Friday, 14 July 2017
Y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Ymchwil ac Arloesedd – Adroddiad y Grwp Arbenigol ar Altimetrigau
Sefydlwyd Grwp Arbenigol ar Altimetrigau y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Ymchwil ac Arloesedd i ystyried sut i ddatblygu metrigau (altimetrigau) cyhoeddi ar lefel Erthyglau yng nghyd-destun yr agenda mynediad agored, i adolygu gwahanol fesurau’n ymwneud ag altimetrigau mewn perthynas â dulliau mwy sefydledig o fesur allbwn ymchwil; sut i gael gwared â’r rhwystrau presennol sy’n atal ymchwil agored/ gwyddoniaeth agored; ac argymell fframwaith i helpu i ymgorffori ymchwil agored i’r diwylliant academaidd. Mae eu hadroddiad "Next-Generation Metrics: Responsible metrics and Evaluation for Open Science" yn argymell y dylai’r Comisiwn Ewropeaidd ddarparu canllawiau clir ar gyfer defnydd cyfrifol o fertigau i gefnogi ymchwil agored yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf (FP9); y dylid ymchwilio i’r potensial ar gyfer gêm-dwyllo unrhyw altimetrigau newydd arfaethedig ar gyfer FP9, cyn eu cyflwyno ac y dylid cynnwys mecanweithiau gwobrwyo priodol wrth roi egwyddorion ymchwil agored ar waith yn FP9.
Tuesday, 30 May 2017
Adnodd y Mis: European Sources Online
Mae European Sources Online yn gronfa ddata ar-lein eang sy’n rhan o Ganolfan Ddogfennau Ewropeaidd y Brifysgol.
Mae’n rhoi mynediad i’r wybodaeth ddiweddaraf am yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys dogfennau cynradd a swyddogol am bolisïau, sefydliadau a gwledydd.
Mae’r gronfa ddata ESO hefyd yn rhoi mynediad i;
• Filoedd o gofnodion ystadegol a dogfennau dethol am yr UE
• Dolenni gwe, erthyglau newyddion a chyhoeddiadau am yr UE
• Cofnodion llyfryddiaethol ar gyfer erthyglau mewn cyfnodolion a thestunau academaidd pwysig
• Canllawiau Gwybodaeth Unigryw sy’n ymchwilio i bynciau allweddol o fewn Ewrop
• Gwybodaeth am faterion presennol a blaenorol sy’n effeithio ar ddinasyddion yr UE
Gellir cael mynediad i European Sources Online o rwydwaith y Brifysgol ar http://www.europeansources.info/search.jsp
I gael rhagor o wybodaeth, mae tudalen Cwestiynau Cyffredin European Sources Online ar gael ar http://www.europeansources.info/about.jsp
Os ydych chi eisiau mynediad i European Sources Online oddi ar y campws, rhaid i chi gysylltu drwy VPN y Brifysgol: https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/vpn/
Thursday, 20 April 2017
Adnodd y Mis: Nexis
• Mae Nexis yn gronfa ddata testun-llawn ar-lein sy’n chwilio papurau newydd rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang o dros 100 o wledydd, cylchgronau masnach busnes a diwydiant, newyddion busnes a gwybodaeth am gwmnïau.
•Caiff yr adnodd ei ddefnyddio’n aml i gynorthwyo busnesau oherwydd ei fod yn rhoi cipolwg ar dros 30,000 o ffynonellau gwybodaeth gwerthfawr a dibynadwy am fusnes a newyddion. Mae’r rhain yn amrywio o erthyglau newyddion byd-eang, i gofnodion cwmnïau a gwybodaeth gyfreithiol ychwanegol.
Pam mae’r adnodd yn ddefnyddiol i fyfyrwyr;
• Mae Nexis o gymorth i baratoi ar gyfer cyfweliadau swyddi a gyrfaoedd – gellir defnyddio’r gronfa ddata i gael gwybodaeth am eraill o fewn y farchnad swyddi gyfredol. Mae hyn o ganlyniad i’r gallu i fonitro a chael gwybodaeth hanfodol am gwmnïau penodol a sectorau gwaith.
• Gellir ei ddefnyddio i gynorthwyo ymchwil ar gyfer aseiniadau a thraethodau estynedig – mae’r gronfa ddata eang yn caniatáu i ddefnyddwyr ymchwilio a chyfeirio at ffynonellau newyddion cymeradwy, ystadegau busnes a chyfeiriadau llyfryddiaethol o fewn eu gwaith.
• Cyhoeddiadau busnes a masnach
• Proffiliau cwmnïau
• Adroddiadau cwmnïau, gwledydd a diwydiannau
• Gwybodaeth am farchnadoedd
• Data bywgraffyddol
• Ffynonellau marchnadoedd rhyngwladol a’r rhai sy’n datblygu
• Cofnodion cyhoeddus o’r Unol Daleithiau
• Gwybodaeth gyfreithiol
Cewch fynediad i Nexis o rwydwaith y Brifysgol yn: https://www.nexis.com/home/home.do?randomNum=0.6811372427443615
Os ydych chi’n defnyddio Nexis oddi ar y campws, cysylltwch drwy VPN y Brifysgol: https://www.aber.ac.uk/en/is/it-services/vpn/
Ceir adnoddau hyfforddi Nexis gan gynnwys tiwtorial fideo a chanllawiau y gellir eu lawrlwytho yma: http://help.bisuktraining.lexisnexis.co.uk/about-nexis
Cysylltwch ag acastaff@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu arddangosiad.

• Gellir defnyddio’r gwahanol fathau o ddogfennau yn yr adnodd hwn i gynorthwyo ymchwil i amrywiaeth eang o bynciau gradd – dyma’r prif fathau o ddogfennau sydd ar gael;
• Ffynonellau newyddion Prydeinig a rhyngwladol• Cyhoeddiadau busnes a masnach
• Proffiliau cwmnïau
• Adroddiadau cwmnïau, gwledydd a diwydiannau
• Gwybodaeth am farchnadoedd
• Data bywgraffyddol
• Ffynonellau marchnadoedd rhyngwladol a’r rhai sy’n datblygu
• Cofnodion cyhoeddus o’r Unol Daleithiau
• Gwybodaeth gyfreithiol
Cewch fynediad i Nexis o rwydwaith y Brifysgol yn: https://www.nexis.com/home/home.do?randomNum=0.6811372427443615
Os ydych chi’n defnyddio Nexis oddi ar y campws, cysylltwch drwy VPN y Brifysgol: https://www.aber.ac.uk/en/is/it-services/vpn/
Ceir adnoddau hyfforddi Nexis gan gynnwys tiwtorial fideo a chanllawiau y gellir eu lawrlwytho yma: http://help.bisuktraining.lexisnexis.co.uk/about-nexis
Cysylltwch ag acastaff@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu arddangosiad.
Thursday, 23 March 2017
IBISWorld – adnodd newydd – ar gael nawr!
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi prynu IBISWorld yn ddiweddar
Mae IBISWorld yn darparu data diwydiannol i dros 400 diwydiant ym Mhrydain gyda chwilotydd ac adroddiadau sy’n hawdd eu defnyddio.
Mae’r adnodd hwn yn ddefnyddiol i bawb sy’n ;
• Paratoi ar gyfer cyfweliad / llwyddiant mewn swydd– Dewch i wybod mwy am y sector o’r diwydiant y mae’r cwmni’n gweithio ynddo, y gystadleuaeth, y chwaraewyr mawr yn y maes, a chael gwell dealltwriaeth o waith y diwydiant hwnnw.
• Ymchwil ar gyfer aseiniadau / traethawd hir – Mae IBISWorld yn darparu yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn deall yr amodau gweithredu, a rhagolygon tymor hir diwydiannau mawr a diwydiannau arbenigol.
• Ystadegau Diwydiant –Mae’r adroddiadau diwydiant yn darparu data a dadansoddiad ar bob diwydiant ac yn cael eu hegluro gyda graffiau clir a siartiau data. Gall y siartiau data gael eu trosglwyddo i Excel yn rhwydd, ac mae’r data’n ddelfrydol ar gyfer dadansoddiad SWOT, PESTLE, a Phum Llu Porter.
Mae pob adroddiad diwydiant yn darparu;
• Data perfformio manwl a dadansoddiad o’r farchnad
• Gwybodaeth am y gadwyn gyflenwi
• Cryfderau a gwendidau gweithredu
• Sbardunau allanol
• Strategaethau marchnad y chwaraewyr mawr
• Elw’r diwydiant
• Meincnodau strwythur cost
Gweler IBISWorld ar-lein; www.ibisworld.co.uk (Nid oes angen cyfrinair os ydych yn cysylltu â’r wefan trwy rwydwaith y brifysgol)
Gweler sesiynau tiwtora fideo yma: http://clients1.ibisworld.co.uk/about/uk/tutorials/
Os ydych am ddefnyddio IBISWorld pan nad ydych ar y campws, cysylltwch trwy rwydwaith Preifat Rhithiwr y Brifysgol https://www.aber.ac.uk/en/is/it-services/vpn/
Thursday, 9 March 2017
Adnodd y Mis: Web of Science
Mae’n rhoi mynediad i filoedd o ddyfyniadau, cyhoeddiadau a chyfnodolion gwyddonol y gellir chwilio amdanynt yn hawdd o fewn y Brif Restr o Gyfnodolion.
Sut y gall yr adnodd helpu myfyrwyr;
• Erthyglau mewn cyfnodolion
• Penodau mewn llyfrau
• Eitemau bywgraffyddol
• Eitemau newyddion
• Llyfryddiaethau
Gellir cael mynediad i Web of Science ar-lein o Rwydwaith y Brifysgol ar: http://wok.mimas.ac.uk neu o http://apps.webofknowledge.com/ neu cysylltwch â’r tab Adnoddau A i Y Primo dan W.
Os ydych chi’n defnyddio Web of Science oddi ar y campws, cysylltwch drwy VPN y Brifysgol: https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/vpn/.
Gellir cael mynediad i'r tiwtorial fideo yma: http://wokinfo.com/training_support/training/web-of-knowledge/
Mae Canllaw Cyfeirio Cyflym Web of Science ar gael ar:
http://wokinfo.com/media/pdf/qrc/webofscience_qrc_en.pdf
Cysylltwch â acastaff@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu arddangosiad.
Sut y gall yr adnodd helpu myfyrwyr;
- Mae’n helpu i gynorthwyo ymchwil ar gyfer aseiniadau, traethodau hir ac arholiadau – Mae’r gronfa ddata’n cynnig mynediad hawdd i gyfeiriadau llyfryddiaethol, testunau a’r ymchwil academaidd diweddaraf.
- Mae’r gronfa ddata’n ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau – Mae’r casgliad craidd o gyfnodolion ysgolheigaidd yn ymdrin â phynciau gwyddonol yn ogystal â’r gwyddorau cymdeithasol a’r celfyddydau a’r dyniaethau.
- Gellir cael mynediad i gronfeydd data byd-eang eraill o fewn casgliad y Web of Science – mae’r rhain yn cynnwys cronfa ddata MEDLINE, sef cronfa ddata Llyfrgell Genedlaethol Meddyginiaeth UDA, y gronfa ddata biowyddorau, BIOSIS, a’r Russian Science Citation Index.
• Erthyglau mewn cyfnodolion
• Penodau mewn llyfrau
• Eitemau bywgraffyddol
• Eitemau newyddion
• Llyfryddiaethau
Gellir cael mynediad i Web of Science ar-lein o Rwydwaith y Brifysgol ar: http://wok.mimas.ac.uk neu o http://apps.webofknowledge.com/ neu cysylltwch â’r tab Adnoddau A i Y Primo dan W.
Os ydych chi’n defnyddio Web of Science oddi ar y campws, cysylltwch drwy VPN y Brifysgol: https://www.aber.ac.uk/cy/is/it-services/vpn/.
Gellir cael mynediad i'r tiwtorial fideo yma: http://wokinfo.com/training_support/training/web-of-knowledge/
Mae Canllaw Cyfeirio Cyflym Web of Science ar gael ar:
http://wokinfo.com/media/pdf/qrc/webofscience_qrc_en.pdf
Cysylltwch â acastaff@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu arddangosiad.
Tuesday, 7 March 2017
Adnodd newydd i Fyfyrwyr a Staff: Globe on Screen

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi cael mynediad
yn ddiweddar i adnodd ar-lein newydd a chyffrous, sydd ar gael ar lwyfan Drama
Online. Mae Globe on Screen yn
caniatáu mynediad i 20 o gynyrchiadau Shakespeare a ffilmiwyd yn fyw yn Theatr
y Globe mewn manylder uwch ac â sain amgylchynol.
Gallwch hefyd ddod o hyd i’r dramâu wrth chwilio yn
Primo. Chwiliwch am y cynhyrchiad o’ch dewis, gan hidlo gyda mynediad ar-lein a
dod o hyd i’r opsiwn fideo. Yn olaf, cliciwch ar y tab View Online a chliciwch ar y ddolen Globe on Screen i weld y
cynhyrchiad. Os ydych chi’n gwylio o adref, cofiwch osod eich VPN Aber yn barod!
Subscribe to:
Posts (Atom)