Thursday 19 July 2012

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd #6

Eleni bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd. Y tro hwn, mae'n y llyfrgellydd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Ieithoedd Modern, a Theatr, Ffilm a Theledu.

Joy Cadwallader

Joy Cadwallader ydw i, bues i’n fonitor yn llyfrgell yr ysgol, adeiladwr catalog llyfrgell ar-lein yn fy 20au, ymgynghorydd ar ddesg gymorth TG mewn llyfrgell yn fy 30au ac erbyn hyn rwy’n llyfrgellydd dysgu ac addysgu yn fy 40au. Mae’r llyfrau yn fy nilyn i o gwmpas :)

Yn y gwaith, mae gennyf ddiddordeb mewn sut y gallai llyfrgellwyr helpu myfyrwyr ar yr adegau pan ddisgwylir mwy ganddynt e.e. wrth gychwyn ar radd, dechrau traethawd hir neu wrth gychwyn ar astudiaethau uwchraddedig. Yn y flwyddyn academaidd nesaf, bwriadaf dreulio mwy o amser mewn adrannau academaidd fel y gallwch ofyn unrhyw gwestiynau imi wrth fynd heibio, ac fel y gallaf innau gael gwybod mwy am sut a phryd y gallwn ni eich helpu chi orau o safbwynt hyfforddi, adnoddau a chymorth. Yn fy amser hamdden rwy’n astudio am radd Meistr mewn Llyfrgellyddiaeth a Gwybodaeth (rhan amser drwy ddysgu o bell), gan ychwanegu rhywfaint o ddamcaniaeth at fy arsylwadau a’r adborth a gaf yn y gwaith.

Rhwng y gwaith a’r astudio rwy’n hoffi cerdded yn y bryniau, coginio gyda thsilis a gwrando ar yr Archers a Radiohead (ond ddim ar yr un pryd). Pan gaf y cyfle, rwy hefyd wrth fy modd yn dawnsio neuadd a chanu carioce.

No comments: