Wednesday 26 September 2012

Adnoddau ar Gyfer Cyrsiau: Cof a’r Cyfryngau yng Nghymru



Mae Prifysgol Aberystwyth ynghyd â Culturenet Cymru a’r BBC wedi cynhyrchu gwefan sydd wedi ei neilltuo i arddangos effeithiau hanesyddol y cyfryngau yng Nghymru.

Mae’r Cof a’r Cyfryngau yng Nghymru, a restrir  yng Nghronfeydd Data A-Z yn Primo yn adnodd defnyddiol yn enwedig ar gyfer myfyrwyr Cymraeg a Hanes Cymru. Mae’r wefan yn darparu cronfa ddata sy’n cofnodi  digwyddiadau gwleidyddol a diwylliannol allweddol ym maes y cyfryngau yng Nghymru, gan ganolbwyntio’n arbennig ar atgofion personol pobl o wahanol rannau o Gymru. 


Mae’r wefan hefyd yn portreadu datblygiad y cyfryngau yng Nghymru; gan edrych ar ddatblygiad S4C a’r cyd-destun gwleidyddol sydd wedi bod yn rhan o ddatblygiad y cyfryngau yng Nghymru.
Mae dylanwad teledu yng Nghymru yn gyffredinol hefyd yn cael ei archwilio a cheir ystod eang o bobl yn rhannu eu profiadau personol.



Am wybodaeth bellach cysyllter ag Iwan Rhys Morus.

Professor of History
Department of History and Welsh History
Hugh Owen Building
Aberystwyth University
Aberystwyth
SY23 3DY

irm@aber.ac.uk
Academic Services
acastaff@aber.ac.uk
01970 621986

No comments: