Wednesday 22 December 2010

Arfer gorau ynghylch llythrennedd gwybodaeth


Mae astudiaethau achos newydd, sy’n amlygu’r arfer gorau ynghylch llythrennedd gwybodaeth ar draws holl sectorau llyfrgelloedd ac addysg yng Nghymru, newydd eu cyhoeddi gan Brosiect Llythrennedd Gwybodaeth Cymru.

Maen nhw’n helpu i bwysleisio pwysigrwydd llythrennedd gwybodaeth – am ragor o wybodaeth, ewch draw i wefan y prosiect.

Monday 6 December 2010

Sgwrs am Chwilota'r We


Sut mae peiriannau chwilio'n gweithio? Sut y gallwch chi gael gwell lwc wrth chwilota'r we a gwybod pa mor berthnasol yw'r canlyniadau? A ydych yn awyddus i gael awgrymiadau sylfaenol am ddefnyddio peiriannau chwilio?

Cynhelir sgwrs agored am y pynciau hyn ar ddydd Mercher, Rhagfyr yr 8fed rhwng 2 a 3 o'r gloch yn Ystafell 0.01, Adeilad Edward Llwyd.

Monday 29 November 2010

Arddangosfa darllenwyr e-lyfrau


Mae gan Gwasanaethau Gwybodaeth nifer o ddarllenwyr e-lyfrau yn y stoc benthyg ac fe ellir eu benthyca (am ddim!) am 14 diwrnod ar y tro. Fel arbrawf rydyn ni'n rhoi un ohonynt ar gyfer defnydd agored yng Nghasgliad Ffuglen Gyfoes Llyfrgell Hugh Owen - ar y chwith wrth i chi ddod i mewn i’r llyfrgell.

Mae wedi'i lwytho â dewis eang o nofelau, dramâu, cerddi a straeon byrion i chi bori trwyddynt yn eich amser eich hun.

Os yw'r e-ddarllenwr yn apelio atoch a'ch bod yn awyddus i fenthyca un, cysylltwch ag aelod o staff yn y ddesg Cyfryngau a Gwerthiannau ar Lawr D i gael manylion.

Friday 29 October 2010

Llên-ladrad ac arfer academaidd da

Noder: mae hwn yn hen fersiwn. Os gwelwch yn dda gweld y sgwrs yn newydd yma.

Isod gallwch weld y fideo o sgwrs bymtheng munud o hyd a draddodwyd i israddedigion yn yr Adran Seicoleg gan Karl Drinkwater ddydd Iau, 30 Medi 2010. Mae’n cwmpasu hanfodion llên-ladrad a sut i’w osgoi drwy fabwysiadu arfer academaidd da. Ychwanegwyd is-deitlau. I gael rhagor o wybodaeth am lên-ladrad ac arfer academaidd da, edrychwch ar y tudalennau hyn; ac yma am wybodaeth SafeAssign.



Friday 22 October 2010

Dod o hyd i lyfr yn y llyfrgell

Bydd y wybodaeth yma yn help i chi i ganfod y llyfr yr ydych ei angen yn y Llyfrgell Hugh Owen.

Gallwch nawr hefyd wylio ein fideo newydd sydd yn mynd a chi gam wrth gam drwy'r broses.

Friday 6 August 2010

Dwy sesiwn hyfforddi newydd



Mae JISC Digital Media, drwy gydweithredu â Virtual Training Suite (VTS) wedi cyflwyno dwy sesiwn hyfforddi newydd ar y we, sef “Internet for Audio Resources” ac “Internet for Video and
Moving Images
”. Mae’r sesiynau hyn ar gael am ddim, a’i nod yw helpu staff a myfyrwyr yn y sector addysg i ddod o hyd i ddeunydd sain a fideo i’w ddefnyddio wrth ddysgu.

Thursday 27 May 2010

BFI InView


Rydym newydd drefnu i’n defnyddwyr gael defnyddio gwasanaeth InView y BFI. Mae’n cynnwys mwy na 2,000 o deitlau ffilm a theledu, nad ydynt yn gynyrchiadau ffuglenol, o’r 20g tan ddechrau’r 21g. Mae’n hawdd chwilio drwy’r teitlau ac mae wedi’i drefnu yn ôl chwech o brif themâu, a phob un â thraethawd cyflwyniadol gan hanesydd academaidd.

Tuesday 18 May 2010

Arolwg Critigol: Tynnu’n ôl cyfnodolion print a chynllunio symud casgliadau

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn parhau i arolygu mynediad i gasgliadau cyfredol o gyfnodolion print. Mae staff a myfyrwyr yn gwneud defnydd mwyfwy o adnoddau electronig o’i gymharu â chyfnodolion print ac mae’r galwadau ar ofod yn Llyfrgell Hugh Owen yn cynyddu wrth iddi ddechrau darparu gwasanaeth i’r adrannau sy’n cael eu symud i Gampws Penglais.
Oherwydd hyn y mae angen cynnal arolwg critigol o’r casgliadau llyfrgell presennol a’r cam nesaf yw ystyried tynnu’n ôl cyfnodolion print y celfyddydau, dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol sydd ar gael yn electronig ar JSTOR o dan y cynllun UKRR.

Gweler yma restr o holl gyfnodolion y celfyddydau, dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol sydd ar gael ar JSTOR

Friday 7 May 2010

Principia Newton ar Early English Books Online


Gellir gweld Principia Newton a ymddangosodd ym mhennod gyntaf The Story of Science ar BBC2 yn Early English Books Online (EEBO). Mae pob tudalen wedi ei digideiddio fel y gall staff a myfyrwyr PA gael cipolwg ar y testun fel a ymddangosodd yn wreiddiol yn 1687. Mae EEBO yn cynnwys dros 125,000 o’r llyfrau cynharaf a argraffwyd yn yr iaith Saesneg ac mae chwiliadau testun llawn eisoes wedi eu hychwanegu at nifer o’r teitlau sydd wedi eu digideiddio. Porwch ymhlith rhestr o adnoddau arlein pwysig y mae Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifio iddynt, neu gellir eu gweld wedi eu crynhoi fesul pwnc yn yr eLyfrgell.

Wednesday 5 May 2010

Astudiaeth Gofod Astudio Gwasanaethau Gwybodaeth


Mae Grŵp Gofodau Dysgu'r Brifysgol angen eich cymorth i weld pa fath o ofodau sydd eu hangen ar gyfer eich astudiaethau/ymchwil trwy ofyn ichi lenwi'r arolwg hwn. Byddwn yn defnyddio'r canlyniadau i lunio ein cynlluniau.

Dim ond tair tudalen o gwestiynau byr sydd i'r arolwg -- mae gwir angen eich mewnbwn arnom. Felly os gwelwch yn dda cwblhewch cymaint ohono ag sy'n bosib.

Bydd yr arolwg sy'n cymryd rhyw 15 munud i'w lenwi yn ddienw. Gellir ei arbed wrth ichi ei lenwi.

Thursday 15 April 2010

Llyfrgell Hugh Owen - 'chwart i botel peint'



 
Fel y gwyddoch mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn gwneud arolwg o’r defnydd a wneir o gasgliadau cyfredol o gyfnodolion. Mae staff a myfyrwyr yn gwneud defnydd mwyfwy o adnoddau electronig o’i gymharu â chyfnodolion wedi’u hargraffu ac mae’r galwadau ar ofod yn Llyfrgell Hugh Owen yn cynyddu wrth iddi ddechrau darparu gwasanaeth i’r adrannau sy’n cael eu symud i Gampws Penglais.

Oherwydd hyn y mae angen cynnal arolwg critigol o’r casgliadau llyfrgell presennol ac i’r perwyl hwn rydym wedi nodi’r canlynol:

Friday 9 April 2010

Diwrnod Technoleg Newydd ac Arloesi 15 Ebrill 2010


Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn gwahodd staff i fynychu diwrnod arbennig lle cânt gyfle i weld y datblygiadau diweddaraf mewn TGCh yn Aberystwyth. Gallai’r dechnoleg a welwch chi ar y diwrnod fod o gymorth i chi yn eich gwaith a/neu eich helpu chi i addysgu’n fwy effeithiol. Gwybodaeth bellach. Manylion y Cwrs ac i Archebu Lle.

Tuesday 23 March 2010

Who’s Who (a Who Was Who)






Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn awr yn tanysgrifio i Who’s Who (a Who Was Who) arlein ar:

http://www.aber.ac.uk/cy/is/elecinfo/eiaz/#w

neu yn Adran Gyfeiriadol yr eLibrary:

http://www.aber.ac.uk/cy/is/elibrary/

Friday 12 February 2010

Gwobrau Arloesi Marchnata


Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth wedi ennill categori Llyfrgelloedd Addysg Uwch yng Ngwobrau Arloesi Marchnata CyMAL 2009-10. Mae’r gwobrau hynny’n dathlu marchnata arloesol yn llyfrgelloedd Cymru. Roedden ni wedi cystadlu ar sail y diwrnod Ymarfer Academaidd Da a gynhaliwyd gennym yn Urdd y Myfyrwyr.

Digwyddiad ar y cyd ydoedd, gyda chydweithredu rhwng staff y Gwasanaethau Gwybodaeth ac yr Urdd y Myfyrwyr, Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, y Gronfa Lenyddol Frenhinol, ac academyddion. Diolch i bawb a gymerodd ran am eu cymorth.



Friday 22 January 2010

Cyfnewid Llyfrau


O ganlyniad i’w phoblogrwydd, bydd Llyfrgell Hugh Owen yn cynnal cyfnewidfa lyfrau barhaol ar Lawr D, ger y Ddesg Groeso. Y gwahoddiad i ddefnyddwyr y llyfrgell yw 'dewch â llyfr, ewch â llyfr'.

Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim. Mae gennym amrywiaeth eang o lyfrau sydd wedi eu rhoi neu eu cyfnewid gan ddefnyddwyr ac mae’r casgliad yn newid o hyd. Felly dewch â hen lyfr i’w gyfnewid.