Tuesday, 11 December 2012

Mwynhewch treialu deunydd academaidd ar-lein

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn trefnu treialon am ddim gyda chyhoeddwyr academaidd o bwys fel bo staff a myfyrwyr yn gallu cael mynediad dros dro i’w casgliadau o e-lyfrau, e-gyfnodolion a chronfeydd data ar-lein: http://www.aber.ac.uk/cy/is/elecinfo/trials/

Mae’r cyhoeddwyr hefyd yn gadael gwybod i ni pan ydynt yn caniatáu mynediad at ddibenion hyrwyddo i’r cynnwys ar-lein.

Oes yna unrhyw gynnwys ar-lein y carech ei dreialu?
Rhowch wybod i ni ar acastaff@aber.ac.uk
Cynigir mynediad ar draws y campws yn aml.

Os ydych wedi edrych ar gynnwys unrhyw gynnwys ar-lein rydym wedi ei gynnig yn ddiweddar, fe fyddem yn gwerthfawrogi eich adborth parthed gwerth y deunydd i’ch dysgu, addysgu a’ch ymchwil. Bydd yr adborth o gymorth i ni ystyried tanysgrifio neu brynu’r adnodd yn y dyfodol.

Thursday, 29 November 2012

Sesiynau galw heibio gyda llyfrgellwyr pwnc


"Roeddwn i’n meddwl fod Primo’n dda i ddim, tan i mi sylweddoli mai fi oedd yn ei ddefnyddio’n anghywir..."

Eleni mae’r llyfrgellwyr pwnc wedi bod yn cynnal sesiynau galw heibio ac yn dod â chymorth gyda sgiliau gwybodaeth allan o’r llyfrgell ac i mewn i’r adrannau. Cynhelir y sesiynau hyn yn rheolaidd ac mae modd i chi ddod draw gydag unrhyw gwestiwn am adnoddau’r llyfrgell, am gynnal chwiliadau am lenyddiaeth, ac am gyfeirnodi a defnyddio Primo ac ati. Nid oes angen archebu lle, dim ond galw heibio! Cynhelir y sesiynau’n wythnosol tan ddiwedd y tymor oni nodir unrhywbeth yn wahanol, ac mae rhai newydd ar gael, felly tarwch olwg ar y tabl isod.

Wednesday, 7 November 2012

Yr ymgyrch Mwy o Lyfrau


Mae arolygon myfyrwyr yn dweud wrthym eich bod am fwy o lyfrau. Yn awr mae’r ymgyrch Mwy o Lyfrau yn neilltuo arian ychwanegol i roi hynny ar waith. Felly, er mai academyddion fydd yn parhau yn brif ddewiswyr  yr adnoddau  a fydd yn cael eu prynu ar gyfer llyfrgelloedd PA, fe allwch chi gael llais yn hyn o beth hefyd. Dyma sut mae'r cynllun yn gweithio…

Yn gyntaf edrychwch ar Primo catalog y llyfrgell  yn primo.aber.ac.uk
Methu dod o hyd i'r llyfr yr ydych ei eisiau?

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r llyfr ‘rydych yn chwilio amdano, gallwch wneud cais trwy ddefnyddio’r ffurflen archebu ar-lein o dudalen gartref Primo.  Serch hynny, fe ddylech fod yn ymwybodol, y gall llyfr gymryd rhwng deg diwrnod a chwe wythnos o ddyddiad yr archeb hyd nes iddo ymddangos ar silffoedd y llyfrgell, yn dibynnu ar argaeledd gan ein cyflenwr.

Wednesday, 31 October 2012

Teimlo straen yr aseiniad cyntaf?



Dewch i:

Camu i mewn, Camu i fyny i lwyddiant ac ysgafnhau’r straen!

Enillwch massage, nofio am ddim, sesiwn gyda hyfforddwr personol neu tocyn llyfr
Mwynhewch damaid am ddim a chael bwydlen llyfrau
Rhannwch eich cynghorion astudio –  a’r heriau hefyd
Cewch gyngor ar sut i ymlacio gan Rachel Hubbard
Ewch i lansiad ‘Mwy o Lyfrau!

a dewch â’ch cwestiynau ar gyfer:
Heather Dyer ac Elin ap Hywel, Cymrodorion Ysgrifennu’r Brifysgol
John Morgan, Cymorth Myfyrwyr
Jo Hyatt & Carolyn Parry, Gyrfaoedd
Eich Llyfrgellwyr Pwnc

13:00 – 16:00 ddydd Mercher 7 Tachwedd
Llyfrgell Hugh Owen

Tuesday, 16 October 2012

Adnoddau ar gyfer Cyrsiau: Archif Churchill


Mae Prifysgol Aberystwyth yn awr yn darparu mynediad i Archif Churchill, llyfrgell ddigidol ar hanes rhyngwladol modern sy’n cynnwys mwy na 800,000 tudalen o ddogfennau gwreiddiol yn ymwneud â Winston Churchill. Mae’r rhain yn amrywio o eitemau o ohebiaeth bersonol i lythyron swyddogol yn cofnodi’r cysylltiad rhyngddo ag arweinwyr rhyngwladol y dydd
 

Mae’r archif yn bwrw golwg ar fywyd personol a phrofesiynnol Winston Churchill o’i ddyddiau ysgol i’w flynyddoedd olaf fel gwladweinydd yn ystod y Rhyfel Oer.

Mae’r archif hon yn adnodd arbennig a fydd yn hynod ddefnyddiol ar gyfer ymchwilwyr a myfyrwyr Hanes, Llenyddiaeth a Gwleidyddiaeth. Mae archif arlein hon, sydd wedi ei lleoli yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt, yn awr ar gael yn  dilyn proses ddigideiddio a gymrodd dwy flynedd i’w chwblhau.

Wednesday, 26 September 2012

Adnoddau ar Gyfer Cyrsiau: Cof a’r Cyfryngau yng Nghymru



Mae Prifysgol Aberystwyth ynghyd â Culturenet Cymru a’r BBC wedi cynhyrchu gwefan sydd wedi ei neilltuo i arddangos effeithiau hanesyddol y cyfryngau yng Nghymru.

Mae’r Cof a’r Cyfryngau yng Nghymru, a restrir  yng Nghronfeydd Data A-Z yn Primo yn adnodd defnyddiol yn enwedig ar gyfer myfyrwyr Cymraeg a Hanes Cymru. Mae’r wefan yn darparu cronfa ddata sy’n cofnodi  digwyddiadau gwleidyddol a diwylliannol allweddol ym maes y cyfryngau yng Nghymru, gan ganolbwyntio’n arbennig ar atgofion personol pobl o wahanol rannau o Gymru. 

Thursday, 6 September 2012

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd #8

Eleni bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd. Y tro hwn, mae'n y llyfrgellydd Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig; Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear; a Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Steve Smith
Arweinydd Cyfadran dros Wyddoniaeth a Chydlynydd Cymorth Ymchwil Llyfrgell

Fy enw yw Steve Smith.  Ymunais â Gwasanaethau Gwybodaeth y Brifysgol ym mis Ebrill 2008 yn dilyn uniad y brifysgol â’r Sefydliad Ymchwil Glaswelltir ac Amgylcheddol (IGER), ar ôl gweithio fel Llyfrgellydd IGER ar gampws Gogerddan ers mis Awst 2000. Erbyn hyn mae gennyf gyfrifoldeb cyffredinol dros gydlynu cymorth GG i’r gwyddorau o fewn Grŵp Gwasanaethau Academaidd GG, gan gysylltu’n uniongyrchol ag IBERS, IGES a Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Yn ogystal, rwy’n cydlynu cefnogaeth i uwchraddedigion a staff ymchwil ar draws holl adrannau’r Brifysgol. Yn dilyn cyfnod fel Llyfrgellydd Safle yn Llyfrgell Thomas Parry ar Gampws Llanbadarn o fis Awst 2010 ymlaen, byddaf yn gweithio yn Llyfrgell Hugh Owen o fis Awst 2012 ymlaen.

Wednesday, 5 September 2012

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd

Eleni bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd. 

Kieran Smith

Helo, fi yw Kieran, yr unig fyfyriwr gradd o dan hyfforddiant yn y Gwasanaethau Gwybodaeth yn ystod y flwyddyn academaidd 2012-13, ac yn dilyn ôl troed Adam a Patrick.



Yn ystod haf 2011, fe wnes i raddio o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg. Cyn hyn, roeddwn yn gweithio yn y Brifysgol fel cymerwr nodiadau, a hefyd wedi gweithio mewn llyfrgell gyhoeddus am rhai blynyddoedd.

Penderfynais wneud cais am swydd myfyriwr gradd o dan hyfforddiant er mwyn ennill profiad gwerthfawr. Mae fy rôl yma yn amrywiol iawn – rwy’n gweithio mewn pedwar tîm gan gynnwys Gwasanaethau Academaidd. Fel person o dan hyfforddiant rwy’n dysgu sut mae Gwasanaethau Academaidd yn gweithio ochr yn ochr â’r timoedd eraill er mwyn cynnig gwasanaeth llyfrgell a chyfrifiadurol effeithiol.

Wednesday, 22 August 2012

Arsylwad Torfol Arlein (Mass Observation Online): Hanes Cymdeithasol Prydain 1937-1972

Pwrcasiad pwysig gan Llyfrgell y Brifysgol


Ewch i Mass Observation Online: http://www.massobservation.amdigital.co.uk/
Gellir ei weld hefyd trwy gyfrwng Cronfeydd Data A-Z yn Primo. Oddi ar y campws gellir cael mynediad trwy gyfrwng Shibboleth (Mewngofnodwch i Primo) a’r VPN.
Mae Mass Observation Online yn awr ar gael i fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth yn dilyn prynu trwydded barhaol gan Llyfrgell y Brifysgol.
Fe wnaeth y prosiect ymchwil adnabyddus hwn gasglu data am agweddau cymdeithasol Prydeinwyr trwy gyfrwng holiaduron a gwblhawyd gan wirfoddolwyr, gan archwilwyr yn cofnodi ymddygiad a sgyrsiau mewn mannau a digwyddiadau cyhoeddus, a chan banel o ddyddiadurwyr.
I gychwyn archwilio gweler y cyfarwyddiadau yma.

Thursday, 19 July 2012

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd #6

Eleni bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd. Y tro hwn, mae'n y llyfrgellydd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Ieithoedd Modern, a Theatr, Ffilm a Theledu.

Joy Cadwallader

Joy Cadwallader ydw i, bues i’n fonitor yn llyfrgell yr ysgol, adeiladwr catalog llyfrgell ar-lein yn fy 20au, ymgynghorydd ar ddesg gymorth TG mewn llyfrgell yn fy 30au ac erbyn hyn rwy’n llyfrgellydd dysgu ac addysgu yn fy 40au. Mae’r llyfrau yn fy nilyn i o gwmpas :)

Yn y gwaith, mae gennyf ddiddordeb mewn sut y gallai llyfrgellwyr helpu myfyrwyr ar yr adegau pan ddisgwylir mwy ganddynt e.e. wrth gychwyn ar radd, dechrau traethawd hir neu wrth gychwyn ar astudiaethau uwchraddedig. Yn y flwyddyn academaidd nesaf, bwriadaf dreulio mwy o amser mewn adrannau academaidd fel y gallwch ofyn unrhyw gwestiynau imi wrth fynd heibio, ac fel y gallaf innau gael gwybod mwy am sut a phryd y gallwn ni eich helpu chi orau o safbwynt hyfforddi, adnoddau a chymorth. Yn fy amser hamdden rwy’n astudio am radd Meistr mewn Llyfrgellyddiaeth a Gwybodaeth (rhan amser drwy ddysgu o bell), gan ychwanegu rhywfaint o ddamcaniaeth at fy arsylwadau a’r adborth a gaf yn y gwaith.

Wednesday, 4 July 2012

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd #5

Eleni bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd. Y tro hwn, mae'n y llyfrgellydd Gyfrifiadureg, ac Mathemateg a Ffiseg.

Sahm Nikoi
Cefais fy ngeni mewn rhan o’r byd sy’n cael ei gysylltu â ‘newyn llyfrau’. Yn y gorllewin mae’r syniad o lyfrgell yn creu delwedd benodol; mae’r ddelwedd hon yn wahanol iawn mewn nifer o rannau o Affrica heddiw, lle mae llyfrgelloedd yn cael eu disgrifio’n aml yn nhermau ‘canolfan adnoddau gymunedol’, ‘llyfrgell wledig’, ‘llyfrgell y ces’,  ‘llyfrgell droednoeth’, ‘llyfrgell y camel’ a ‘llyfrgell y cartref’ i enwi dim ond rhai enghreifftiau. Wedi’r chweched dosbarth, gwnes fy Ngwasanaeth Cenedlaethol mewn cymuned ar y Cape Coast lle roeddwn yn hyrwyddo  sgiliau darllen mewn ysgolion cynradd gyda Bwrdd Llyfrgelloedd Ghana. Gan fod y brif lyfrgell rai cilomedrau i ffwrdd, fe’m gorfodwyd i ddyfeisio ffyrdd arloesol o gynnig gwasanaethau llyfrgell i’r gymuned, a’r ferfa oedd fy ateb, profiad a esgorodd ar yrfa oes mewn Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth. Oherwydd hyn hoffaf ddisgrifio fy hun fel y llyfrgellydd berfa (gweler t.184), a dyma oedd dechrau gyrfa mewn Gwasanaethau Gwybodaeth a Llyfrgell.

Thursday, 14 June 2012

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd

Eleni bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd. Y tro hwn, mae'n y llyfrgellydd Addysg A Dysgu Gydol Oes,
ac
Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd.

Elgan Davies

Deuthum i weithio yn Llyfrgell y Brifysgol, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn syth o’r ysgol fel Cynorthwyydd Llyfrgell yn y Llyfrgell Gyffredinol yn yr Hen Goleg, a oedd bryd hynny yn brif lyfrgell, ac roedd holl adrannau’r celfyddydau yn y dref. Arhosais am ddwy flynedd cyn gadael i ddilyn cwrs gradd yn y Gymraeg a Hanes Cymru a threulio blwyddyn wedyn yn dilyn cwrs Tystysgrif Graddedigion yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru (Adran Astudiaethau Gwybodaeth nawr) a oedd yn sefydliad annibynnol ar y pryd.

Erbyn i mi ddychwelyd i’r brifysgol fel aelod o staff roedd y symud araf ‘i fyny’r rhiw’ wedi cyflymu ac roedd Llyfrgell Hugh Owen wedi agor fel prif lyfrgell y brifysgol. Ond rhoddodd argyfwng olew ac anghydfod gaeafau caled y saithdegau daw i hynny am rai blynyddoedd a gofynnwyd i mi ofalu am y Llyfrgell Gyffredinol, neu Ystafell Ddarllen i Israddedigion fel y’i gelwid ar y pryd, a oedd yn gwasanaethu’r adrannau dysgu hynny a oedd yn dal yn y dref ac yn aros i Floc y Celfyddydau 3 gael ei adeiladu – ond ni ddigwyddodd hynny.

Wednesday, 30 May 2012

Manylion diweddaraf Adnoddau’r Gyfraith a Throseddeg

 
Canolfan Astudiaethau Trosedd a Chyfiawnder
Rhowch eich enw i lawr i dderbyn e-fwletinau a llawer mwy.

Casetrack
Cronfeydd-data chwiliadwy o drawsysgrifiadau achosion ar gael i ni yn ddi-dâl i ddibenion academaidd yn unig. Gellir cael mynediad awtomatig ar y campws and bydd angen mewngofnod a chyfrinair ar wahân oddi ar y campws (anfonwch ebost at lis@aber.ac.uk i gael y cyfrinair a’r enw defnyddiwr, gan roi eich enw llawn, eich mewngofnod PA, a chyfeirnod modiwl eich cwrs).

Friday, 18 May 2012

Adnoddau ar Gyfer Cyrsiau: LION (Literature Online)

















Mae Literature Online neu LION fel y caiff ei restru yn Cronfeydd Data A-Z ar Primo yn adnodd ardderchog i fyfyrwyr Saesneg. Gwnewch yn siŵr eich bod yn Mewngofnodi i Primo http://primo.aber.ac.uk ac yn mynd i Cronfeydd Data A-Z i ddod o hyd i LION. Gallwch ddewis Saesneg fel y categori i ddangos yr holl Gronfeydd Data Saesneg neu gallwch chwilio o dan Enw. 





Wednesday, 2 May 2012

Lansio gwefan newydd o fapiau o’r gorffennol


Mae’r casgliad unigol ehangaf o fapiau hanesyddol o bob cwr o’r byd bellach ar gael ar-lein.


Bydd y safle, a gaiff ei disgrifio gan ei chrewyr fel "tebyg i Google ar gyfer hen fapiau", yn gadwrfa ganolog i gasgliad eang o fapiau a gedwir gan sefydliadau ledled y byd. Dyma’r tro cyntaf y mae mynediad i gasgliad mor eang wedi bod ar gael ar-lein, sy’n ei gwneud yn hawdd darganfod a chymharu mapiau dros amser mewn ffordd hynod o weledol heb orfod cael gwybodaeth arbenigol. Mae’r gwasanaeth, a gyflwynir gan Brifysgol Portsmouth, yn lansio gyda thros 60,000 o fapiau, a bydd y rhif hwn yn dyblu erbyn diwedd y flwyddyn.


Ewch i Old Maps Online i chwilio am fapiau yn ôl lleoliad, dyddiad neu gasgliad. Ceir hyd i safleoedd cynnwys JISC eraill.

Friday, 13 April 2012

Adnoddau ar gyfer Cyrsiau: EDINA Agcensus

Os ydych yn astudio Amaethyddiaeth yma yn Aberystwyth, mae’n bosibl y bydd EDINA agcensus yn ddefnyddiol i chi. Mae Agcensus yn cynnig mynediad ar-lein i ddata sy’n deillio o UK Agricultural Censuses. Ceir yma gyfoeth o wybodaeth sy’n ymestyn yn ôl i 1969, ac yn ddiweddar ychwanegwyd ato ystadegau o Gyfrifiadau 2010.














Cynhelir y Cyfrifiad Amaethyddol yn flynyddol ym mis Mehefin gan adrannau’r llywodraeth sy’n ymwneud ag Amaethyddiaeth a Materion Gwledig yn yr Alban, Lloegr a Chymru (h.y. SEERADDEFRA ac Adran yr Amgylchedd a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cymru). Mae pob ffermwr yn nodi ar holiadur post y gwaith amaethyddol a wneir ar ei dir. Yna mae’r adrannau llywodraeth perthnasol yn casglu’r 150 eitemau o wybodaeth ac yn cyhoeddi’r wybodaeth sy’n ymwneud â daliadau ffermydd yn y Deyrnas Gyfunol.

Friday, 17 February 2012

Sioe Deithiol Primo


Mae’r llyfrgell yn dod atoch chi!
Galwch heibio i ofyn cwestiynau am Primo, neu sut i ddod o hyd i adnoddau, ar y dyddiadau canlynol (ychwanegir dyddiadau pellach maes o law).
  • Dydd Iau 28 Mehefin, 1pm – 2pm, Ystafell 017/018 Adran Astudiaethau Gwybodaeth, Campws Llanbadarn
  •  Dydd Iau 19 Ebrill, 1yp-2yp, Ystafell 017/018 Adran Astudiaethau Gwybodaeth, Campws Llanbadarn 
  • Dydd Iau 8 Mawrth, 2-4yp, cyntedd Penbryn 5 (Adran Seicoleg / Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes),Campws Penglais
  • Dydd Gwener 9 Mawrth, 10yb-1yp, cyntedd Penbryn 5 (Adran Seicoleg / Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes),Campws Penglais
  • Dydd Mawrth 13 Mawrth, 10yb-12yp, cyntedd Adran Astudiaethau Gwybodaeth, Campws Llanbadarn
  • Dydd Mercher 14 Mawrth, 10yb-1yp, cyntedd Penbryn 5 (Adran Seicoleg / Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes),Campws Penglais
  • Dydd Iau, Mawrth 15fed, 10.30yb-1.30yp, cyntedd Labordai William Davies (IBERS), Campws Gogerddan, Penrhyncoch

Thursday, 26 January 2012

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd #3

Y tymor hwn bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd. Y tro hwn, mae'n y llyfrgellydd Seicoleg.

Karl Drinkwater
Rwy’n un o’r bobl hynny a ddaeth i Aberystwyth i ennill cymhwyster (MSc mewn Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth yn f’achos i) ac a arhosodd yma, oherwydd ei bod yn haws na cheisio dal trên oddi yma. Roedd hynny dros dair blynedd ar ddeg yn ôl ac rwyf wedi bod yn gweithio fel llyfrgellydd ym Mhrifysgol Aberystwyth byth ers hynny. Rwy’n arbenigo ym maes llythrennedd gwybodaeth (sut yr ydym yn cael hyd i wybodaeth, ei gwerthuso a’i defnyddio); adnoddau electronig; systemau canfod adnoddau; cyfryngau cymdeithasol; a chynorthwyo myfyrwyr rhyngwladol. Rwy’n llyfrgellydd i’r Adran Seicoleg hefyd. Tan yn ddiweddar, bûm hefyd yn gweithio fel technolegydd e-ddysgu rhan-amser ar gyfer JISC RSC Cymru am nifer o flynyddoedd.


Thursday, 19 January 2012

Daliadau o gasgliadau cyfnodolion printiedig


Os gwelwch yn dda a wnewch chi ledaenu’r neges ganlynol ymhlith eich cydweithwyr yn yr Adran:

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn parhau i adolygu eu daliadau o gasgliadau cyfnodolion printiedig yn unol â Pholisi Rheoli Casgliadau GG.

Mae’r rhestr o’r teitlau sydd yma wedi eu clustnodi i’w tynnu yn ôl o dan gynllun UKRR o ganlyniad i ddiffyg galw dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Os gwelwch yn dda mynnwch olwg ar y rhestr hon a rhowch wybod i ni os ydych o’r farn y dylid eu cadw ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fodd bynnag, cofier bod y teitlau a gynigir i UKRR ar gael am byth o’r Llyfrgell Brydeinig lle y’u cedwir mewn amgylchedd addas. Os ydych am gadw’r teitlau hyn rhaid ichi ddatgan eich rhesymau erbyn Mawrth 30ain 2012.

Diolch.
Val Fletcher, vvf@aber.ac.uk
Arweinydd Tîm Rheoli Casgliadau, Gwasanaethau Gwybodaeth

Thursday, 12 January 2012