Wednesday 4 July 2012

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd #5

Eleni bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd. Y tro hwn, mae'n y llyfrgellydd Gyfrifiadureg, ac Mathemateg a Ffiseg.

Sahm Nikoi
Cefais fy ngeni mewn rhan o’r byd sy’n cael ei gysylltu â ‘newyn llyfrau’. Yn y gorllewin mae’r syniad o lyfrgell yn creu delwedd benodol; mae’r ddelwedd hon yn wahanol iawn mewn nifer o rannau o Affrica heddiw, lle mae llyfrgelloedd yn cael eu disgrifio’n aml yn nhermau ‘canolfan adnoddau gymunedol’, ‘llyfrgell wledig’, ‘llyfrgell y ces’,  ‘llyfrgell droednoeth’, ‘llyfrgell y camel’ a ‘llyfrgell y cartref’ i enwi dim ond rhai enghreifftiau. Wedi’r chweched dosbarth, gwnes fy Ngwasanaeth Cenedlaethol mewn cymuned ar y Cape Coast lle roeddwn yn hyrwyddo  sgiliau darllen mewn ysgolion cynradd gyda Bwrdd Llyfrgelloedd Ghana. Gan fod y brif lyfrgell rai cilomedrau i ffwrdd, fe’m gorfodwyd i ddyfeisio ffyrdd arloesol o gynnig gwasanaethau llyfrgell i’r gymuned, a’r ferfa oedd fy ateb, profiad a esgorodd ar yrfa oes mewn Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth. Oherwydd hyn hoffaf ddisgrifio fy hun fel y llyfrgellydd berfa (gweler t.184), a dyma oedd dechrau gyrfa mewn Gwasanaethau Gwybodaeth a Llyfrgell.



Gadewais Fwrdd Llyfrgelloedd Ghana yn 1990 ac ymuno â’r Cyngor Prydeinig, ac yn ddiweddarach fel Pennaeth Gwasanaethau Gwybodaeth datblygais wasanaethau a oedd yn targedu llunwyr polisïau’r llywodraeth, staff addysg uwch a rhai yn ymwneud â datblygiadau cymdeithasol. Dilynwyd hyn gyda gweithio i Brifysgol Fethodistaidd-Ghana. Ar ôl cwblhau fy noethuriaeth yn 2005, a noddwyd gan y Ford Foundation International Fellowship, gweithiais fel athro cynorthwyol ym Mhrifysgol Loughborough.

Yn 2008 ymunais â Beyond Distance Research Alliance ym Mhrifysgol Caerlŷr fel cymrawd ymchwil yn gweithio ar nifer o brosiectau a ariannwyd gan JISC ar Ddysgu Symudol ac Adnoddau Addysgiadol Agored.

Ar hyn o bryd rwyf yn rhan o Wasanaethau Academaidd yng Gwasanaethau Gwybodaeth lle rwy’n cynnig cymorth i fyfyrwyr ym maes llythrennedd gwybodaeth. Rwyf hefyd yn llyfrgellydd academaidd yn gyfrifol am y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg a’r Adran Gyfrifiadureg. Yn fy amser hamdden rwy’n hoffi darllen a gwylio rhaglenni dogfen ar y ddadl barhaol rhwng crefydd a gwyddoniaeth.

No comments: