Monday, 27 January 2014

Canllawiau ar Fynediad Agored i Gyhoeddiadau Gwyddonol a Data Ymchwil yn Rhaglen Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd

Canllawiau ar Fynediad Agored i Gyhoeddiadau Gwyddonol a Data Ymchwil yn Rhaglen Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd
Guidelines on Open Access to Scientific Publications and Research Data in Horizon 2020
(Image: European Commission)
Ar 11 Rhagfyr 2013, Gwnaeth y Comisiwn Ewropeaidd gyhoeddi eu dogfen ganllaw ddiweddaraf ar Fynediad Agored i gyhoeddiadau gwyddonol a data ymchwil. Lluniwyd y Canllawiau hyn i 'roi cyd-destun ac eglurhad am y rheolau ar fynediad agored sy’n berthnasol i fuddiolwyr mewn prosiectau a gyllidir neu a gyllidir ar y cyd o dan Horizon 2020.' Diben Horizon 2020, rhaglen Ymchwil ac Arloesi fwyaf erioed yr UE gyda bron i €80 biliwn o gyllid ar gael (2014 i 2020), yw agor mynediad i ymchwil cyhoeddedig.

Yn ôl y canllaw, 'ni ddylid talu eto am unrhyw wybodaeth y talwyd amdani eisoes gan y pwrs cyhoeddus bob tro y caiff y wybodaeth ei chyrchu neu’i defnyddio, ac y dylai fod o fudd llawn i ddinasyddion a chwmnïau Ewropeaidd. Golyga hyn sicrhau bod gwybodaeth wyddonol a gyllidwyd gan arian cyhoeddus ar gael ar-lein, heb unrhyw gostau ychwanegol, i ddinasyddion, diwydiannau arloesol ac ymchwilwyr Ewropeaidd, wrth sicrhau cadwraeth tymor hir.'

Mae’r ddogfen yn disgrifio ac yn rhoi manylion am y fersiynau Gwyrdd ac Aur o ran Mynediad Agored, ond nid yw’n nodi y dylai’r data fod ar ffurf benodol o Fynediad Agored, dim ond ei fod yn agored.

Mae’r canllaw’n gosod y sail wleidyddol a chyfreithiol ar gyfer y rheolau am Fynediad Agored yn Horizon 2020, gan roi manylion am bolisïau UE amrywiol sy’n cyfateb i Horizon 2020, gan gynnwys Agenda Digidol Ewrop a pholisi’r Undeb Arloesi.

Taro’r Botwm ar gyfer Mynediad Agored

Open Access Button
(Image: Open Access Button)
Taro’r Botwm ar gyfer Mynediad Agored Mae dod ar draws waliau talu ar gyfer cynnwys yn medru cwtogi a llesteirio ymchwil. I gofnodi’r rhwystredigaeth hon a cheisio tynnu sylw at yr angen am Fynediad Agored mae dau fyfyriwr meddygol, David Carroll a Joseph McArthur , wedi creu botwm Mynediad Agored.

Unwaith bo’r ategyn wedi ei osod, mae’n galluogi defnyddwyr i glicio er mwyn cofnodi eu bod wedi taro wal dalu ac ni ellir cael mynediad at y deunydd a ddymunir. Cofnodir eich lleoliad yn fras ar fap, a fydd yn helpu i adeiladu achos byd-eang am Fynediad Agored . Unwaith y byddwch wedi cwblhau disgrifiad byr, bydd yr ategyn yn cynnig llwybrau amgen i'r deunydd a ddymunir, gan gynnwys chwiliad Google Scholar awtomatig ac opsiynau eraill sydd ar gael drwy ffynonellau Mynediad Agored . Yn y dyfodol, mae’r datblygwyr yn bwriadu ychwanegu'r gallu i e-bostio awdur y gwaith yn uniongyrchol am gopi.

Lansiwyd fersiwn beta o’r botwm yn ffurfiol ym Merlin ym mis Tachwedd 2013, ac ar adeg ysgrifennu hwn roedd 4269 o drawiadau ar waliau talu wedi eu cofnodi.

Gallwch cael mwy o wybodaeth ynghyd â llwytho i lawr y botwm ar gyfer eich porwr ar wefan Open Access Button, neu eu dilyn ar Twitter.

Neil Waghorn
Steve Smith

Thursday, 16 January 2014

Gwella’ch cyfeirnodau ym modiwlau’r Gyfraith drwy ddefnyddio OSCOLA

Post gan Lillian Stevenson, Rheolwr Gwasanaethau Academaidd a Llyfrgellydd y Gyfraith

(Safon Prifysgol Rhydychen ar gyfer Cyfeirio at Awdurdodau Cyfreithiol / Oxford University Standard for Citation Of Legal Authorities) http://www.law.ox.ac.uk/publications/oscola.php
•    4ydd argraffiad 2012 - http://www.law.ox.ac.uk/published/OSCOLA_4th_edn_Hart_2012.pdf
•    Canllawiau Cyflym i Gyfeirnodi  http://www.law.ox.ac.uk/published/OSCOLA_4th_edn_Hart_2012QuickReferenceGuide.pdf
•    Cyfeirio at y gyfraith ryngwladol, 2006 http://www.law.ox.ac.uk/published/OSCOLA_2006_citing_international_law.pdf

OSCOLA yw’r canllaw awdurdodol ar gyfeirio at ddeunydd cyfreithiol, ac mae’n rhoi enghreifftiau i chi. Mae’n cwmpasu llyfrau, erthyglau mewn cyfnodolion, achosion, statudau, traethodau, cyfnodolion ar-lein, cyhoeddiadau gan lywodraethau, gwefannau a blogiau ……………………
Os oes angen cymorth ar hyn neu faterion eraill ynghylch llyfrgell y gyfraith a throseddeg, cysylltwch â Lillian Stevenson, Llyfrgellydd y Gyfraith lis@aber.ac.uk. Rwyf yn Llyfrgell Thomas Parry yn aml, felly gofynnwch amdanaf yno hefyd.

Wednesday, 8 January 2014

Treialu E-adnodd tan 5 Chwefror 2014 – Archif Ar-lein Chatham House 

Eitem gan Lillian Stevenson, Rheolwr y Gwasanaethau Academaidd a Llyfrgellydd y Gyfraith.
Mae Archif Ar-lein Chatham House yn cynnwys cyhoeddiadau ac archifau’r Sefydliad Brenhinol dros Faterion Rhyngwladol (Chatham House), y sefydliad annibynnol dros faterion rhyngwladol a sefydlwyd yn 1920 yn dilyn Cynhadledd Heddwch Paris. Mae’r archif ar-lein hon yn cynnwys dadansoddiadau ac ymchwil y Sefydliad, ynghyd â’r trafodaethau a’r areithiau y mae wedi’u cynnal - oll wedi’u mynegeio yn ôl pwnc, ac yn gwbl chwiliadwy.
Archwilio yn ôl pwnc, gan gynnwys – Ynni a’r Amgylchedd; Gwleidyddiaeth Ryngwladol; Cyfraith Ryngwladol; Economeg Ryngwladol; Diogelwch Rhyngwladol, Rhyfel a Gwrthdaro; y Cenhedloedd Unedig
Archwilio yn ôl Ardal
Prifysgol Aberystwyth yn Archif Ar-lein Chatham House 
Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymddangos mewn 71 cofnod, y cynharaf ohonynt yn The British Year Book of International Law 1922-23. Yn 1929 mae’r Directory of Societies and Organizations in Great Britain Concerned with the Study of International Affairs yn cynnwys crynodeb am adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth a’i Llyfrgell: 


Thursday, 12 December 2013

Sut ysbrydolodd “Aberystwyth” Nelson Mandela a Mudiad Rhyddid Affrica

Wrth i’r byd ddathlu bywyd a choffau marwolaeth un o un o gewri hanes , Tata Nelson “Madiba” Mandela, mae’n werth atgoffa ein darllenwyr sut yr ysbrydolodd cerddoriaeth un o feibion Cymru Mandela a mudiad rhyddid De Affrica. Cyfansoddodd Dr Joseph Parry, athro cerddoriaeth cyntaf Prifysgol Aberystwyth, yr emyn dôn “Aberystwyth” yn 1879. Hwn oedd yr emyn a ysbrydolodd Enoch Sontoga, athro Methodistaidd, i gyfansoddi “Nkosi Sikelel iAfrika”” (Arglwydd bendithia Affrica), i dôn Joseph Parry ym 1897. Yn ddiweddarach daeth “Nkosi Sikelel iAfrika” yn symbol o undod Affricanaidd ac yn anthemau cenedlaethol i wledydd Dde Affrica, Zambia, Tanzania, Namibia a Zimbabwe.

Enwyd Neuadd Joseph Parry, ar bwys Yr Hen Goleg, ar ôl y cyfansoddwr a cheir rhai o’i weithiau yn y Casgliad Celtaidd yn Llyfrgell Hugh Owen.

--
Sahm Nikoi.

Friday, 6 December 2013

Oeddech chi'n gwybod bod fersiwn o Primo ar gael ar gyfer eich ffôn symudol?

Mae fersiwn ysgafn o Primo ar gael nawr ar https://m.primo.aber.ac.uk/ . Gellir  cael mynediad iddo o amrywiaeth o ddyfeisiau symudol megis ffonau clyfar neu lechi, sy'n eich galluogi i gysylltu â'r gwasanaeth llyfrgell tra’n mynd o gwmpas eich pethe.

Mae'r rhyngwyneb sy’n hawdd ei ddeall a’i ddefnyddio yn eich galluogi i chwilio am lyfrau, teitlau cyfnodolion a DVDs o’ch ffôn neu lechen. Mae nodweddion ychwanegol ar gael os ydych yn mewngofnodi gyda'ch enw defnyddiwr a chyfrinair Aber sy'n eich galluogi i adnewyddu llyfrau sydd ar fenthyg, cadw llygad ar ffioedd a dirwyon neu wirio eich rhif PIN llyfrgell.