Wednesday 5 September 2012

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd

Eleni bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd. 

Kieran Smith

Helo, fi yw Kieran, yr unig fyfyriwr gradd o dan hyfforddiant yn y Gwasanaethau Gwybodaeth yn ystod y flwyddyn academaidd 2012-13, ac yn dilyn ôl troed Adam a Patrick.



Yn ystod haf 2011, fe wnes i raddio o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg. Cyn hyn, roeddwn yn gweithio yn y Brifysgol fel cymerwr nodiadau, a hefyd wedi gweithio mewn llyfrgell gyhoeddus am rhai blynyddoedd.

Penderfynais wneud cais am swydd myfyriwr gradd o dan hyfforddiant er mwyn ennill profiad gwerthfawr. Mae fy rôl yma yn amrywiol iawn – rwy’n gweithio mewn pedwar tîm gan gynnwys Gwasanaethau Academaidd. Fel person o dan hyfforddiant rwy’n dysgu sut mae Gwasanaethau Academaidd yn gweithio ochr yn ochr â’r timoedd eraill er mwyn cynnig gwasanaeth llyfrgell a chyfrifiadurol effeithiol.



Yn The Cavern, Lerpwl.
Rwy’n mwynhau gweithio gyda fy nghydweithwyr cyfeillgar yn y llyfrgell ac yn arbennig o hoff o gynorthwyo cwsmeriaid a rhyngweithio gydag aelodau staff a myfyrwyr sy’n galw heibio.

Pan nad wyf yn gweithio yn y Brifysgol, rwy’n mwynhau chwarae cerddoriaeth, seiclo a mynychu ambell i ddosbarth ioga. Pan fydd cyfle, rwyf hefyd yn chwarae gitâr fâs mewn band sy’n canu yn steil y 60au.

Y Newyddion Diweddaraf (Medi 2013): Mae Kieran bellach yn llyfrgellydd yn Sbaen! "Bibliotecario, gallech ddweud."

No comments: