Thursday 6 September 2012

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd #8

Eleni bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd. Y tro hwn, mae'n y llyfrgellydd Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig; Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear; a Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Steve Smith
Arweinydd Cyfadran dros Wyddoniaeth a Chydlynydd Cymorth Ymchwil Llyfrgell

Fy enw yw Steve Smith.  Ymunais â Gwasanaethau Gwybodaeth y Brifysgol ym mis Ebrill 2008 yn dilyn uniad y brifysgol â’r Sefydliad Ymchwil Glaswelltir ac Amgylcheddol (IGER), ar ôl gweithio fel Llyfrgellydd IGER ar gampws Gogerddan ers mis Awst 2000. Erbyn hyn mae gennyf gyfrifoldeb cyffredinol dros gydlynu cymorth GG i’r gwyddorau o fewn Grŵp Gwasanaethau Academaidd GG, gan gysylltu’n uniongyrchol ag IBERS, IGES a Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Yn ogystal, rwy’n cydlynu cefnogaeth i uwchraddedigion a staff ymchwil ar draws holl adrannau’r Brifysgol. Yn dilyn cyfnod fel Llyfrgellydd Safle yn Llyfrgell Thomas Parry ar Gampws Llanbadarn o fis Awst 2010 ymlaen, byddaf yn gweithio yn Llyfrgell Hugh Owen o fis Awst 2012 ymlaen.

Ar ôl graddio mewn Botaneg Amaethyddol yn Aberystwyth yn 1978 a chyflawni diploma Uwchraddedig mewn Llyfrgellyddiaeth yng Ngholeg Polytechnig Northumbria yn 1979, rwyf wedi ymgymryd â nifer o swyddi fel llyfrgellydd ymchwil, yn y gwyddorau bywyd o fewn cynghorau ymchwil y DU yn bennaf. Dychwelais i Aberystwyth i weithio yn IGER yn 2000, wedi cyfnod o 22 mlynedd i ffwrdd. Er bod ambell siop newydd a bod trefn y traffig wedi newid droeon mewn ambell le, cefais yr argraff gyffredinol nad oedd y dref wedi newid rhyw lawer yn y cyfamser – diolch byth – ac mae ei chymeriad (a’i chymeriadau) unigryw, yn ogystal â’r gymysgedd unigryw o elfennau gwledig/ glan môr/ academaidd sydd i’w cael yma, mor gadarn ag erioed.

Mae fy niddordebau ymchwil personol yn cynnwys technegau trosglwyddo a lledaenu gwybodaeth, dadansoddi dyfyniadau a chymorth allanol i wyddonwyr yn y maes. Mae fy niddordebau hamdden yn cynnwys cerdded (ar fryniau, ar hyd yr arfordir, ac yng nghefn gwlad), golff (ar fryniau, ar hyd yr arfordir, a chefn gwlad gwyllt iawn weithiau!) a llenyddiaeth gomedïaidd. Rwyf ar hyn o bryd yn darllen ac yn ail-ddarllen Jasper Fforde a Terry Pratchett. Mae fy nheulu yn aelodau selog o Eglwys Sant Mihangel yn Aberystwyth, ac rwyf yn gefnogwr brwd o griced Swydd Efrog.

No comments: