Thursday 26 January 2012

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd #3

Y tymor hwn bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd. Y tro hwn, mae'n y llyfrgellydd Seicoleg.

Karl Drinkwater
Rwy’n un o’r bobl hynny a ddaeth i Aberystwyth i ennill cymhwyster (MSc mewn Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth yn f’achos i) ac a arhosodd yma, oherwydd ei bod yn haws na cheisio dal trên oddi yma. Roedd hynny dros dair blynedd ar ddeg yn ôl ac rwyf wedi bod yn gweithio fel llyfrgellydd ym Mhrifysgol Aberystwyth byth ers hynny. Rwy’n arbenigo ym maes llythrennedd gwybodaeth (sut yr ydym yn cael hyd i wybodaeth, ei gwerthuso a’i defnyddio); adnoddau electronig; systemau canfod adnoddau; cyfryngau cymdeithasol; a chynorthwyo myfyrwyr rhyngwladol. Rwy’n llyfrgellydd i’r Adran Seicoleg hefyd. Tan yn ddiweddar, bûm hefyd yn gweithio fel technolegydd e-ddysgu rhan-amser ar gyfer JISC RSC Cymru am nifer o flynyddoedd.




Fel myfyriwr israddedig, bûm yn astudio am radd anrhydedd cyfun yn y Clasuron a Saesneg (Dosbarth Cyntaf). Mae’r ddau bwnc yn rhagorol o ran rhoi trosolwg eang ar gyd-destun ein diwylliant. Mae’r ffaith bod cyn lleied o brifysgolion yn dysgu’r Clasuron fel pwnc ar wahân yn destun tristwch i mi, a hynny oherwydd ei bod mor ddiddorol cael cyfle i astudio iaith, celf, pensaernïaeth, hanes, llenyddiaeth, drama, barddoniaeth ac athroniaeth i gyd ar un cwrs. Bu i mi arbenigo ym maes iaith a diwylliant Hen Roeg, gan fod hanes y Rhufeiniaid a Lladin yn rhy fodern i mi.

Ym mis Mehefin 2011, roeddwn i ymhlith y rheini a enillodd Gymrodoriaeth Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth. Rwy’n mawr obeithio y byddaf yn ennill statws FHEA yn y dyfodol agos (Cymrawd yr Academi Addysg Uwch, sef math o gydnabyddiaeth broffesiynol sy’n cael ei adolygu gan gymheiriaid – enillais statws Cydymaith yn 2007).

Caiacio ar yr Ystwyth

Pan nad wyf yn gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth, rwy’n ysgrifennu ffuglen: ffuglen lenyddol am fywyd a pherthynas pobl â’i gilydd weithiau; ffuglen am sombïaid neu fodau arallfydol tentaclog bryd arall. Mae’n dibynnu ar fy hwyliau. Fe gewch hyd i’m blog ysgrifennu yma. Rwyf hefyd wrth fy modd ag ymarfer corff (rhedeg, seiclo, caiacio, nofio, ychydig o ioga); gêmau cyfrifiadurol; bod mewn ardaloedd naturiol; creaduriaid â ffwr, cennau neu blu; a sombïaid. Rwy’n fegan ers dros 20 mlynedd. Fe allaf sgwrsio â chi yn Gymraeg os byddwch yn siarad yn araf.

Ar y ffordd i Ynys Gifftan (yr ynys yn y cefndir; y tu hwnt i Portmeirion)

Gweler hefyd: diwrnod ym mywyd llyfrgellydd.

Rhai cyhoeddiadau ac anerchiadau sy’n ymwneud â llyfrgelloedd
  • Mehefin 2011: Making information skills interesting: gaps, beanbags and congas. Anerchiad ar y cyd yng Nghynhadledd WHELF Gregynog 2011.
  • Ebrill 2011: Working in Academic Libraries - A focus on current professional issues. Anerchiad fel siaradwr gwadd am sut y gallwn gynorthwyo dysgwyr drwy hyrwyddo llythrennedd gwybodaeth a defnyddio technolegau priodol.
  • Gaeaf 2010: E-book readers: what are librarians to make of them? Erthygl yn Sconul Focus.
  • Haf 2010: Mind the GAP - avoiding pitfalls with Good Academic Practice - An attempt to take information skills out of the library. Erthygl a ysgrifennwyd ar y cyd yn Y Ddolen / Information Wales (51), tt9-11.
  • Mawrth 2010: E-books Exchange of Experience Day. Rhoddais ddau gyflwyniad yn nigwyddiad Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru yng Nghaerdydd: y naill am sut y gall peiriannau darllen e-lyfrau gynorthwyo myfyrwyr a’r llall am ddefnyddio e-lyfrau fel adnoddau ymchwil ac addysgu mewn colegau addysg bellach.

No comments: