Wednesday 12 January 2011

O LE i OFOD: Amgylchfyd dysgu sy’n ysbrydoli.

Pwnc a’m cyfareddodd erioed yw cynllunio gofod yn greadigol er mwyn ffurfio ymddygiad dysgu. Fe’m magwyd mewn cyfnod pan hyrwyddwyd y syniad fod dysgu ond yn digwydd mewn LLE (Disgybl, Gwersi, Awdurdod yr athro/athrawes, Ystafell Ddosbarth ac Arholi). Yn ystod y degawdau diwethaf, cafwyd newid patrwm sydd bellach yn hyrwyddo’r syniad o amgylchfyd dysgu fel GOFOD (Cymdeithasol, Cyfranogol, Addasiadol, Cydweithredol, Technolegol Uwch a Rhannu).


Yn ystod y ddau fis diwethaf, mynychais ddau weithdy ar gynllunio amgylchfyd dysgu. Trefnwyd y cyntaf gan yr Athro Peter Jamieson o Brifysgol Melbourne. Yn ystod ei gyflwyniad, pwysleisiodd Peter fod pobl yn dysgu drwy siarad, cyffwrdd a rhyngweithio. Fe ddisgrifiodd fathau gofodol (unigol, grŵp, a chymdeithasol) er mwyn tynnu sylw at yr angen am gynlluniau gofodol sy’n galluogi posibiliadau o ran dysgu a hefyd sut y gellir defnyddio cyfyngiadau posibl i greu posibiliadau dysgu newydd. Nododd fod yn rhaid i bynciau megis perchenogaeth a rheolaeth, maint, TG, diogelwch, anghenion arbennig, anghenion cymdeithasol a gweithio cydweithredol fod yn rhan o’r posibiliadau a gymerir yn ganiataol wrth wella’r profiad o ddysgu.

Cyflwynwyd y gweithdy mwyaf diweddar imi ei fynychu gan Les Watson, gynt o Brifysgol Glasgow Caledonian a bellach yn ymgynghorydd ar gyfer rhaglen e-ddysgu Amgylchfyd Dysgu drwy Gymorth Technoleg y Cyd-bwyllgor Systemau Gwybodaeth. Pwysleisiodd Les yr angen i gynnig llwybrau newydd i ddysgwyr eu harchwilio ac i gynllunwyr feddwl am adeiladau fel proffwydoliaethau. Mae hyn yn golygu symud oddi wrth ddarparu “gwasanaethau” yn unig i lwyfannu profiadau dysgu. I Les, nid pensaernïaeth yn unig yw’r adeiladau, ond mi ddylent fod yn adeiladau sy’n ysgogi effaith emosiynol ac yn ysbrydoli cenhedlaeth o syniadau.
Fel llyfrgellydd, rwy’n ei chael hi’n od fod yna adeiladau llyfrgell digalon o hyd, a’r lloriau’n llawn silffoedd o un pen i’r llall, sy’n golygu nad yw’r defnyddwyr yn cael fawr o le i ryngweithio a chymdeithasu. A ddylai llyfrgelloedd ganolbwyntio ar ddarparu adnoddau neu ddarparu gwasanaeth, a ddylent fod yn llefydd i ddysgu neu yn ofod ar gyfer creu syniadau? A oes angen adeiladau llyfrgell arnom neu amgylchfyd byw heb ffiniau sy’n ysgogi cyfleoedd dysgu di-ben-draw a ysbrydolir gan gymdeithasu, sgwrsio, cydweithredu a chwarae hyd yn oed? Diolch i’r drefn, mae Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth yn symud tua’r cyfeiriad o greu gofod llyfrgell sy’n ysbrydoli myfyrio, cydweithredu a sgwrsio.

No comments: