllaw yn y mudiadau Mynediad Agored a Data Agored, mae yna gyrhaeddiad byd-eang i’r farchnad cyhoeddiadau cyfnodolion. Fel y cyfryw, mae’n rhaid ystyried datblygiadau polisi Mynediad Agored y Deyrnas Unedig yng ngoleuni patrymau a dewisiadau rhyngwladol.

iv) Dylai pob prifysgol yn y Deyrnas Unedig gofrestru â Datganiad San Francisco ar Asesu Ymchwil (DORA) yn http://www.ascb.org/dora/ er mwyn sicrhau nad yw pwysau asesu ansawdd ymchwil (e.e. y REF) yn rhoi gormod o bwysau chwyddiannol ar y farchnad Mynediad Agored Aur.

v)  Dylai Grwp Cydlynu Mynediad Agored y Deyrnas Unedig gefnogi datblygu safonau gwasanaeth y cytunwyd arnynt yn ymwneud â Mynediad Agored Aur, er mwyn cydnabod y pryderon am wasanaeth gwael ac ymateb y farchnad gan rai cyhoeddwyr. I gefnogi’r amcan hwn, dylai’r Grwp gynnull is-grwp i’r Fforwm Effeithlonrwydd i edrych ar sut mae’r farchnad mynediad agored yn gweithio, is-gr?p Cadwrfeydd i sicrhau fod y gallu i ryngweithredu yn parhau rhwng cadwrfeydd y Deyrnas Unedig, ac is-gr?p Monograffau/Ysgrifau i ddatblygu polisïau ar gyfer mynediad agored yn y farchnad lyfrau.

vi) Mae Mynediad Agored i ddata ymchwil wedi datblygu’n arafach nag ar gyfer cyhoeddiadau ymchwil. Bydd y Concordat ar Ddata Ymchwil Agored yn cael ei gwblhau yn gynnar yn 2016, ac er bod manteision gwyddonol a chyhoeddus wrth fwrw ymlaen â data ymchwil agored, nid yw’r goblygiadau cost ynghylch dosbarthu data o’r fath i’r sector masnachol yn cael eu deall yn llawn eto.

vii) Dylai Fforwm Data Agored y Deyrnas Unedig gydlynu gwaith sy’n ymwneud â hyrwyddo’r map ffordd ar Reoli Data Ymchwil yn y DU.

viii) Mae Llywodraeth yr Iseldiroedd wedi ymrwymo i wneud Mynediad Agored yn flaenoriaeth yn eu Llywyddiaeth ar Gyngor yr Undeb Ewropeaidd – mis Ionawr i fis Mehefin 2016

Mae Jo Johnson, y Gweinidog dros Brifysgolion a Gwyddoniaeth, wedi croesawu’r adroddiad ac wedi cefnogi ymdrechion yn y dyfodol i wneud Mynediad Agored / trefniadau gwrthbwyso tanysgrifio yn fwy economaidd i’r sectorau academaidd ac ymchwilio. Gofynnwyd am adroddiad ar gynnydd pellach erbyn diwedd 2017.

Steve Smith
11 Chwefror 2016

Tuesday, 9 February 2016

e-lyfrau: ateb ac achos y rhan fwyaf o'n problemau

Ydych chi wedi gweld e-lyfr ar werth ar Amazon, wedi gofyn i'r llyfrgell ei brynu, ac yna cael gwybod nad oes fersiwn electronig o'r llyfr hwnnw ar gael? Ydych chi'n chwilio am e-lyfr a ddarllenoch ychydig fisoedd yn ôl, ond nid yw'n gweithio mwyach? Mae'n brofiad rhwystredig iawn – a gallaf eich sicrhau ein bod ni yn y Gwasanaethau Gwybodaeth yn rhannu'ch rhwystredigaeth. Ein polisi yw mai e-lyfrau yw'r ffordd ymlaen. Maent yn ein galluogi i gynyddu’r amrywiaeth a nifer y llyfrau sydd ar gael i'n defnyddwyr yn sylweddol, am gost is ac heb effeithio ar ein gofod silffoedd cyfyngedig. Mae llawer o'n defnyddwyr (ond nid pob un o bell ffordd) yn dewis gweithio gydag e-lyfrau yn hytrach na llyfrau print, gan fod modd dod o hyd iddynt yn gyflym a didrafferth, a bod modd dewis o blith cannoedd o filoedd o lyfrau o unrhyw le yn y byd, ar unrhyw adeg. Ond er gwaetha'r manteision amlwg y mae e-lyfrau’n eu cynnig, mae yna lawer o broblemau - ac fe geisiaf grynhoi'r rhain nawr.  

Mae cyhoeddi e-lyfrau yn faes newydd, cymhleth, sy'n newid yn gyson. Rydym yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i e-lyfrau pryd bynnag y gwneir ceisiadau amdanynt, ond weithiau nid yw hynny’n bosib. Gydag e-lyfrau, y cyhoeddwyr sy'n penderfynu ar y pris, y telerau trwyddedu, sut y rheolir yr hawliau digidol, nifer y defnyddwyr cydamserol ac ati, sydd yna’n penderfynu a oes modd i ni brynu'r llyfr ai peidio. Mae'r rhan fwyaf o gyhoeddwyr yn darparu eu llyfrau trwy safleoedd penodol megis ebrary neu Dawsonera (sef y safleoedd sy'n cynnwys y rhan fwyaf o'n e-lyfrau ni) a gall llyfrgelloedd eu prynu ar sail sefydliad-cyfan; ond nid yw pob cyhoeddwr yn gwneud hyn. Mae Human Kinetics yn un cyhoeddwr o'r fath. Nid yw’n gwerthu i sefydliadau, dim ond i ddefnyddwyr unigol. Mae’r rheswm am hyn yn syml: arian. Gall wneud mwy o arian drwy werthu ugain copi o'r e-lyfr i ugain myfyriwr unigol na thrwy werthu un copi i lyfrgell y gallai’r ugain myfyriwr hynny ei rannu. 

Rydym wedi ysyried gwahanol ffyrdd o hysbysu saff a myfyrwyr am gyfyngiadau o’r fath, megis cadw rhestr o gyhoeddwyr sydd ddim yn gwerthu e-lyfrau i sefydliadau, ond nid yw mor syml â hynny. Mae amodau trwyddedu e-lyfrau yn newid yn gyson, ac mae'n beth anodd iawn i’w reoli. Nid yw Springer, er enghraifft, yn gwerthu llyfrau unigol ar sail sefydliad-cyfan, ond maent yn gwerthu pecynnau o e-lyfrau i lyfrgelloedd. Mae Gwasg Prifysgol Rhydychen yn enghraifft gymhleth arall; yn wreiddiol roedd ei chyhoeddiadau ar gael trwy Dawsonera, ond yna dwy flynedd yn ôl creodd y Wasg ei llwyfan ei hun o'r enw 'Oxford Scholarship Online' (OSO). Prynasom un e-lyfr ar OSO; nawr mae Gwasg Prifysgol Rhydychen wedi tynnu llawer o'r deunydd o'r llwyfan hwnnw, gan roi'r holl lyfrau cyfreithiol ar lwyfan newydd arall (o'r enw LawTrove), a dim ond unigolion all ei ddefnyddio. Maent yn gwerthu e-lyfrau eraill, unwaith eto dim ond i unigolion, trwy Amazon a gwerthwyr trydydd parti eraill. Mae Pearson, ar y llaw arall, yn cynnig eu cyhoeddiadau i lyfrgelloedd trwy Dawsonera, ond bob tua chwe mis maent yn newid eu telerau trwyddedu i'w gwneud yn llai ffafriol (lleihau nifer y troeon y caniateir defnyddio llyfr mewn blwyddyn, lleihau nifer y defnyddwyr cydamserol, tynnu'r gallu i lawrlwytho llyfrau i’w darllen all-lein, cynyddu'r pris...). Nid dim ond Dawsonera sy’n tynnu deunydd o'i safle; mae'r llyfrau sydd ar gael i ni trwy ein tanysgrifiad ebrary yn newid yn gyson, gyda channoedd o lyfrau newydd yn cael eu hychwanegu, a dwsinau o lyfrau'n cael eu tynnu o'r casgliad bob mis. Mae graddfa'r newidiadau yn golygu bod hyn yn anodd ei reoli, ond rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar ffordd o dynnu’r llyfrau a ddileeir o'r catalog ac archebu copïau newydd yn eu lle os oes angen.     

Mae’r amrywiaeth o wahanol lwyfannau, anghysondeb y telerau trwyddedu o gyhoeddwr i gyhoeddwr, a'r ffaith bod y telerau hyn yn newid yn gyson, oll yn peri rhwystredigaeth i'n defnyddwyr. Mae yna derfynau i'r hyn y gallwn ei wneud i newid y sefyllfa, ond rydym yn gwneud rhywfaint o gynnydd: Mae llyfrgelloedd Addysg Uwch, a'r Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth (JISC), yn trafod gyda chyhoeddwyr en masse i geisio sicrhau telerau a phrisiau ffafriol lle bo modd - ond mae hyn yn tueddi i fod ar gyfer pecynnau aml-deitl gyda’r cyhoeddwyr mawr. Hefyd, ysgrifennodd JISC at Pearson yn ddiweddar ar ran yr holl sefydliadau Addysg Uwch i fynegi ein hanfodlonrwydd cyffredinol ynglyn â’r ffordd y mae'r cwmni yn gynyddol yn llesteirio ein hymdrechion i gynnig gwasanaeth da i'n myfyrwyr. Nid yw Pearson wedi ymateb eto, ond roedd yna gryn dipyn o schadenfreude yn y llyfrgell ychydig wythnosau yn ôl pan blymiodd pris cyfranddaliadau'r cwmni, gan eu gorfodi i gyhoeddi rhybudd elw.   

Rwy'n hyderus mai e-lyfrau fydd y ffordd orau i lyfrgelloedd academaidd ddarparu deunydd i'w defnyddwyr yn y dyfodol, ond nes bod y mynediad iddynt yn gyson, yn ddibynadwy, ac yn gost-effeithiol, mae e-lyfrau hefyd yn ffynhonnell o gryn rwystredigaeth i staff a myfyrwyr. Rwy'n deall y rhwystredigaeth honno, ond gallaf eich sicrhau ein bod yn teimlo'r un mor gryf am y peth ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i reoli'r sefyllfa anodd hon, ac i ddarparu'r adnoddau sydd eu hangen ar ein defnyddwyr.  

Rwy'n gobeithio bod hyn wedi mynd i’r afael â rhai o'ch prif bryderon ynglŷn ag e-lyfrau, ac wedi esbonio'r sefyllfa bresennol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, neu awgrymiadau ynghylch sut i wella'r gwasanaeth hwn, mae croeso i chi gysylltu â ni ar ejournals@aber.ac.uk  .


Monday, 25 January 2016

Jisc Testunau Hanesyddol: nodweddion newydd

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod nifer o nodweddion newydd wedi cael eu rhyddhau yn Jisc Historical Texts ym mis Rhagfyr i’ch helpu i ddod o hyd i’ch adnoddau a’u hidlo:

Tudalennau cyfatebol o fewn testun

Ar ôl i chi chwilio’ch pwnc, a dod o hyd i gyhoeddiad bydd y nodwedd ‘Matches within text’ yn ymddangos yn y wybodaeth. Trwy glicio ar hwn, bydd yn dangos eich term chwilio mewn cyd-destun ar dudalennau cyfatebol o fewn y cyhoeddiad 





Gweld hidlyddion newydd

Ar ôl dod o hyd i’r cyhoeddiad a chlicio arno i’w weld, gallwch chwilio’r cyhoeddiad yn fanylach trwy ddefnyddio’r hidlyddion a ddangosir isod, sydd ar gael yn y tab ‘Pages’ o fewn y panel ‘Search’. 



Fy Nhagiau

I greu a chadw tagiau ar dudalennau unigol o fewn cyhoeddiad er mwyn dychwelyd atynt wedyn, ewch i’r panel Details a chliciwch ar Tags. Yna rhowch deitl i’r Tag a chliciwch ar Add Tag. Gallwch adael nodiadau, cyfeiriadau neu eiriau allweddol i chi’ch hun i’ch helpu.



 I fynd i’r tagiau yr ydych wedi’u cadw’n hawdd, ewch i frig y dudalen a chliciwch ar My Texts ac yna dewiswch My Tags.


Amrediad Dyddiad

Ar ôl i chi chwilio i bwnc, byddwch hefyd yn gweld yr amrediad dyddiad, sy’n dangos y blynyddoedd y mae canlyniadau eich chwiliad yn canolbwyntio arnynt




Chwiliadau casgliad diofyn

Gallwch nawr ddewis chwilio EEBO, ECCO, neu BL yn unig yn ddiofyn trwy wneud dewisiadau penodol yn y gosodiadau.



Yn gyntaf ewch i Settings 

Yna ewch i’r dewis Collections a dewiswch pa gasgliad yr hoffech eu chwilio’n ddiofyn. Os hoffech ailosod y termau chwilio i chwilio’r holl gasgliadau cliciwch ar Reset.  



Tuesday, 5 January 2016

Gwasanaeth Rhyng-Safle nawr yn cynnwys Yr Ysgol Gelf

Gall myfyrwyr a staff yn yr Ysgol Gelf nawr defnyddio Primo i archebu llyfrau i gael eu delifro i’r adran
Lloyd Roderick, Panorama Marc-dosbarth N, 2015




Mae gwneud yn hawdd.  Gellir cyflwyno ceisiadau  trwy fewngofnodi i Primo, catalog y llyfrgell, canfod yr eitem sydd ei hangen (dylai’r eitem gael ei rhestru fel 'Ar Gael'), clicio ar y tab 'Canfod/Gwneud Cais’  a dewis yr opsiwn Rhyng-Safle. Gofynnir ichi ddewis man casglu (gweler delwedd isod).




Unwaith mae'r archeb wedi cael ei osod, cewch e-bost yn esbonio ble a phryd i gasglu’r llyfr.  Pan ydych yn casglu’r llyfr, bydd y pecyn yn cynnwys slip yn esbonio ble, sut a phryd i ddychwelyd y llyfr.
Ychydig o farc dosbarth N, Llyfrgell Hugh Owen

Gallwch dal defnyddio’r llyfrgell fel arfer, ac nid oes modd gwell o ddarganfod deunydd defnyddiol am eich ymchwil na phori’r silffoedd yn part celf Llyfrgell Hugh Owen (adran N, lefel F).  Os ydych angen unrhyw gymorth wrth ddefnyddio unrhyw un o wasanaethau’r llyfrgell, gallwch alw i’m weld yn yr Ysgol Gelf bob prynhawn dydd Mawrth (o 19 Ionawr 2016) neu drefnu apwyntiad trwy e-bost.

Lloyd Roderick
Llyfrgellydd Pwnc - Celf

Friday, 11 December 2015

Cwrs arlein newydd: osgoi llên-ladrad

Mae’r Ysgol Rheolaeth a Busnes wedi prynu adnodd newydd arbennig – ‘Avoiding Plagiarism’, cwrs rhyngweithiol, ar-lein a ddarperir gan Epigeum – ac mae bellach ar gael i’w ddefnyddio gan holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r cwrs wedi’i rannu’n dair uned:

Beth yw llên-ladrad?

Mae’r uned gyntaf yn trafod beth yw llên-ladrad, rhai o’r termau yr ydych wedi eu clywed efallai, llên-ladrad bwriadol ac anfwriadol a’r ffyrdd y gall aseswyr ganfod llên-ladrad.

Cyfeirio

Mae uned 2 yn ymdrin â phwysigrwydd cyfeirio, y systemau cyfeirio a ddefnyddir a’r gwahaniaeth rhwng cyfeiriadau a dyfyniadau.

Osgoi Llên-ladrad.

Mae uned 3 yn amlinellu’r ffyrdd y gellir osgoi llên-ladrata. (Epigeum, 2014)

Mae’r cwrs yn gynhwysfawr ac mae’n cynnig nifer o senarios ymarferol, crynodeb a chwis ar y diwedd. Y marc pasio ar gyfer y cwis yw 75% ac mae tystysgrif i bawb sy’n pasio!

Dyma ddolen i’r cwrs:

https://plagiarism.epigeum.com/

Mae’n rhaid i chi gofrestru a rhoi eich cyfeiriad e-bost Aberystwyth yn llawn. Anfonir dolen gadarnhau i chi ac yna byddwch yn barod i ddechrau arni. 



EPIGEUM (2014), Avoiding Plagiarism [Ar-lein]. Ar gael o: https://plagiarism.epigeum.com/courses/plagiarism/index.php?course_id=7&user_id=57292&s=0ptcs59dl6lu1r69aeuu3c9u06 [Mynediad: 04/11/2015]


Tuesday, 17 November 2015

Adroddiad yr OECD “Making Open Science a Reality”

Mae adroddiad yr OECD ym mis Hydref 2015, “Making Open Science a Reality", yn adolygu’r cynnydd sydd wedi’i wneud i sicrhau bod canlyniadau papurau sy’n deillio o ymchwil sydd wedi’i gyllido’n gyhoeddus a’r data ymchwil cysylltiedig ar gael drwy Fynediad Agored, gan edrych ar y rhesymwaith y tu ôl i fynediad agored a’r effaith mae polisïau mynediad agored wedi’i gael hyd yma, y rhwystrau cyfreithiol at gynnydd ac adolygiad o’r actorion allweddol yn y maes.

Y prif gasgliadau yw:

Bod Gwyddoniaeth Agored yn fodd i gefnogi gwyddoniaeth o ansawdd well, cynyddu cydweithio, gwell ymgysylltu rhwng ymchwil a chymdeithas
Y bydd Gwyddoniaeth Agored yn arwain at effaith gymdeithasol ac economaidd uwch i ymchwil cyhoeddus.
Bod angen gwell trefniadau i hyrwyddo arferion rhannu data rhwng ymchwilwyr

Steve Smith
Grwp Cysylltiadau Academaidd
Llyfrgell Hugh Owen
17 Tachwedd 2015