Mae Literature Online neu LION fel y caiff ei restru yn
Cronfeydd Data A-Z ar Primo yn adnodd ardderchog i fyfyrwyr Saesneg. Gwnewch yn
siŵr eich bod yn Mewngofnodi i
Primo http://primo.aber.ac.uk ac yn mynd i Cronfeydd
Data A-Z i ddod o hyd i LION. Gallwch ddewis Saesneg fel y categori i
ddangos yr holl Gronfeydd Data Saesneg neu gallwch chwilio o dan Enw.
Dyma rai o uchafbwyntiau’r Casgliad Craidd;
- Casgliadau Barddoniaeth, Drama a Rhyddiaith sy’n dyddio nôl mewn
rhai achosion i’r 8fed ganrif
- Cyfnodolion llenyddiaeth
- Cyfres Cydymaith Llenyddiaeth o Wasg Prifysgol Caergrawnt
- Pymtheg o weithiau cyfeirio llenyddiaeth blaenllaw
- Beibl King James
- Gwyddoniaduron Llenyddol ac Ieithyddol
- Holl ddramâu Shakespeare, y 38 ohonynt, mewn recordiadau sain
wedi’u dramateiddio
Mae gan LION hefyd rai dewisiadau chwilio hawdd iawn i’w defnyddio. Gallwch chwilio yn ôl Awdur, Testunau, neu Feirniadaethau a Chyfeiriadau sy’n dod o hyd i gyfeiriadau at erthyglau mewn cyfnodolion o’r Annual Bibliography of English Language and Literature a ffynonellau eraill. Mae dewisiadau chwilio uwch sy’n eich galluogi i gyfyngu eich canlyniadau i ymchwilio’n fwy effeithiol.
Os oes gennych gwestiynau neu sylwadau, neu os hoffech drefnu hyfforddiant neu sesiwn atgoffa ar gyfer adnoddau ar-lein ym Mhrifysgol Aberystwyth, cysyllwch â:
Gwasanaethau Academaidd
acastaff@aber.ac.uk
01970 621896
Gwasanaethau Academaidd
acastaff@aber.ac.uk
01970 621896
No comments:
Post a Comment